Mae'r tirwedd gwleidyddol wedi newid yn ddiweddar - ac mae wedi newid yn sylweddol. Meddyliwch mewn gwirionedd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae cyfryngau prif lif - ac nid eithafwyr ar lein yn unig fel @AubelFelix a @DavidJo2951945 - wedi bod yn ymosod ar farnwyr yn yr Uchel Lys am ddehongli'r gyfraith - eu priod waith, wedi bod yn tynnu sylw at rywioldeb un ohonynt, wedi bod yn ymosod ar y OBR am wneud ei waith a chynghori'r llywodraeth ynglyn a'r rhagolygon cyllidol, wedi cwestiynu didwylledd asiantaethau ymchwil annibynnol, wedi cael eu hunain mewn cyflwr agos at hysteria oherwydd bod Senedd y DU yn cael trafod gweithredu Erthygl 50.
Ychwaneger at hynny yr ymysodiadau dyddiol bron ar fewnfudwyr ac ymgeiswyr lloches, y cam riportio (neu'r dweud celwydd) dyddiol,o wleidyddiaeth yr Alban a'r ymysodiadau mynych digon anymunol ar arweinydd y wlad honno.
Mae anoddefgarwch tuag at ryddfrydiaeth, trefn ddemocrataidd a phrosesau cyfreithiol yn nodweddiadol ffasgaeth glasurol. Felly hefyd yr arfer o feio grwpiau lleiafrifol am pob drygioni, y gred yn uwchraddoldeb y genedl, casineb tuag at grwpiau 'elitaidd ', y gred bod y person cyffredin yn cael ei gam drin gan rymoedd rhyngwladol a grwpiau lleiafrifol a'r ddrwgdybiaeth o ddeallusion. Felly hefyd yr arfer o gynnig atebion syml a chwrs i broblemau cymhleth. Mae'r oll o'r uchod yn gyfarwydd iawn i ddarllenwyr papurau fel y Mail a'r Express heddiw.
Ymddengys bod rhai o'n papurau dyddiol yn dychwelyd at eu gwreiddiau. Mae gan y Mail hen hanes hir o gefnogi'r Dde eithafol - Hitler, Mussolini, Franco a'r weinyddiaeth apartheid yn Ne Affrica. Roedd golygyddion y papur hefyd yn casau Iddewon oedd yn ffoi oddi wrth Natsiaeth yn y 30au yn union fel mae golygyddion y papur heddiw yn casau ffoaduriaid o'r Dwyrain Canol.
Un o'r pethau mwy anymunol am y sefyllfa sydd ohoni ydi ei bod yn llygru a gwyrdroi'r ffordd mae'r Dde, barchus, resymol yn meddwl. Mae'r Blaid Doriaidd wedi symud yn amlwg i'r Dde ers Brexit a rydym yn cael ei gwleidyddion yn dechrau ymddwyn fel ffasgwyr - er enghraifft Glyn Davies yn mynegi nad oedd yn gallu ymddiried mewn academyddion i gynnig sylwebaeth ar Fesur Cymru oherwydd nad oes ganddynt ddigon o brofiad o 'fywyd go iawn', a'r cynghorydd hwnnw a drefnodd ddeiseb i alw am wneud gwrthwynebu gadael yr Undeb Ewropiaidd yn anghyfreithlon.
Does yna ddim byd newydd o dan haul.
No comments:
Post a Comment