Monday, November 28, 2016

Ynglyn ag ad leoli S4C

Dwi'n gwybod fy mod yn mentro swnio'n blwyfol, ond dwi'n meddwl y byddai'n well i mi ddweud pwt am saga ad leoli S4C i Gaerfyrddin.  Bydd darllenwyr Blogmenai yn cofio i'r sianel - yn dilyn edrych yn bryddglwyfus ar ei botwm bol ar ol colli cyllid a gwylwyr - benderfynu ystyried adleoli ei phencadlys yn nes at ei chynulleidfa.  Cafwyd cais gan Coleg y Drindod i gartrefu'r sioe yng Nghaerfyrddin, a gan Cyngor Gwynedd i'w chartrefu yng Nghaernarfon.  

Wedi  dipyn o bendroni penderfynwyd ar Gaerfyrddin.  Roedd hyn yn dipyn o syndod i rai ohonom - mae Gaernarfon yn ganolfan i gwmniau teledu beth bynnag tra nad ydi hynny'n wir am Gaerfyrddin, mae mwy o gynulleidfa S4C yn byw yn ardal Caernarfon nag ardal Caerfyrddin a gan bod Caerfyrddin mor agos at Gaerdydd doedd dim rhaid i weithwyr y sianel fynd ar gyfyl cynulleidfa S4C.  Gellid neidio i'r car ym Mhontcanna a neidio allan yng Ngholeg y Drindod yn y bore, a gwneud yr un peth o chwith ar ddiwedd y diwrnod.  Nid oedd rhaid i neb fynd trwy 'r sioc ddiwylliannol o ddod wyneb yn wyneb a'r gynulleidfa.

Yn ol colofn orfoleddus gan Gwilym Owen yn Golwg ar y pryd, roedd cais Coleg y Drindod yn llawer gwell nag un Gwynedd - a dyna pam y penderfynwyd symud yno.  Yn wahanol i Gwilym - debyg - ni welais y ceisiadau, felly roedd rhaid rhyw dderbyn mai ansawdd y ceisiadau oedd y rheswm tros y dewis rhyfedd.  Ond, ymddengys bellach nad oes gan Coleg y Drindod ddigon o bres i gartrefu S4C, ac maent am i Lywodraeth Cymru lenwi'r bwlch.  

Rwan, beth am atgoffa ein hunain o eiriau Prif Weithredwr y sianel ddwy flynedd yn ol:

Yn gyffredinol, roedd Awdurdod y Sianel wedi dweud y byddai angen i gynllun adleoli fod yn fuddiol i’r gwasanaeth ac yn gost-niwtral dros gyfnod.  Hefyd roedd yr Awdurdod yn glir am ei ofyniad i sicrhau bod modd creu manteision ieithyddol, diwylliannol ac economaidd.  Roedd nifer o feini prawf agored wedi’u cyhoeddi yn seiliedig ar y gofynion hyn, ac yng ngholeuni’r meini prawf hynny y cafodd y penderfyniad terfynol ei wneud.

Mae yna ddau fater yn codi o hyn.  Yn gyntaf mae'n amlwg bellach nad ydi cais Caerfyrddin yn gost niwtral, felly mae'n methu un o'r meini prawf.

Mae'r ail yn dod a ni 'n ol at ansawdd y ceisiadau.  Mae'n hawdd i unrhyw ffwl lunio cynllun sy'n edrych yn dda os nad yw'n gorfod talu amdano fo i gyd.  Mae'n fwy o gamp llunio cais o ansawdd sydd wedi ei gostio'n gywir.  

Mae'n weddol amlwg - os ond o ran tegwch naturiol - y dylid edrych ar y mater o'r newydd.


No comments: