Gwneud rhyw joban fach arall oeddwn i yn gynharach heddiw pan gefais hyd i'r tablau isod. Data ydi o sydd wedi ei hel yn ystod y cyfri ar gyfer y refferendwm Ewrop yn gynharach eleni. Cafodd y wybodaeth ei hel gan Blaid Cymru Gwynedd a Phlaid Lafur Arfon. Yn anffodus doedd y samplu ddim mor drylwyr ag arfer, felly dydi'r wybodaeth ar gyfer pob bocs ddim ar gael.
Bydd pleidiau gwleidyddol yn monitro'r pleidleisiau yn cael eu tywallt o'r bocsus ym mhob etholiad, ond fel rheol bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei gadw'n gyfrinachol - mae gwybodaeth fanwl yn cynnig manteision strategol. Ond gan na fydd yna refferendwm arall, does yna ddim pwrpas mewn cadw pethau'n gyfrinachol.
Felly - gydag ymddiheuriadau i'r sawl sydd yn anghyfarwydd a daearyddiaeth Gwynedd - dyma chi.
Meirion / Dwyfor
Arfon
5 comments:
Unrhyw syniad pam bod Cwm y Glo ddipyn gwahanol i weddill yr ardal, a Llanrug yn benodol?
diddorol iawn Cai
wrth sbïo ar Feirion (gan fwya) rwy'n gweld hyn:
cefn gwlad Cymraeg yn frwd dros Ewrop ee Llanuwchllyn
cefn gwlad Seisnigedig hefo mewnfudwyr cefnog ee Arthog yn llai brwd ond mwyafrif dros aros
trefydd Cymraeg dosbarth gweithiol llai brwdfrydig byth ee Manod, Blaenau Ond Stiniog wedi fotio i ymadael!
trefydd Seisnigedig a llwyth o bensiynars yn erbyn Ewrop (Bermo, Tywyn, y Friog) ByG am aros ond Morfa Bychan am ymadael: yr ail yn dlotach ynde?
canlyniad Pwllheli yn sefyll allan
iaith a dosbarth cymdeithasol yn esbonio, ynde?
cydberthynas rhwng pleidlais PC a'r ganran dros Ewrop mae'n debyg
Cyd berthynas rhwng bod eisiau aros a gweithgaredd economaidd hefyd.
O ran Cwm y Glo roedd y sampl braidd yn fach - efallai bod hynny'n sgiwio pethau.
Cofia william: pentref Llan Ffestiniog ydi 'Ffestiniog', nid tref y Blaenau (sef 'Stiniog i'r rhai ohonom sy'n byw yma). Falch o weld mwyafrif i Aros yn y dre'.
diolch Wilias
rhag cywiydd i mi!
Post a Comment