Sunday, November 06, 2016

Beth fydd yn digwydd ddydd Mawrth?

Dwi'n gwybod fy mod yn mentro gwneud ffwl ohonaf fy hun yma - ond 'dwi'n darogan y bydd Clinton yn ennill yn weddol hawdd.  Dwi'n seilio'r canfyddiad hwnnw ar yr unig beth sy'n bwysig wrth ddarogan etholiadau mewn gwirionedd - y data sydd ar gael.  Mae'r data i gyd bron yn pwyntio i'r un cyfeiriad.  Ystyrier y canlynol.

1). Mae bron i pob pol piniwn cenedlaethol yn awgrymu bod Clinton ar y blaen.  Mae yna lawer o son wedi bod am y polau a Brexit yn ystod yr ymgyrch fel petae'r polau wedi bod yn darogan y byddwn yn aros yn yr UE.  Mae hynny'n gam ganfyddiad - roedd y polio yn hynod o gymysg yn yr wythnosau cyn y refferendwm.  Mae'n wir bod y polio cyn Etholiad Cyffredinol 2015 y DU yn anghywir, ond roeddynt yn anghywir mewn ffordd cyfarwydd.  Mae gan bolau piniwn yn y DU hanes o dan gyfrifo pleidleisiau'r Toriaid.  Yn 2012 roedd y polau Americanaidd yn tan gyfrifo pleidlais Obama o tua 3% oherwydd - yn ol pob tebyg - nad ydi'r polwyr yn ei chael yn hawdd i gysylltu a rhai o gydrannau'r glymblaid sy'n gefnogwyr Democratiaid naturiol.



2). Mae'r polio taleithiol yn gymharol ffafriol i Clinton - ac mae polio taleithiol yn bwysicach na pholio cenedlaethol mewn etholiad arlywyddol.  Mae'r polio hwnnw yn rhoi mwy o gynrychiolwyr o lawer iddi hi na Trump mewn taleithiau sy'n gwbl ddiogel i'r naill neu'r llall, ac mae hi hefyd ar y blaen yn y rhan fwyaf o daleithiau ymylol.  Ond hyd yn oed os ydi Trump yn llwyddo i ennill Arizona, Iowa, Ohio, Utah, North Carolina, Florida a New Hampshire er enghraifft, dydi hynny ddim digon iddo.  Byddai'n rhaid iddo ennill yn un o'r canlynol hefyd - Pennsylvania, Nevada, Michigan, Wisconsin, Colorado, Virginia,  New Mexico neu Minnesota.  O'r rheiny dim ond yn Nevada mae'n amlwg  ar y blaen yn y polau - ond mae'n bosibl ei fod eisoes wedi colli yno oherwydd bod y pleidleisio cynnar wedi mynd yn drwm i Clinton.

3). Pleidleisio cynnar.  Mae yna gryn son wedi bod am bleidleisio cynnar trwm iawn ymysg pobl o gefndir Hispanaidd a bod fwy o ferched wedi pleidleisio na sydd o ddynion. Ond yn bwysicach mae yna fodelu wedi ei wneud o'r pleidleisio sydd eisoes wedi digwydd - er enghraifft y modelu yma gan TargetsmartRwan mae angen gair neu ddau o rybydd cyn mynd ymlaen - mae cysylltiad rhwng perchenog Targetsmart ag Obama - ond does yna ddim lle i feddwl bod y fethedoleg yn amheus, a does yna ddim fantais etholiadol mewn smalio eich bod yn gwneud yn well nag ydych mewn gwirionedd.  Mae'r ymchwil yn awgrymu bod Clinton tua 9% ar y blaen ymysg y 40m - tua thraean yr etholwyr - sydd eisoes wedi pleidleisio.  Os ydi hynny'n gywir, mae'n anhebygol iawn y gall Trump ddal i fyny ar y diwrnod.

4). Peiriant etholiadol.  Mae'n debyg bod y Democratiaid wedi buddsoddi'n helaeth i adeiladu peiriant etholiadaol tra bod y Gweriniaethwyr wedi buddsoddi eu hadnoddau (llai o lawer) ar hysbysebu ac ar symud Trump o un rhan o'r wlad i 'r llall yn anerch raliau di ddiwedd.  Mae'n debyg bod ei hymgyrch wedi cysylltu efo 7m o bobl ddydd Gwener yn unig.  Lle mae pethau'n dyn mae bod a'r gallu i gael etholwyr i bleidleisio yn hynod bwysig.  Efallai mai dyma rhan o'r rheswm pam bod Clinton yn ymddangos i fod ar y blaen yn y pleidleisio cynnar.  Os ydi Trump am ennill nifer o'r taleithiau cystadleuol, o bwynt neu ddau y bydd yn gwneud hynny.  Mae raliau yn tynnu sylw ac yn codi brwdfrydedd ymysg y sawl sydd a diddordeb mewn gwleidyddiaeth, ond y gwaith distaw o berswadio pobl sydd ond efo ychydig o ddiddordeb sy'n ennill etholiadau agos.  

Wel dyna chi - efallai y byddwch yn chwerthin ar fy mhen ddydd Mercher - ond fel yna dwi'n ei gweld hi.


No comments: