Ar ddiwrnod du fel hyn mae llefarydd swyddogol y Toriaid Cymreig ar pob pwnc dan haul ar y cyfryngau cyfrwng Cymraeg, Felix Aubel wedi ei ysgwyd i'w seiliau - ac wedi trydar i fynegi hynny.
Mae'r linc yn arwain at y gampwaith farddonol yma:
Dydi Felix ddim yn dweud wrthym pwy ysgrifennodd y campwaith, ond ag ystyried nad yw'n ei phriodoli i neb mae'n debyg gen i mai Felix ei hun ydi 'r awdur - ond ei fod rhy wylaidd i gydnabod hynny. Mae'r sefyllfa drychinebus wedi esgor ar yr awen. Ar wahan i'r cyfeiriad anffodus at De Gaulle - dyn a ymladdodd yn galed i atal y DU rhag ymuno a'r Farchnad Gyffredin er mwyn sicrhau mai hi oedd tlotyn Ewrop - dwi 'n siwr bod holl ddarllenwyr Blogmenai yn cytuno bod y gerdd yn gampwaith - o fath.
Byddai 'n syniad gwych i Felix anfon ei gampwaith i gystadleuaeth y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae yna bethau hyd yn oed yn waeth wedi dod i 'r brig yn y gorffennol. Y gorffennol pell iawn, iawn, iawn.
2 comments:
Nid jest pobl ar y dde sy am adael yn fuan ac yn galed, mae rhai i'w cael ar y chwith hefyd. A bydd penderfyniad yr UL yn fwy o broblem i'r chwith na'r dde, gan y caiff Theresa feio'r chwith am arafu'r broses.
Hyh! Ydi´r Orsedd yn barod i dderbyn gweithiau yn y iaith fain erbyn hyn???
Post a Comment