Thursday, November 03, 2016

Pam bod yr ymgyrch arlywyddol yn yr UDA wedi bod mor niweidiol i ddemocratiaeth?

Tra bod yr etholiad arlywyddol yma wedi bod ar un olwg yn anodd tynnu llygaid oddi arni hi, mae hefyd wedi bod yn un uffernol o safbwynt democratiaeth yn America.  Mae hynny'n rhannol oherwydd pwy sy'n sefyll - ar ol yr holl wario a'r broses hirfaith i ddewis ymgeisyddion llwyddodd y ddwy brif blaid i ddod o hyd i ymgeiswyr gwirioneddol amhoblogaidd gyda charfanau sylweddol o'r boblogaeth.  Mae hyn yn rhannol yn adlewyrchiad ar y broses ei hun, ond mae hefyd yn adlewyrchu ar natur gwleidyddiaeth yn America ar hyn o bryd - mae wedi ei begynnu mewn ffordd sy'n afiach mewn unrhyw ddemocratiaeth - mae yna rhyw deimlad o Dde America neu Ogledd Iwerddon am yr holl sefyllfa.



Er hynny - neu efallai oherwydd hynny - mae'r etholiad ei hun wedi bod yn hynod ddinistriol.   Mae'r rhan fwyaf - er nad y cwbl - o'r bai am hynny ar Trump a'i ymgyrch.

I ddechrau dyna'r celwydd.  Mae camarwain yn anffodus yn rhan o'r ddisgwrs wleidyddol ym mhob man.  Mae hyn yn rhywbeth 'dwi'n gael yn beth hynod o ddiflas.  Dylai'r ddisgwrs wleidyddol gael ei chynnal gan ffeithiau, nid gan hanner gwirionedd ac anwiredd.  Ond mae Trump wedi mynd a'r arfer o gyflwyno gwybodaeth ffug i eithafion sy'n newydd i mi - a 'dwi wedi bod yn dilyn gwleidyddiaeth etholiadol ers mwy o amser na fyddwn i eisiau cydnabod.  Gweler yma.  

Ac wedyn dyna oslef ei ymgyrch - mae pob dim wedi ei or ddweud, ac yna wedi ei or ddweud eto - Clinton ydi'r person mwyaf llwgr yn hanes yr UDA, NAFTA ydi'r cytundeb gwaethaf yn hanes dynoliaeth, Bill Clinton ydi'r person gwaethaf ei ymddygiad tuag at ferched erioed, Obamacare ydi'r cynllun iechyd gwaethaf erioed, arlywyddiaeth Trump fydd yr un gorau erioed, perthynas America a'r Dwyrain Canol ydi'r llanast mwyaf erioed, mae Elizabeth Warren yn fethiant llwyr, Obama ydi'r arlywydd salaf erioed a fo sefydlodd ISIS, mae Ted Cruz wedi cau'r llywodraeth i lawr, mae 42% o'r boblogaeth yn ddi waith ac ati ac ati, ac ati.  

Ac wedyn mae'r ymgyrch wedi agor hen linellau anghyfforddus mewn cymdeithas Americanaidd.  Gan amlaf mewn etholiad arlywyddol bydd ymgeiswyr yn defnyddio rhethreg eithafol pan maent yn ceisio ennill yr enwebiaeth, ond yn defnyddio rhethreg mwy cymhedrol wedyn.  Rhaid apelio at yr eithafion pan mae'r etholwyr yn perthyn i un blaid, ond rhaid apelio at y canol erbyn mis Tachwedd - neu felly roedd pethau'n arfer cael eu gwneud.  Dydi Trump heb gymedroli - ac mae'r creithiau agorwyd yn ystod yr ornest am yr enwebiaeth - rhai sy'n ymwneud a gwahaniaethau ethnig a chymdeithasol - ar agor o hyd.

Ond o bosibl y peth gwaethaf ydi tueddiad yr ymgyrch i danseilio'r gyfundrefn gyfreithiol a'r system ddemocrataidd. Mae Trump yn bygwth carcharu ei wrthwynebydd yn rheolaidd, mae ei gynulleidfaoedd yn galw ar lafar am hynny yn ei raliau - fel pe na fyddai cyfundrefn erlyn cyhoeddus y. Yr UDA. Mae hefyd yn honni bod cynllwyn anferth ar waith i ddwyn yr etholiad oddi arno, ac mae hefyd yn bygwth peidio a derbyn y canlyniad.  Mae hyn oll yn fwy nodweddiadol o etholiad Trydydd Byd lle mae democratiaeth yn gysyniad newydd na gwladwriaeth sydd a diwylliant democrataidd wedi hen wreiddio ynddi.  

Yn y pen draw, pa mor bynnag gryf a hir hoedlog mae system ddemocrataidd yn ymddangos, mae'n hollol ddibynol ar bobl, a chred pobl yn ei hygrededd.  Yn y diwedd dyna sy'n bwysig - mae'n bwysicach na'r fframwaith cyfreithiol a chyfansoddiadol sy'n cynnal y drefn honno.  Mae'r ffordd mae'r etholiad yma wedi ei chynnal wedi tanseilio hygrededd prosesau democrataidd yn yr UDA - ac mae'n debygol o wneud hynny am flynyddoedd i ddod.  


No comments: