Thursday, November 10, 2016

Buddugoliaeth Trump - ambell i wers

Roedd buddugoliaeth Trump yn anisgwyl - yn sicr o safbwynt y polau a'r marchnadoedd betio.  Ond digwyddodd mewn cyfnod lle - o safbwynt gwleidyddiaeth beth bynnag - mae'r anisgwyl yn ddisgwyledig.  Mae yna wersi etholiadol i'w cymryd o hyn oll - rhai ohonyn nhw'n ddigon anghyfforddus.  Beth am gael cip ar ambell i fyth sydd wedi ei chwalu'n ddiweddar.  

1). Dydi ymgyrchu negyddol ddim yn gweithio.  Roedd ymgyrch y ddwy ochr yma'n hynod o negyddol, ond yr ymgyrch fwyaf negyddol oedd yn fuddugol.  Roedd hyn yn gweithio'n bennaf oherwydd  bod ymgyrchu negyddol gan un ochr yn llusgo pleidlais yr ochr arall i lawr.  Er i Clinton gael mwy o bleidleisiau na Trump cafodd lai o lawer nag Obama - ac mi gafodd Trump lai na Romney.  Mae patrwm wedi cael ei hen sefydlu bellach bod yr ochr mwyaf negyddol yn ennill ymgyrch etholiadol - meddylier Brexit, refferendwm annibyniaeth yr Alban, Etholiad Cyffredinol 2015 er enghraifft.  Dydi hyn oll ddim yn golygu bod ymgyrchu negyddol yn well nag ymgyrchu cadarnhaol pob tro - ond mae'n sicr yn wir nad ydi ymgyrchu cadarnhaol yn well nag ymgyrchu negyddol pob tro.

2). Mae'n rhaid bod yn wleidyddol gywir i lwyddo'n etholiadol.  Dydi dweud pethau hiliol, secteraidd, anweddus, ffiaidd neu idiotaidd ddim o anghenrhaid yn ei gwneud yn amhosibl i rhywun gael ei ethol hyd yn oed i'r swydd ddemocrataidd uchaf yn y Byd mawr crwn.

3). Mae'n rhaid meddiannu tir canol i lwyddo 'n etholiadol.  Dydi meddiannu tir canol ddim yn sicrhau llwyddiant etholiadol.  Mae Clinton yn y canol, mae Trump yn eithafol.  Mae UKIP yn gwneud yn dda yn y DU, dydi'r Dib Lems druan ddim.  Mae Hollande yn y canol, dydi La Pen ddim.  Dydi Podemos ddim ar gyfyl y canol, na'r ERC yng Nghatalonia, na SYRIZA yng Ngwlad Groeg.  Mae hegemoniaeth y pleidiau tir canol yn cilio i'r gorffennol i raddau helaeth.  Dydan ni ddim yn gwybod os y pery hynny - ond felly mae hi ar hyn o bryd.

4). Mae'n rhaid wrth beiriant etholiadol llawr gwlad i gael llwyddiant etholiadol.  Dydi cael peiriant felly yn amlwg ddim yn gwneud llawer o ddrwg - ond dydi hi ddim yn glir ei fod yn gwneud lles arwyddocaol chwaith.  Does gan UKIP ddim peiriant o unrhyw fath yng Nghymru, ond maen nhw'n cael llwyddiant etholiadol.  Roedd peiriant etholiadol Clinton yn llawer mwy nag un Trump - ond roedd Clinton hefyd yn llawer llai llwyddiannus yn cael ei phleidlais allan mewn taleithiau allweddol nag oedd Trump.

5). Mae'n rhaid wrth gefnogaeth gyfryngol i ennill.  Roedd elfennau o'r wasg ac o'r cyfryngau torfol eraill yn cefnogi Trump, ond roedd mwy o lawer yn cefnogi Clinton.  Tra ei bod yn bwysig cael cefnogaeth cyfryngol, mae bod ar yr un dudalen ag elfennau arwyddocaol o'r etholwyr yn bwysicach na'r hyn sydd wedi ei 'sgwennu ar dudalen yn y New York Times.

6). Mae'n rhaid wrth neges sy'n apelio at y rhan fwyaf o bobl.  Ychydig mwy na hanner o'r boblogaeth bleidleisiodd a lleiafrif o'r rheiny bleidleisiodd i Trump - ond pleidleisiodd digon yn y llefydd. 'cywir' iddo i sicrhau buddugoliaeth i leiafrif cymharol fach o'r boblogaeth.  Mae'n ddigon posibl ennill trwy apelio at leiafrif - cyn belled a bod y lleiafrif hwnnw yn byw yn y llefydd cywir.

6). Dydi 'r gwleidyddol dwlali ac eithafol byth yn hapus.  Yn amlwg dydi hyn ddim yn wir chwaith.


2 comments:

Hogyn o Rachub said...

Cytuno efo hyn oll Cai. Un pwynt am y "tir canol" fodd bynnag, dydyn ni jyst ddim yn gwybod be ydi'r tir canol ddim mwy mewn unrhyw ffordd. Ma gwleidyddiaeth syniadaethol wedi'i chymysgu a'i chyfuno cymaint mae popeth yn stwnsh a dydi'r polau'n fawr o help inni ddod i ateb am y peth chwaith. Taswn i'n gorfod cynnig tir canol cyfoes, mae'n gyfuniad o geidwadaeth gymdeithasol (gymharol, nid eithafol) a neges economaidd mwy asgell chwith, ond jyst fy argraff i ydi honno - a dwi'n meddwl yn fanno mae'r fôts.

Ac, wrth gwrs, fedra i ddim ymatal rhag bod yn smyg a dweud nad oedd ei fuddugoliaeth yn syndod i bawb .... ;-) (mae angen rhywbeth i'w ddathlu ynghanol hyn oll wedi'r cyfan!)

Cai Larsen said...

Mae gan bawb hawl i fod yn smyg weithiau Jason.

Ti'n gywir am y tir canol - mae pob dim i fyny yn yr awyr, dydyn nhw ddim wedi dod i lawr a setlo eto. Ond sut bynnag y byddan nhw'n syrthio, fydd Trump ddim yn y canol.