Pwt bach ynglyn a smonach Llafur - wedi ei 'sgwennu cyn bod penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid am ymgeisyddiaeth Llafur wedi ei gyhoeddi.
Canlyniad hyn ydi plaid sy'n cynnwys adain wirfoddol ac adain etholedig sydd a gwerthoedd sylfaenol wahanol - dwy blaid oddi mewn i un plaid mewn gwirionedd. Mae'n bosibl i sefyllfa felly ddal yn y byr dymor, ond dydi hi ddim yn debygol o oroesi yn yr hir dymor. Mae'n debyg y bydd dwy blaid yn ymddangos pan fydd yr anhrefn presenol yn dod i ben. Does yna ddim llawer o bethau a allai ddigwydd mewn gwirionedd.
Gallai Corbyn gael ei orfodi i beidio ag ail sefyll am arweinyddiaeth ei blaid. Os digwydd hynny bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yn y llysoedd barn yn y pen draw, a bydd nifer fach o aelodau'r Blaid Lafur a barnwyr yn yr Uchel Lys wedi amddifadu trwch aelodaeth y blaid o'u hawl i ddewis arweinydd. Mae'n anodd gweld y cannoedd o filoedd o aelodau a chefnogwyr a bleidleisiodd i Corbyn y llynedd yn aros mewn plaid sydd ag Angela Eagle neu Owen Smith yn ei harwain mewn amgylchiadau felly. Mae'n debyg mai plaid newydd asgell Chwith fyddai'r canlyniad.
Os bydd Corbyn yn cael sefyll, mae'n debygol o guro Eagle neu Smith yn weddol hawdd ac ni fydd yn bosibl i'r Aelodau Seneddol sydd wedi ceisio ei ddisodli ddad wneud yr hyn maent wedi ei ddweud, na dad ddweud yr hyn maent wedi ei ddweud. Mae'n debyg mai plaid newydd canol y ffordd fyddai canlyniad hynny. Os mai hyn fydd yn digwydd bydd yn ddiddorol gweld beth fydd yn digwydd i'r pleidiau Llafur Cymreig ac Albanaidd - mynd efo Corbyn, mynd efo'r blaid newydd 'ta torri eu cwys eu hunain i rhyw raddau neu'i gilydd?
Y trydydd peth a allai ddigwydd ydi bod Corbyn yn cael sefyll, ond ei fod yn colli. Dydi hyn ddim yn debygol, ond dyma'r unig ffordd y gallai'r blaid aros at ei gilydd mewn gwirionedd - a hyd yn oed os digwydd hynny, bydd pethau yn anodd iawn yn fewnol am hir iawn.
Mae'n union beth sydd yn digwydd yn bwysig. Os mai criw Corbyn fydd yn gadael, bydd criw Eagle/ Smith ac ati yn etifeddu brand Llafur - a bydd hynny werth llawer o bleidleisiau - pleidleiswyr sy'n pleidleisio heb feddwl i Lafur. Os mai criw Eagle / Smith fydd yn gadael, Corbyn fydd yn etifeddu'r brand a'r pleidleisiau. Ond bydd cyfanswm pleidleisiau'r ddwy blaid newydd yn is na phleidlais yr un blaid bresenol.
Diolch i Dduw mai smonach rhywun arall ydi hon.
7 comments:
Edrych ar y sefyllfa o Gymru, erfynnaf ar Lafur I dorri cwys eu hunan yma a ffurfio Blaid Lafur Gymreig Annibynnol. Mae angen dipyn o asgwrn cefn i wneud hynny, ond buasai Llafur trwy wneud hynny yn rhoi pobl Cymru yn flaenaf am y tro cyntaf yn ei Hanes.
Problem Llafur yw bod ei sylfaen wedi dadelfennu. Tanseiliodd Thatcher y “Dosbarth Gweithiol” trwy greu Dosbarth Di-waith oddi tano: math o uffern cymdeithasol y gallai unrhyw weithiwr ddisgyn iddi pe na bai’n derbyn y drefn marchnad-rydd newydd. Aeth ati hefyd i ddinistrio grym yr undebau llafur, a’r holl sefydliadau eraill a glymau gweithwyr â’i gilydd, gan atomeiddio cymdeithas: mae pawb yn unigolyn ar drugaredd y farchnad a’r llywodraeth, bellach. O ganlyniad, bu llywodraethau asgell-dde mewn grym er 1979, efo’r cyfoethog yn ymgyfoethogi fwyfwy, a’r gweddill yn gweld dim ond cyni parhaus. Mae pobl wedi cael llon’d bol ar hynny, ac yn chwilio am ffordd radicalaidd allan o’r twll tlodi. Mae’r Blaid yn unedig, o leiaf, a dylai hyn fod yn gyfle euraidd iddi hyrwyddo neges annibyniaeth. Onide, mae pobl am gefnogi’r llais radicalaidd arall: UKIP. Fel y gwelwyd yn y cymoedd adeg yr etholiad diwethaf, a rŵan yn y refferendwm ar Ewrop.
Problem enfawr arall sy’n wynebu aelodau’r Blaid Lafur yw’r geidwadaeth gynhenid ymhlith trwch sylweddol o’u pleidleiswyr/cefnogwyr traddodiadol. Mae unrhyw fath o radicaliaeth adain chwith yn anathema i’r bobl hyn. Dyma mae’n debyg yr hyn y mae darllen y Sun, yr Express a’r Mail yn ddyddiol yn ei wneud i rywun.
Maent yn ddieithriad yn Unoliaethwyr ac yn Frenhinwyr rhonc. Credent mewn cadw Trident. Maent yn aml yn ofni’r cysyniad o briodas gyfunryw ; maent yn amlwg yn credu’n gryf fod gormod o dramorwyr yn byw yn y wlad, ac yn y refferendwm diweddar fe bleidleisiodd y grwp hwn yn gryf iawn dros Brexit. Yn etholiadau’r cynulliad ym mis Mai, dyma’r grwp heidiodd i gefnogi UKIP yn rhai o seddi cymoedd y de.
Yng Nghymru, ers peth amser bellach, mae’r grwp hwn wedi cefnu ar nifer fawr o hen werthoedd traddodiadol radicalaidd ein hynafiaid, ac felly y cwestiwn sylfaenol i bob gwleidydd Llafurol Sosialaidd bellach yw – ai’r Blaid Lafur yw’r blaid i mi ?
Mae sawl Llafurwr bellach yn dechrau amau hyn. Bu colli etholiadau 2010 a 2015 yn ergyd. Roedd canlyniad y refferendwm yn brofiad llawer iawn mwy trawmatig. Erbyn hyn mae sawl un yn gweld y dyfodol, naill ai fel aelodau parhaus o brotestwyr stryd Corbyn, neu fel aelodau o rhengoedd Plaid Cymru ac o bosib y Blaid Werdd.
Fe all y misoedd nesaf fod yn gyfnod diddorol iawn i swyddogion recriwtio Plaid Cymru.
Gwynfor
Pe bai Llafur yn ffurfio fersiwn ‘Gymreig’ o’u plaid mae’n hollol amlwg y byddai’r rhwygiadau sy’n bodoli yn y blaid ar hyn o bryd hefyd yn cael ei adlewyrchu ymhlith yr aelodau / ASau yma yng Nghymru. Dyna 2 blaid newydd, cyn i ni ddechrau ystyried y brif broblem gyda’r blaid yma yng Nghymru. Mae hanner y blaid Lafur yn unoliaethwyr rhonc, a thra na allwn ni alw'r gweddill yn genedlaetholwyr o gwbl, mae carfan sy’n sicr yn fwy cefnogol o ddatganoli.
Felly dwy blaid newydd yn lle Llafur (cefnogwyr Corbyn vs PLP) ac o fewn y ddwy garfan yma, mae rhwygiadau eraill sef y Brit nats vs y rhai sy’n gefnogol i ddatganoli. Dim mwy na mae Llafur yn ei haeddu. Plaid sydd wedi rhoi buddiannau pleidiol cul uwchlaw unrhyw ystyriaeth arall ers degawdau, a hynny tra’n twyllo’r etholwyr gyda sloganau celwyddog am ‘sefyll cornel Cymru’ etc..
Gwynt teg ar eu holau
@ Anonymous ¨Problem enfawr arall ...¨
Sut nad ydi´run beth wedi cael ei gweld yn yr Alban, tybed? Mae´r Blaid Lafur yn colli cefnogwyr i´r Nats ar y cyfan, gan ychydig o frwdfrydedd am UKIP o gwbl. Os ydi´n bosib deallt y gwahaniaeth hwn ...
Dwy ddim yn siwr os ydi yma y lle gorau, ond dyma erthygl diddorol dros ben oherwydd achosion y bleidlais brexit :
http://mondediplo.com/2016/07/03brexit
Diolch - mi ga i stag pan ga i funud.
Post a Comment