Saturday, July 02, 2016

Pa flwyddyn ydi hi - 1918 'ta 1983?

Roedd y cyfnod 1922-23 yn un anodd yn hanes Iwerddon - a dweud y lleiaf.  Cafwyd rhyfel cartref - a fel pob rhyfel cartref roedd hynod chwerw.  Achosodd y rhyfel hwnnw hollt trwy ganol bron i pob cymuned yn y wlad, ac adlewyrchwyd yr hollt hwnnw yn etholiad cyntaf y wladwriaeth newydd - ac ym mhob etholiad arall yn y Wladwriaeth Rydd, ac yn hwyrach y Weriniaeth, am naw deg o flynyddoedd.  Doedd y drefn bleidiol a ffurfwyd ddim yn addas i anghenion Iwerddon - cafwyd dwy blaid geidwadol yn dominyddu am ddegawdau - ac mae'n debyg i hynny fod yn niweidiol i ddatblygiad y wlad.  Ond parhau wnaeth y gyfundrefn.

Roedd y Rhyfel Cartref - a'r digwyddiadau yn ystod y chwe mlynedd flaenorol wedi achosi trawma cenedlaethol, ac arweiniodd y trawma hwnnw daflu'r holl gyfundrefn wleidyddol i'r awyr, a phan syrthiodd y darnau i 'r llawr, a phan gliriodd y llwch roedd y drefn wleidyddol yn gwbl wahanol i'r hyn ddaeth o'i flaen.  Erbyn i'r drefn honno ddechrau dadfeilio ar ddiwedd y ddegawd diwethaf, doedd yna prin neb yn cofio'r Rhyfel Cartref.

Cafwyd newid etholiadol syfrdanol yn y Deyrnas Unedig ychydig flynyddoedd yn gynharach - yn 1918.  Arweiniodd etholiad y flwyddyn honno at gwymp sylweddol yng nghefnogaeth etholiadol y Rhyddfrydwyr, ac yn ddiweddarach at ei diflaniad fel grym gwleidyddol arwyddocaol yn y DU.  Roedd y blaid wedi dominyddu yn wleidyddol am ddegawdau cyn hynny.  Roedd y rhesymau am yr hyn ddigwyddodd yn y DU yn fwy cymhleth na'r rhesymau am y newid yn Iwerddon - daeth nifer o bethau at ei gilydd i newid y tirwedd gwleidyddol - ond trawsnewidwyd y gyfundrefn etholiadol bryd hynny hefyd.

Yn 1983 roedd pethau yn yr awyr eto yn dilyn argyfyngau ariannol yn y 70au a symudiad i'r Chwith gan Lafur ar yr union adeg pan oedd y DU yn symud i'r Dde.  Holltodd y Blaid Lafur, ac roedd yn edrych am gyfnod fel petai'r tirwedd etholiadol am newid yn llwyr unwaith eto.  Pan syrthiodd y darnau yn ol i'r llawr roedd pethau wedi symud, ond ddim llawer iawn.  

Mae pethau i fyny yn yr awyr eto, a dydan ni ddim yn gwybod sut mae'r darnau am syrthio - mewn lleoedd hollol wahanol fel y gwnaethant yn 1918 'ta mewn lle ychydig yn wahanol fel ddigwyddodd yn 1983.  O edrych ar y straen sydd yna ar y pleidiau etholiadol traddodiadol - straen sy'n gadael yr hen gyfundrefn yn gwegian - mae'n rhaid dweud ei bod hi'n edrych yn llawer mwy tebyg i 1918 na 1983.

Yr hyn nad ydym yn ei wybod ydi pwy sy'n mynd i elwa o'r newid sylfaenol a allai'n hawdd ddigwydd.  Mae sefyllfa felly yn arwain at ryddhau grymoedd gwleidyddol nerthol iawn, ac mae'n anodd iawn eu rheoli.  Ond mae'r sawl sydd efo cynllun, efo agenda, efo cyfeiriad pendant efo gwell cyfle na'r sawl sy'n gadael i'r corwynt eu chwythu i pob cyfeiriad.  Ar hyn o bryd mae'r pleidiau unoliaethol traddodiadol yn ymddangos yn ddi gyfeiriad, ac ar drugaredd y gwyntoedd gwleidyddol.  

Fel y dywedais - dydan ni ddim yn gwybod os mai 1918 'ta 1983 ydi hi eto -  ond mi fydd gennym syniad reit dda o fewn y flwyddyn - ac mi fydd gennym syniad reit dda o pwy ydi'r collwyr, a phwy ydi'r enillwyr hefyd.

1 comment:

marconatrix said...

A phle fydd Cymru wedi i´r llwch setlo, tybed? Wedi i´r Alban falle gadael y DU a Lloegr mwy ynysig ac erioed? Pa fath dyfodol, os bydd dyfodol o gwbl, i Gymru druan?