Ddoe ar Newsnight roedd o'n cyhuddo Jeremy Corbyn o ddiffyg gwlatgarwch ac o fethu deall hunaniaeth genedlaethol.
Internationalism oedd y gair mawr bryd hynny.
Mae Owen Smith yn cyhuddo Corbyn o beidio deall rhywbeth nad yw yn ei ddeall ac nad oes ganddo fewath o ddiddordeb ynddo ei hun.
O.N - newydd sylwi bod @ifanmj wedi fy nghuro fi i'r stori yma.
2 comments:
Mae gan Owen Smith bwynt yma - mae Corbyn yn byw mewn cymuned aml-hiliol, aml ddiwylliannol, gefnog a ryddfrydol. Tydi'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Llafur ddim (Yn hytrach, y math o bobl y mae angen eu pleidleisiau ar y Blaid Lafur). Mae Corbyn yn deall anghenion y bobl yma, ond nid yw'n deall eu dyheadau a'u barn. Mae'n bosib fod yn fryf o blaid y gwasanaeth iechyd a'r system les, ond yn hollol atgas tuag at fewnfudwyr. Pam ? mae sefyllfa bersonol yn bwysicach i'r tlawd (Pleidleiswyr Llafur) nac i'r cyffyrddus (Corbyn, actifyddion Llafur). Mae ASau Llafur yn gwybod hyn yn iawn.
Mae Owen Smith yn deall gwlatrgarwch yn iawn - ond mae'n ymwrthod a gwlatgarwch Cymraeg ac yn coleddu gwlatgarwch Prydeinig. Mae'n pledio rhyw ffug-blwyfoldeb i'r Cymoedd, ydi, ond dyna'r math o blwyfoldeb a fu'n ddinistriol i Gymru cyn, ac ers sefydlu y Senedd yng Nghaerdydd.
Rhaid manteisio yng Nghymru ar y potensial i raniad llwyr ddigwydd yn y Blaid Lafur, ond ni lwydda hynny drwy leoli'r mudiad cenedlaethol i'r chwith o'r Blaid Lafur. Fel y gwelodd Leanne Wood adeg 'Brexit', mae ei hetholwyr mor adweithiol ac unrhyw un o'r 'blue-rinse brigade'.
A fyddai darpar-referrendwm (hollol haniaethol) ar ad-ddosbarthu cyfoeth ac incwm yn lled radicalaidd yn denu cymaint o bleidleiswyr o Sunderland a chymoedd De Cymru i droi allan a beth wnaeth referrendwm go iawn, Prydael/Brexit (a'i is-bwnc o fewnlifiad) . Dwi ddim yn meddwl.
Post a Comment