tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post3584765713331214354..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Ynglyn a smonach LlafurCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger7125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-22726155557490295112016-07-19T07:52:35.540+01:002016-07-19T07:52:35.540+01:00Diolch - mi ga i stag pan ga i funud.Diolch - mi ga i stag pan ga i funud.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-87173706570153026202016-07-19T05:45:23.463+01:002016-07-19T05:45:23.463+01:00Dwy ddim yn siwr os ydi yma y lle gorau, ond dyma ...Dwy ddim yn siwr os ydi yma y lle gorau, ond dyma erthygl diddorol dros ben oherwydd achosion y bleidlais brexit :

http://mondediplo.com/2016/07/03brexit
Marconatrixhttps://www.blogger.com/profile/01199367986122142971noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-62264923008612290022016-07-18T18:30:05.794+01:002016-07-18T18:30:05.794+01:00@ Anonymous ¨Problem enfawr arall ...¨
Sut nad y...@ Anonymous ¨Problem enfawr arall ...¨

Sut nad ydi´run beth wedi cael ei gweld yn yr Alban, tybed? Mae´r Blaid Lafur yn colli cefnogwyr i´r Nats ar y cyfan, gan ychydig o frwdfrydedd am UKIP o gwbl. Os ydi´n bosib deallt y gwahaniaeth hwn ...Marconatrixhttps://www.blogger.com/profile/01199367986122142971noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-48127038313386549182016-07-14T12:06:16.018+01:002016-07-14T12:06:16.018+01:00Gwynfor
Pe bai Llafur yn ffurfio fersiwn ‘Gymreig...Gwynfor

Pe bai Llafur yn ffurfio fersiwn ‘Gymreig’ o’u plaid mae’n hollol amlwg y byddai’r rhwygiadau sy’n bodoli yn y blaid ar hyn o bryd hefyd yn cael ei adlewyrchu ymhlith yr aelodau / ASau yma yng Nghymru. Dyna 2 blaid newydd, cyn i ni ddechrau ystyried y brif broblem gyda’r blaid yma yng Nghymru. Mae hanner y blaid Lafur yn unoliaethwyr rhonc, a thra na allwn ni alw'r gweddill yn genedlaetholwyr o gwbl, mae carfan sy’n sicr yn fwy cefnogol o ddatganoli.

Felly dwy blaid newydd yn lle Llafur (cefnogwyr Corbyn vs PLP) ac o fewn y ddwy garfan yma, mae rhwygiadau eraill sef y Brit nats vs y rhai sy’n gefnogol i ddatganoli. Dim mwy na mae Llafur yn ei haeddu. Plaid sydd wedi rhoi buddiannau pleidiol cul uwchlaw unrhyw ystyriaeth arall ers degawdau, a hynny tra’n twyllo’r etholwyr gyda sloganau celwyddog am ‘sefyll cornel Cymru’ etc..

Gwynt teg ar eu holau
Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-72539272515558849762016-07-13T19:45:51.921+01:002016-07-13T19:45:51.921+01:00Problem enfawr arall sy’n wynebu aelodau’r Blaid L...Problem enfawr arall sy’n wynebu aelodau’r Blaid Lafur yw’r geidwadaeth gynhenid ymhlith trwch sylweddol o’u pleidleiswyr/cefnogwyr traddodiadol. Mae unrhyw fath o radicaliaeth adain chwith yn anathema i’r bobl hyn. Dyma mae’n debyg yr hyn y mae darllen y Sun, yr Express a’r Mail yn ddyddiol yn ei wneud i rywun.
Maent yn ddieithriad yn Unoliaethwyr ac yn Frenhinwyr rhonc. Credent mewn cadw Trident. Maent yn aml yn ofni’r cysyniad o briodas gyfunryw ; maent yn amlwg yn credu’n gryf fod gormod o dramorwyr yn byw yn y wlad, ac yn y refferendwm diweddar fe bleidleisiodd y grwp hwn yn gryf iawn dros Brexit. Yn etholiadau’r cynulliad ym mis Mai, dyma’r grwp heidiodd i gefnogi UKIP yn rhai o seddi cymoedd y de.
Yng Nghymru, ers peth amser bellach, mae’r grwp hwn wedi cefnu ar nifer fawr o hen werthoedd traddodiadol radicalaidd ein hynafiaid, ac felly y cwestiwn sylfaenol i bob gwleidydd Llafurol Sosialaidd bellach yw – ai’r Blaid Lafur yw’r blaid i mi ?
Mae sawl Llafurwr bellach yn dechrau amau hyn. Bu colli etholiadau 2010 a 2015 yn ergyd. Roedd canlyniad y refferendwm yn brofiad llawer iawn mwy trawmatig. Erbyn hyn mae sawl un yn gweld y dyfodol, naill ai fel aelodau parhaus o brotestwyr stryd Corbyn, neu fel aelodau o rhengoedd Plaid Cymru ac o bosib y Blaid Werdd.
Fe all y misoedd nesaf fod yn gyfnod diddorol iawn i swyddogion recriwtio Plaid Cymru.
Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-7049869438080952712016-07-13T11:00:39.658+01:002016-07-13T11:00:39.658+01:00Problem Llafur yw bod ei sylfaen wedi dadelfennu. ...Problem Llafur yw bod ei sylfaen wedi dadelfennu. Tanseiliodd Thatcher y “Dosbarth Gweithiol” trwy greu Dosbarth Di-waith oddi tano: math o uffern cymdeithasol y gallai unrhyw weithiwr ddisgyn iddi pe na bai’n derbyn y drefn marchnad-rydd newydd. Aeth ati hefyd i ddinistrio grym yr undebau llafur, a’r holl sefydliadau eraill a glymau gweithwyr â’i gilydd, gan atomeiddio cymdeithas: mae pawb yn unigolyn ar drugaredd y farchnad a’r llywodraeth, bellach. O ganlyniad, bu llywodraethau asgell-dde mewn grym er 1979, efo’r cyfoethog yn ymgyfoethogi fwyfwy, a’r gweddill yn gweld dim ond cyni parhaus. Mae pobl wedi cael llon’d bol ar hynny, ac yn chwilio am ffordd radicalaidd allan o’r twll tlodi. Mae’r Blaid yn unedig, o leiaf, a dylai hyn fod yn gyfle euraidd iddi hyrwyddo neges annibyniaeth. Onide, mae pobl am gefnogi’r llais radicalaidd arall: UKIP. Fel y gwelwyd yn y cymoedd adeg yr etholiad diwethaf, a rŵan yn y refferendwm ar Ewrop.H. Huwsnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-22478575197240444042016-07-12T23:06:26.831+01:002016-07-12T23:06:26.831+01:00Edrych ar y sefyllfa o Gymru, erfynnaf ar Lafur I ...Edrych ar y sefyllfa o Gymru, erfynnaf ar Lafur I dorri cwys eu hunan yma a ffurfio Blaid Lafur Gymreig Annibynnol. Mae angen dipyn o asgwrn cefn i wneud hynny, ond buasai Llafur trwy wneud hynny yn rhoi pobl Cymru yn flaenaf am y tro cyntaf yn ei Hanes.Gwynfor Owennoreply@blogger.com