Does yna ddim cytundeb ynglyn a faint o Iraciaid fu farw o ganlyniad i ryfer Irac, mae'r amcangyfrifon yn amrywio o 150,000 i dros i filiwn. Mae'n debyg bod y gwir rif rhywle yn y canol. Mae'r Dwyrain Canol wedi ei ansefydlogi'n llwyr o ganlyniad i'r rhyfel, ac mae eithafiaeth Mwslemaidd yn rhemp ar hyd y rhanbarth, a thu hwnt. Mae Irac wedi ei hollti i lawr y canol ar sail secteraidd. Mae hygrededd y sefydliadau gwleidyddol wedi eu niweidio'n sylweddol.
Bu farw milwyr o'r gwledydd oedd yn ymosod ar Irac hefyd - tua 4,500 o Americaniaid a 318 o wledydd eraill - y rhan fwyaf ohonyn nhw o'r Deyrnas Gyfunol. Bu farw tua 4,500 o adeiladwyr a 136 o ohebwyr.
Mae bron i pob canlyniad o'r ymysodiad ar Irac wedi bod yn gwbl negyddol - a doedd yna ddim cyfiawnhad o gwbl am y rhyfel hwnnw.
Roedd gan Gymru fach ei rhan yn yr idiotrwydd yma, gyda nifer o'i Haelodau Seneddol yn pleidleisio tros y gorffwylldra. Mae rhai ohonyn nhw'n dal i ddoethinebu heddiw - gyda Kim Howells ond ddoe diwethaf yn tantro yn erbyn y syniad o fwy o ddatganoli i Gymru a Wayne David yn egluro i ni bod arweinyddiaeth Corbyn - a bleidleisiodd yn erbyn y rhyfel wrth gwrs - yn drychineb llwyr.
Beth bynnag - dyma nhw - gydag ymddiheuriadau os 'dwi wedi gadael rhywun allan.
Chris Bryant - Llafur
Ann Clwyd - Llafur
Wayne David - Llafur
Peter Hain - Llafur
Alan Howarth - Llafur
Kim Howells - Llafur
Huw Irranca Davies - Llafur
Jackie Lawrence - Llafur
Alun Michael - Llafur
Chris Ruane - Llafur
Don Touhig - Llafur
Donald Anderson - Llafur
David Hanson - Llafur
Paul Murphy - Llafur
Mark Tami - Llafur
Gareth Thomas - Llafur
No comments:
Post a Comment