Sunday, July 24, 2016

Gogledd Gwynedd a'r Gymraeg

Os oes gennych ddiddordeb yn hynt a helynt yr iaith Gymraeg, ac mewn ystadegau mae'n debyg nad oes yna fawr o wefannau mwy addas i chi na statiaith - mae'n dtysorfa o wybodaeth ystadegol am yr iaith Gymraeg.  

Un gymhariaeth ddiddorol i ddod o'r wefan ydi un rhwng map arferol o Wynedd sy 'n dangos dosbarthiad siaradwyr Cymraeg yn ol canran, a chartogram sy'n dangos y dosbarthiad yn ol canran a niferoedd.  Mae'r ddau fap yn rhai tra gwahanol.   Mae Gogledd y sir yn llawer, llawer mwy yn y cartogram nag ydyw yn y map cyffredin.




Roedd yna amser pan roedd yn cael ei derbyn yn gyffredinol bron bod dwysedd siaradwyr Cymraeg mewn cymuned yn llawer pwysicach na'r niferoedd.  Mae'n debyg bod llawer yn parhau i gredu hynny - ac mae yna sylwedd i'r gred.  Ond mae iddi hefyd ei chyfyngiadau.  O gymharu Caerdydd a Cheredigion, dydi niferoedd y siaradwyr Cymraeg ddim yn anhebyg, ac yn ddi amau mae yna fwy o siaradwyr rhugl yng Ngheredigion na sydd yng Nghaerdydd.  Mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg hefyd yn llawer uwch yng Ngheredigion.  Ond dwi'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn bod yr iaith yn fwy bregus yn Sir Geredigion nag yw yng Nghaerdydd.

Mae'r rheswm am hynny'n eithaf syml mewn gwirionedd - mae siaradwyr Cymraeg Caerdydd yn byw yn agos at ei gilydd, tra bod siaradwyr Cymraeg Ceredigion wedi eu gwasgaru tros ardal llawer ehangach.  Mae felly'n haws o lawer sefydlu rhwydweithiau o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd nag yw mewn ardaloedd gwledig yng Ngheredigion.  Mae cymunedau isel eu poblogaeth hefyd mwy ar drugaredd mewnfudo hefyd wrth gwrs.  

Mae Gogledd  Gwynedd - ac yn arbennig y cymdogaethau sydd yn agos at Afon Menai gyda'r ddwy nodwedd - canrannau uchel iawn o siaradwyr Cymraeg yn ogystal a niferoedd cymharol uchel o siaradwyr hefyd.  

Dydw i ddim yn un am wahaniaethu rhwng siaradwyr Cymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru - mae pob siaradwr Cymraeg yn gyfwerth.  Ond mae'r ardal yma o Ogledd Gwynedd yn bwysig iawn i ddyfodol y Gymraeg yn ehangach - a dylai'r rhai ohonom sy 'n ddigon ffodus i fyw yn yr ardal gymryd amser i fod yn ddiolchgar weithiau.  Mae'n hawdd cymryd pethau'n ganiataol weithiau.





6 comments:

Anonymous said...

Ceredigion /Caerdydd a throsglwyddiant yr iaith..

Os mae 'na do iau o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd - o gefndir mwy dosbarth canol mae hi'n bosibl dadlau yn groes fod rhai siaradwyr yn debycach i drosglwyddo iaith nac siaradwyr eraill o blaid y gosodiad..
OND beth am wrthbwynt dinas gyda nifer uchel o siaradwyr Cymraeg tan oddeutu hanner canrif 'nol a rhwydweithiau o gysylltiad teuluoedd parhaol gyda brodorion broydd Cymraeg..sef Lerpwl?
Bu toreth o fwrlwm ac afiath i'r pethe yno am ganrif os nad mwy..

D'oedd dim addysg Cymraeg (tu allan o'r capeli a chymdeithasau llenyddol a chymdeithasol ayb) ar gael yn Llynlleifiad a glannau Mersey a d'oedd y syniad o genedligrwydd mor allblyg ond wedi dweud hynny mae 'na dystiolaeth sy'n dangos fod ysgolion Cymraeg eu cyfrwng ddim yn rhwym pob tro o drosglwyddo'r iaith yn effeithiol ychwaith - yn arbennig ar wahan i aelwyd Gymraeg i'r ddisgybl. Gellir amau y gwelwn ddatblygiadau gwahanol ar lannau'r Taf i be' welon ni gyda Lerpwl..

Cai Larsen said...

Mae yna fwy o strwythurau i gynnal y Gymraeg ar lannau'rTaf heddiw nag oedd ar lannau 'r Merswy ganrif a mwy yn ol - system addysg, swyddi dosbarth canol, mewnfudiad parhaus o ardaloedd Cymraeg eu hiaith.

A gweithio o fy nghof mae trosglwyddiad iaith yng Nghaerdydd yn effeithiol. Go brin bod hynny erioed yn wir yn Lerpwl.

Anonymous said...

Oni ddywedodd Gareth Miles mai yn Lerpwl yn unig y ceid yr unig ddinas Gymraeg erioed lle r'oedd dosbarthiadau gweithiol, man fwrgeisiol ac uchel fwrgeisiol Cymraeg - a hynny yn helaeth ar yr un pryd.
(Dwi'n siwr cawn i glywed o deulu'r Miles os yw hynny yn gam-ddyfyniad..Ymddiheurwn ymlaen llaw os felly. Mae'n hi'n bosibl fod Caerdydd felly I raddau llai erbyn heddiw ond
o ran mudiad parhaus y Lerpwl a fu am gyfnod, mi fyddai'n ddiddorol i gloriannu ystagdegau cymhariaethol fel tystysgrifoedd rhanbarthol geni a marw am gyfnod. Gellir lled amcangyrfif i raddau llai o bethau fel rhif y capeli Cymraeg a'u cofnodion - er nid yw hyn yn fawr o werth erbyn heddiw lle'r bo'r Cymry yn llawer mwy seciwlar ar gyfartaledd..
Mi allaf feddwl am ddinasoedd yn troi eu hiaith dros genedlaethau (megis Lemburg yn troi o'r Almaeneg gan amla'i Lvov/Lviv heddiw (Wkraeneg yn bennaf) ond mae nhw'n brin. Mae'r pwynt am strwythurau Cymaeg Caerdydd yn deg (er nid yw'r ysgolion Cymraeg yn rhwym bob tro o drosglwyddo iaith yn effeithiol - a dwi ddim eisiau swnio fel "Week in, Week Out" fama chwaith")ond ar dystiolaeth fyd- eang, mae hyd yn oed cymdogaethau o genedligrwydd lleiafrifol llawer mwy unplyg na Threganna yng Nghaerdydd e.e.- weithiau dros flynyddoedd ond yn sicr dros genedlaethau - yn dueddol o newid ar gefn sgil-effeitiau newidiadau cymdeithasol ac economegol. D'oedd hyn ddim yn fap iaith ond dwi'n cofio I Blog Menai ei hunan hyd yn oed gyhoeddi map cynllunio o eiddo Caerdydd sy'n tracio patrymau newidiol yn ol hil am gymdogaethau yn y blynyddoedd diwedda' Fel y dywed gair
Heb 13:14 "Nid oes I ni yma ddinas barhaus"

william dolben said...

do dyna ddywedodd Gareth Miles mewn rhagair i'r llyfr Presenting Saunders Lewis" parthed y 90,000 o Gymry ar lannau Merswy ond fel dywedodd Cai prin yw'r enghreifftiau o'r Gymraeg yn cael ei thraddodi i'r to iau. Tyfais i fyny ymhlith canoedd o'r ail a'r drydedd cenhedlaeth a roedd bron pawb wedi mabwysiadu'r Saesneg

Anonymous said...

DYMA SYNIAD yn RHAD ac am ddim i gwmni teledu bach annibynnol..Trefna adundebau cyn ddisgyglion chwarter canrif neu hanner canrif ar ol iddyn nhw madael o'u hysgolion Cymraeg..o rychwant eang gan fynnwys ysgolion Rhydfelen a Botwnnog ayb..Gellir ymhel lluniau a fideo cartref i nodi cerrigmilltirau bywydau o ran caru..teulu..ffydd..gyrfa.aad leoliadau..mi fydd y peth yn gyforiog o deledu hiraeth gwancus.at batrwm 7 UP .ond...am bris eu cyfranogiad mi ddisgwylir iddyn lenwi rhYw
fath ar holiadurffurflen
gan gynnwys ini anoraciaid..cwestiynau.iaith a lleoliad eich disgynyddion hyd y trydydd genedlaeth..HWYRACH GAN NHW GRANT YMCHWIL A R HENEIDDIO mewn cyd destun diwylliannol GAN FWRDD IEITHOEDD BACH EWROB.*neu dwpsyn arall*cyn yr ymadawiad swyddogol.. ;#)

Trent Report said...

Dw i'n meddwl bod y canluniadau estyn yn fwy bwysig a defynyddiol na'r canluniadau'r cyfrifriad. Pam? Achos yr adroddiadau Estyn yn dweud y % o blant mewn ysgol yn siarad Cymraeg fel mamiaeth mewn cartref; tydy'r cyfrifiad ddim. Er enhraifft ym Mangor, Er bod y Cafrifriad yn dweud bod 36% y boblogaeth yn siarad Cymraeg; maen yr adroddiadau estyn yn dweud bod 24.3% o blant yn ysgolion gynraddion yn siarad Cymraeg fel mamiaith yn y Cartref.
Yng Nghaernarfon: 81.6%
Bethesda: 74.5%
Pwllheli: 75.0%
Blaenau Ffestiniog: 80.3%
Nefyn: 80.4%
Porthmadog: 63.5% (Yn Ysgol Eifion Wyn Roedd yr ardroddiad Estyn (2010) yn dweud bod 60% o blant yn siarad cymraeg yn y cartref ond yn nursery roedd hi'n 33%.