Friday, May 06, 2016

Sylwadau ar etholiad echdoe

Reit ta - rwan mae'r posteri yn dod i lawr a rwan 'dwi wedi cael awr neu ddwy o gwsg - ychydig o sylwadau cychwynol.



Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod y system etholiadol yn un rhyfeddol o anhyblyg.  A bod yn deg nid y system ynddi ei hun ydi'r broblem - ond cyfuniad o'r system a dosbarthiad cyfnogaeth bleidiol yng Nghymru.  Serch hynny 'dydi cyfundrefn lle mae cwymp sylweddol yng nghefnogaeth plaid wleidyddol ddim yn cael ei adlewyrchu gan gwymp cyfatebol yn eu cynrychiolaeth seneddol.

Yn ail mae'n rhaid cydnabod i Lafur wneud yn dda - nid cymaint o ran eu pleidlais - syrthiodd hwnnw - ond yn hytrach o ran perfformio'n dda ble roedd rhaid iddynt wneud yn dda.  Yn ddi amau mater o ganolbwyntio adnoddau ar seddi allweddol oedd hyn - a hefyd - ag ystyried mor agos oedd hi yn rhai o'r seddi - roedd yna lwc ar waith hefyd.



O ran y Blaid, mae'r wers yn weddol amlwg.  At ei gilydd gwnaeth yn dda lle'r oedd peirianwaith effeithiol ar lawr gwlad, a pherfformiodd yn siomedig lle nad oedd peirianwaith felly yn bodoli.  Dydi o ddim ots pa mor dda ydi maniffesto, polisiau, ymgeiswyr a naratif etholiadol - roedd y Blaid filltiroedd o flaen pawb arall yn erbyn y mesuriadau hynny - mae'n rhaid wrth beirianwaith i wneud i hynny gyfri - yma yng Nghymru o leiaf.  Mae'n debyg y dyliwn hefyd adlewyrchu ar y ffaith i ni ddod yn agos iawn - unwaith eto - mewn nifer o seddi a methu.  Roedd rhai o'r seddi yna yn agos iawn yn ddaearyddol i etholaethau lle enillodd y Blaid yn hawdd iawn.  Mae angen o ddifri meddwl am hynny.

Roedd y canlyniad yn amlwg yn siomedig i'r Toriaid.  Yn ystod yr haf roedd pethau'n edrych yn addawol iawn iddynt.  Mater syml o ddefnyddio data Mai 2015, llusgo eu pobl i'r bythau pleidleisio a dibynu ar y ffaith nad ydi pleidleiswyr Llafur yn arbennig o dda am ddod allan i bleidleisio mewn etholiadau Cynulliad oedd rhaid ei wneud.  O wneud hynny,bryd hynny, gallai cyfres o seddi fod wedi syrthio iddynt.  Ond ers hynny maent wedi mynd ati i handbagio'i gilydd yn gyhoeddus gyda pheth arddeliad, ac mae hynny wedi niweidio eu delwedd yn sylweddol.

O ran y Lib Dems mae nhw wedi cael eu chwalu tros rannau eang o Gymru.  Roedd eu perfformiad yn waeth nag un Plaid Diddymu'r Cynulliad mewn dau ranbarth, yn Arfon echnos roedd yna flychau lle nad oedd hi'n bosibl dod o hyd i gymaint ag un pleidlais iddynt.  I bob pwrpas maent bellach yn blaid pedair etholaeth yng Nghymru - Ceredigion, Brycheiniog a Maesyfed, Trefaldwyn a Chanol Caerdydd.  Mae'n blaid sydd bellach yn hollol amherthnasol tros rannau eang o'r wlad.  Bydd rhaid iddynt chwarae eu triciau budur mewn rhannau mwyfwy cyfyng o'r wlad.

Mae UKIP wedi cael etholiad dda, ond o bosibl ddim llawn cystal ag y byddent wedi gobeithio.  Dydan ni ddim yn gorfod mynd yn ol yn rhy bell i weld y polau'n awgrymu y byddant yn cael dwy sedd ranbarthol ym mhob etholaeth.  Ta waeth, byddant yn ddigon hapus - er bod eu grwp wedi hollti'n ddwy garfan cyn cychwyn. Duw a wyr sawl carfan fydd yna mewn chwe mis.   

Byddant yn wahanol i'r pleidiau eraill, a dylanwad negyddol di gydweithrediad fyddant yn bennaf - fel y buont yn senedd Ewrop.  Serch hynny, mae yna leiafrif arwyddocaol o bobl yng Nghymru yn rhannu eu hagweddau (a'u rhagfarnau gwaelodol) ac efallai nad yw'n ddrwg o beth i gyd bod yr agweddau / rhagfarnau hynny yn cael cynrychiolaeth ar lefel Cynulliad - yn wahanol i senedd y DU.  O ran eu dyfodol mae'n dibynu ar sut y bydd UKIP Lloegr yn ail ddiffinio ei hun yn dilyn refferendwm Ewrop.  Adlewyrchiad o ddylanwad Lloegr ar wleidyddiaeth Cymru ydi llwyddiant y blaid yng Nghymru, ac yn Lloegr y bydd ei dyfodol yng Nghymru yn cael ei benderfynu. 

A'r dyfodol yng Nghymru?  Pum mlynedd arall o Lafur - a phum mlynedd arall o'r un hen beth.  Oherwydd bod eu gwleidydda negyddol, anterliwtaidd wedi amddiffyn eu seddi (os nad eu canran o'r bleidlais) byddant yn parhau i'w ddefnyddio.  Oherwydd mai un sedd mae pum mlynedd o danberfformio alaethus wedi ei gostio iddynt, byddant yn parhau i dan berfformio ar eu maniffesto di weledigaeth, di uchelgais.  Oherwydd nad oes cosb am fethiant, byddant yn parhau i fethu.  Bydd perfformiad cymharol Cymru wedi dirywio ymhellach - a byddwn mewn lle gwaeth yn 2021 nag ydym ynddo heddiw.

A'r ffordd ymlaen?  Mater i flogiad arall ydi hynny.

2 comments:

Anonymous said...

Tipyn o fai ar y blaid yn rhanbarthol o ran dewis ymgeiswyr, toedd Helen Meri byth am guro Lee Waters, ond byddai Adam wedi, â Helen Mary wedi ennill yn sêt Adam. Yr ymgeisydd wedi bod yn hollol gywir yn Aberconwy (pe byddai UKIP wedi sefyll byddai wedi dwyn pleidleisiau y toriaid), ac ym Mlaenau Gwent. Byddai Helen Mary hefyd wedi bod yn wych pe byddai wedi aros yn y râs am y Comisiynydd Plant, 7 mlynedd o fod yn ddraenen barhaol i Llafur Cymru, heb orfod boeni am etholiad.

Anonymous said...

Un Wennol, ni wnaiff Wanwyn, 5 mlynedd o wastraff amser gan y Blaid. Ar ol canlyniad siomedig 2011 yr holl strategaeth oedd yr etholiad yma. Amser i'r Blaid edrych arni eu hunan eto a dewis strategaeth all ddenu pleidleiswys o Lafur, dim eu gyelyniaethu. Gobeithio wir nad ydym am wastraffu 5 mlynedd arall