Mae'r blog yma eisoes wedi cydnabod i Lafur wneud yn dda yng Nghymru ar Fai 5 i'r graddau iddynt lwyddo i golli un sedd yn unig. Ond wedi dweud hynny, aeth eu pleidlais i lawr yn sylweddol tros y wlad - ac yn arbennig felly mewn rhai ardaloedd penodol. Wele'r 11 etholaeth lle bu cwymp o tros 10%.
Blaenau Gwent - 24.3%
Castell Nedd - 16.1%
Caerffili - 13.6%
Aberafon - 13.4%
Islwyn - 12.9%
Gorll Caerdydd - 11.5%
Pontypridd -11.4%
Cwm Cynon -10.9%
Pen y Bont - 10.9%
Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr - 10.8%
Yr hyn sy'n drawiadol ydi iddynt oll - ag eithrio'r olaf - ddigwydd mewn ardaloedd lle mae Llafur yn rheoli ar y cynghorau. Mae cynghorau wedi gorfod torri yn ol yn sylweddol ar wariant wrth gwrs - ac at ei gilydd mae cynghorau Llafur wedi gwneud joban wael arni.
Bydd etholiadau'r cynghorau yn cael eu cynnal mewn blwyddyn - ac mae gan Llafur gryn le i boeni wrth edrych ymlaen atynt. Petawn i yn Lafurwr byddwn yn poeni am Rhondda Cynon Taf, , Caerffili, Castell Nedd Port Talbot, Blaenau Gwent a Chaerdydd - yn y drefn yna.
2 comments:
Rhondda..
O gofio'r lluniau o ymgyrchwyr Llafur yn heidio o Keele i'r Rhondda cyn yr etholiad, oes arwyddocad o gymharu hynny a'r sgandalau Llafur/Toriaid diweddar - gweler guido - o ran bysiau o ymgyrchwyr nad ydynt i'w gweld ar restrau treuliau etholiadol?
'm'ond gofyn 'te - heb wybod yr ateb 'chwaith.
A yw'r un ddadl am natur y cyngor yn egluro'r gogwydd o'r Blaid i Lafur yn Llanelli ? Mae Cyngor Sir Caerfyrddin bellach yn rhagori ar un Sir Fon am bencampwriareth "Comedy Council" Cymru. Dipyn o gamp, a dweud y lleiaf.
Post a Comment