Mae'n debyg gen i bod yna deimlad i Blaid Cymru wneud yn eithaf da yn etholiadau Mai 5 tra bod yToriaid wedi gwneud yn sal. Ar un olwg mae hyn yn rhyfedd braidd gan bod nifer pleidleisiau a nifer seddi'r ddwy blaid yn debyg iawn. Serch hynny dwi'n credu bod y canfyddiad yn un cywir - yn arbennig os ydym yn edrych tua'r dyfodol yn hytrach nag aros efo'r canlyniad ei hun.
Ond mae yna broblemau pellach yn wynebu 'r Toriaid Cymreig hefyd. Yn gyntaf mae ganddynt gystadleuaeth ar y Dde - rhywbeth nad oedd yn wir yn y gorffennol. Bydd cystadleuaeth o'r Dde ynglyn a sut i feirniadu'r weinyddiaeth Lafur - bydd yn feirniadaeth mwy lliwgar, mwy popiwlistaidd - a mwy boncyrs nag unrhyw beth fydd gan y Toriaid i'w gynnig. Bydd ymateb i hyn yn fater braidd yn anodd i'r blaid. Ydi hi'n ceisio cystadlu efo UKIP? - rhywbeth fyddai yn ei llusgo i'r Dde ac oddi wrth tir canol gwleidyddiaeth yng Nghymru. Ydi hi'n anwybyddu UKIP? - cwrs fyddai'n arwain ati'n cael ei thaflu i'r cysgod gan rethreg mwy lliwgar ei chyd blaid Adain Dde.
I raddau mae'r Toriaid wedi ffeirio lle efo'r Blaid yn yr ystyr yma - roedd y Blaid yn cystadlu efo'r Lib Dems, a Kirsty Williams yn arbennig yn y senedd diwethaf i feirniadu Llafur. Mae'r llwyfan hwnnw yn gwbl glir i'r Blaid bellach - ac o farnu o berfformiad hynod ymosodol wythnos gyntaf y senedd newydd mae'n bwriadu cymryd llawn fantais o hynny.
Ond mae yna fater arall hefyd - sef perfformiad etholiadol y Blaid Doriaidd. Syrthiodd ei phleidlais y tro hwn wrth gwrs - a chollodd ei statws fel y prif wrthblaid. Ond dydi'r Blaid Doriaidd ddim yn gystadleuol mewn rhannau helaeth o Gymru - a dydyn nhw ddim yn dangos unrhyw arwyddion o wella ar hynny. Cymerer y Gymru Gymraeg er enghraifft. Ynys Mon - 12%, Arfon 8%, Dwyfor / Meirion 16%, Ceredigion 7%, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr - 15%. Mae eu perfformiad yng Nghymoedd y De yn llawer gwaeth. Dydyn nhw ond yn llwyddo i gael mwy na 10% ar ymylon y Cymoedd - yn Nhorfaen, Pontypridd, Ogwr a Chastell Nedd. Roedd eu pleidlais mewn digidau sengl yng ngweddill y Cymoedd - 2% oedd eu canran yn y Rhondda. Mae eu cefnogaeth yn parhau i fod wedi ei wreiddio yn yr ardaloedd a arferid eu disgrifio fel 'y Gymru Seisnig'. Does yna ddim tystiolaeth bod unrhyw strategaeth o gwbl ar gyfer newid hyn.
Eto mae yna gyferbyniad i'w gwneud efo Plaid Cymru. Gydag un eithriad nodedig nad oes angen ei henwi enilliodd ei seddi uniongyrchol ym mherferfedd diroedd traddodiadol yr iaith Gymraeg. Ond dangosodd bod potensial iddi dyfu mewn rhannau eraill o Gymru. Roedd canlyniad Gorllewin Caerdydd yn dangos y gall berfformio'n gryf mewn dinasoedd - rhywbeth nad ydi'r Blaid wedi llwyddo i'w wneud o'r blaen. Roedd y perfformiad rhanbarthol yng Ngorllewin De Cymru ac ym Mlaenau Gwent ( a'r Rhondda wrth gwrs) yn dangos bod potensial gwirioneddol iddi yn y Gymru ol ddiwydiannol. Roedd perfformiadau'r Blaid yn etholiadau'r heddlu yn dangos bod iddi hefyd gefnogaeth 'feddal' yn y llefydd mwyaf anisgwyl. Dwi'n credu fy mod yn gywir i ddweud iddi ennill ar yr ail bleidlais ym mhob etholaeth yn y Canolbarth a'r Gorllewin a'r Gogledd.
Gall un o'r ddwy blaid edrych ymlaen at 2021 gydag hyder - ac nid y Blaid Doriaidd ydi honno.
2 comments:
Cyfle arall rydd Llafur Prydain i Plaid Cymru ydi'r alwad gan rai ynddi i roi mwy o sylw i Loegr. Mae hyn yn ddealladwy gan fod raid iddi wneud yn llawer iawn gwell yno os ydi hi am ennill etholiad cyffredinol eto. Y gwendid efo hyn ydi y bydd raid iddi symud i'r dde. Mae'n strategaeth sydd hefyd yn gorfod cynryd ei phleidlais yng Nghymru yn ganlataol (dim newydd yn y fana!). Ond rhydd hyn gyfle euraidd i PC i osod ei hun fel yr unig blaid canol-chwith sydd yn rhoi Cymru gyntaf. Er ein bod ni wedi trio gosod y naratif hwn gerbron yn y gorffennol, weithiodd o ddim i raddau helaeth. Bydd yn gymaint haws yn y dyfodol os ydi Llafur Llundain yn cymryd y trywydd uchod.
Mae gan y Toriaid le i fod yn bryderus iawn, yn bennaf oherwydd..
1. Dylanwad UKIP. Mewn 15 sedd yng Nghymru fe gafodd UKIP fwy o bleidleisiau na'r Toriaid. Daeth UKIP o flaen y Toriaid ym Mon, Ceredigion, Llanelli - a llu o seddi yn y de ddiwydiannol. Mewn sawl ardal mae pleidlais y 'dde' wedi ei rhannu bron yn gyfartal rhwng y ddwy blaid hon. Ond beth ddigwyddith ymhen 5 mlynedd tybed ? A oes yna le I ddwy blaid asgell dde?
2. Yn yr ardaloedd Cymraeg yn y gorllewin, fel y nodaist, y mae hi'n cael ei gweld fel plaid gwbl amherthnasol - a hynny ar lefel seneddol, cynulliad a chyngor sir. Mae'r bleidlais yn yr ardaloedd hyn yn hofran o gwmpas y 12% - 15%. Yma yng Ngwynedd does gan y blaid bellach neb i siarad drosti. Genhedlaeth yn ol roedd yna bobl fel Wyn Roberts ac Elwyn Jones ar ein rhaglenni teledu byth a beunydd. Ag eithrio Guto Bebb, ble mae'r bobl hyn heddiw ?
3. Peirianwaith. Mae peirianwaith y Toriaid yn fregus iawn y tu allan i'w chadarnleoedd. Er hyn, maent yn fwy trefnus a phroffesiynol na'r hyn sydd gan UKIP. Eto mae UKIP yn llwyddo i ddenu cefnogwyr ar sail yr hyn sydd yn y papurau newydd, a pherfformiadau teledu Farage a'i debyg. Mi ddylai hyn eto fod yn fater o bryder mawr iddynt.
Mae sefylfa Ynys Mon efallai yn dangos cymaint y mae'r blaid wedi colli tir. Ym 1979 ac 1983 cafodd Keith Best 15,000 a mwy o bleidleisiau. Bythefnos yn ol daeth y Tori yn bedwerydd sal hefo llai na 3,000 yn fotio iddo fo.
Dyn lleol oedd yr ymgeisydd, ond mae'n amlwg fod rhaniadau mewnol o fewn y blaid, twf UKIP, ac efallai rhaniadau fu o fewn Gymdeithas Geidwadol ers cyfnod Peter Rogers yn dal i niweidio'r Ceidwadwyr yma ar yr ynys.
Ond efallai mai'r broblem fwyaf sydd ganddynt yw'r cecru a'r ffraeo personol sy'n digwydd yn sgil y refferendwm ar Ewrop. Faint o ddrwg y gwnaeth hyn iddynt yn etholiad y cynulliad, a faint o niwed fydd hyn yn ei greu yn y misoedd a'r blynyddoedd a ddaw ?
Dydi'r cyhoedd ddim yn hoffi plaid sydd wedi ei rhwygo.
Post a Comment