Friday, May 13, 2016

Marwolaeth rhyfedd y Lib Dems Cymreig

Llyfr gan George Dangerfield yn egluro marwolaeth di symwth y Rhyddfrydwyr yn Lloegr yn y blynyddoedd wedi 1918 ydi The Strange Death of Liberal England.  Aeth y blaid o fod yn un a bron i 400 o seddi a bron i hanner y bleidlais yn 1906 i drydydd plaid yn y 20au i bolio llai na 10% (2.7% yn 1955 er enghraifft) ac ennill llond dwrn o seddau yn y 50au.  Roedd y prosesau a arweiniodd at gwymp y blaid yn gymhleth os hawdd eu hadnabod.  Wnaeth y Rhyddfrydwyr ddim dechrau ad ennill tir mewn gwirionedd am hanner canrif wedi 'r gwymp.

Mae'n debyg na fydd neb byth yn ysgrifennu llyfr am farwolaeth rhyfedd y Lib Dems yng Nghymru, a dydi'r blaid heb ddod yn agos at uchelfannau 1906 yng Nghymru mewn blynyddoedd diweddar, ond mae'r math o bleidlais y cafodd y Lib Dems mewn rhannau eang o Gymru eleni yn debyg i 'r hyn y byddant yn ei gael yn y 50au - os nad yn waeth.

Ac un o'r pethau rhyfeddol ydi fel mae bron i'r cwbl o bleidlais y blaid wedi ei chanoli ar rannau cyfyng iawn o Gymru erbyn hyn.  Ystyrier y sylwadau yma gan Jason Morgan er enghraifft:




Gadewch i ni ystyried tipyn yn fanylach.

40 etholaeth sydd yno i gyd - cafodd y Dib Lems lai na 1,000 o bleidleisiau mewn mwy na'i hanner - 21 sedd i gyd.  Os ydan ni'n adio sgor y 21 etholaeth at ei gilydd cawn gyfanswm o 13,617 - sy'n llai na'r bleidlais gafodd Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Maesyfed.

Cafodd y Dib Lems tua 1% mewn pum etholaeth - Ynys Mon, Llanelli, Rhondda, Blaenau Gwent a Chaerffili.  Petaent wedi cael yr holl bleidleisiau yna mewn un etholaeth mae'n anhebygol y byddant wedi cadw eu hernes.

Mewn tair etholaeth yn unig y cafodd y blaid fwy na 30%, mewn pedair y cafwyd mwy nag 20% ac mewn 6 y cafwyd mwy na 10%.  Os ydych chi angen rhyw fath o gymhariaeth, cafodd y blaid 10%+ ym mhob etholaeth ag eithrio Ynys Mon yn Etholiad Cyffredinol 2010.



Oes yna wersi i 'w dysgu o'r hyn ddigwyddodd i Ryddfrydwyr Lloegr yn y gorffennol?  Oes mae'n debyg.  Y gyntaf ydi bod y ffordd yn ol yn un faith ac anodd ar ol trychineb etholiadol.  Bydd i ddigwyddiadau dechrau'r mis oblygiadau pell gyrhaeddol - gan gychwyn yn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.  Yr ail ydi ei bod yn bosibl goroesi am gyfnodau maith mewn ambell i ardal, hyd yn oed pan mae'r hwch wedi mynd trwy'r siop go iawn ym mhob man arall.  Parhaodd y Rhyddfrydwr i ennill seddau yn Nhrefaldwyn a Cheredigion hyd yn oed pan nad oeddynt yn gystadleuol yn yr unman arall yn y DU bron.   

Ond ar wahan i hynny mae'r Dib Lems bellach yn ymylol i wleidyddiaeth Cymru - ac yn debygol o aros felly am gyfnod maith.

A beth am hon?  





5 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Nid pleidlais o blaid y Lib Dems a geir yng Ngheredigion ond pleidlais bersonol i Mark Williams ac un gwrth-Blaid Cymru. Os yw MW yn rhoi'r gorau iddi ryw ben, neu plaid arall yn cipio'r bleidlais gwrth-Blaid Cymru fe allai'r hwch fynd drwy'r siop iddynt yn derfynol.

Anonymous said...

Dim cysur i'r rhai ohonom sy'n byw yng Ngheredigion. Unrhyw gynor ar sut i leihau y bleidlais Lib Dem yma ?

BoiCymraeg said...

^^ Mae Ifan uchod yn gywir a dwi'n credu bod yn union yr un peth yn gywir am Kirsty Williams ym Maesyfed. Pleidlais gwrth-Doriaid gyda mwyafrif y boblogaeth yn sefyll tu ol i'r unig ymgeisydd oedd a chyfle i guro'r Tori.

Cneifiwr said...

Dw i'n aros yn eiddgar am "Marwolaeth ryfedd Llafur Prydeinig". Waeth pwy sy'n arwain y blaid yn 2020, bydd ennill mwyafrif heb yr Alban yn amhosib i bob pwrpas.

Anonymous said...

Dw'i'n ofni ein bod ni'n gweld marwolaeth gwleidyddiaeth rhyddfrydol yn y byd gorllewinol