Friday, January 01, 2016

Diwedd drwg i 2015 i Mr Diog

I'r sawl yn eich plith sydd ddim ddigon hen (neu o bosibl ddigon ifanc) i gofio'r cymeriadau rhaglen plant Mr Men, nodaf ddisgrifiad o un o'r cymeriadau hynny - Mr Lazy - 'dwi wedi ei godi o Wikipedia.

Mr Lazy

Number 17 

Where does he live? 
Sleepyland


Mr Lazy is the laziest person in the world. He can sleep for hours upon hours upon hours. In Lazyland, they don't even get up in the morning, they get up in the afternoon. One day, when Mr Lazy was taking a nap outside in a chair, he was woken up suddenly by the sound of someone shouting "WAKEUPWAKEUP!". That person was in fact two people, Mr Busy and Mr Bustle. These strange two men made sure that Mr Lazy got to work as there was wood to chop, floors to clean, coal to get, windows to polish, and a lot more things. Mr Lazy had never done this much work in his life, but luckily for him, the two visitors only turned out to be a big dream! 

Mr Lazy Facts:
• In Sleepyland, there are only 4 hours in the day, instead of our usual 12!
• Mr Busy and Mr Bustle made Mr Lazy go on a walk as well as doing the chores. 
• When they blew a whistle to make him run, it only turned out to be his kettle that he left on!


Mae gen i ofn i Brif Weinidog Cymru - Carwyn Jones - fy atgoffa braidd o Mr Diog tros ddyddiau olaf 2015.  Ei ymateb cadarn a chyflym i'r llifogydd yng Ngogledd Cymru oedd y trydariad isod.  


A dyna fo am bedwar diwrnod.  Wedi hir a hwyr ymlwybrodd tua'r Gogledd (wedi anogaeth Mr Busy a Mr Bustle yn ddi amau), egluro iddo aros i ffwrdd cyhyd rhag bod o dan draed, ymweld a chwpl o lefydd, sefyll ar ben pont i edrych ar yr A55 a'i gwneud hi am adref mor gyflym a roedd ei anian yn caniatau er mwyn ceisio ei gwneud hi adref erbyn dathliadau'r  flwyddyn newydd.  



Ac yna - och a gwae - mae rhywun yn dweud wrth Mr Busy a Mr Bustle bod trigolion Tal y Bont a gohebwyr wedi bod yn sefyll yn y glaw yn disgwyl i siarad efo Mr Diog.  Felly dyma orfod ymlwybro'n ol i'r Gogledd pell unwaith eto, gan obeithio cyrraedd yno mewn pedwar diwrnod arall.  


                                Y cyfryngau yn Nhal y Bont yn holi am hynt Mr Diog.


                                  Aros yn ofer i gael sgwrs efo Mr Diog

Mae'r diogi di ffrwt sydd ynghlwm a'r stori yma yn nodweddu dyddiau diwethaf y llywodraeth drychinebus yma yn well nag unrhyw beth gallaf feddwl amdano.  




4 comments:

Dylan said...

Dw i ddim yn siwr be'n union fyddai rhywun fel CJ wedi'i gyflawni trwy roi ei welingtons a hi-vis ymlaen ar gyfer y camerau. Byddai wedi bod yn y ffordd, fwy na dim. Dw i ddim yn deall yr angen i wleidyddion amlwg gael eu gweld mewn llefydd sydd mewn trafferth cyn gynted â phosibl. Dylen nhw fod yn cyd-lynu o'r cyrion, nid cymhlethu'r ligistics ymhellach.

Cai Larsen said...

Wel mae o wedi mynd Dylan - jyst yn uffernol o hwyr. Esgys tila ydi'r busnes bod yn y ffordd - does yna neb yn disgwyl iddo fo gerdded i mewn i'r dwr ei hun a trio ei glirio fo. Mae hyn i'w wneud efo dangos consyrn ac arweiniad - hy ymddwyn fel arweinydd.

Gwilym said...

Rhaid i mi ddweud mod i'n cytuno efo Dylan. Fasai'n llawer iawn gwell gen i taswn i yn sefyllfa pobl Tal y Bont gweld peiriannydd sifil mawr ei fri, efo addewid o gyllid i wneud rhywbeth am y sefyllfa, na gwleidydd llipa mewn sî-bŵts efo'i ddwy lygad yn gadarn ar etholiadau mis Mai.

Cai Larsen said...

Gan CJ mae'r £1.5m i wneud y job - nid gan beiriannydd sifil mawr ei fri. Dyna pam oeddan nhw yn sefyll allan yn y glaw yn aros i'w weld.