Wednesday, January 13, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhan 2

Diolch i Elis Dafydd am dynnu sylw at hon.

"Pe bai pawb yn byw fel rydym ni’n byw yng Nghymru, byddai angen bron i dair planed er mwyn darparu’r adnoddau angenrheidiol. Nid yw hynny’n opsiwn i Gymru bellach[...]" 




Mae'r dyfyniad wedi ei godi o wefan Llywodraeth Cymru.  Petai'r dyfyniad yn wir, mae'n rhaid bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried prynu, dwyn, benthyg, hawlio, rhentu neu gywain mewn rhyw ffordd arall ddwy blaned, er mwyn mynd i'r afael a phroblemau amgylchyddol Cymru.  

Os nad ydi cywain dwy blaned yn opsiwn bellach, mae'n rhaid ei fod ar un amser - golyga hynny yn ei dro y byddai trafodaeth wedi digwydd ynglyn a'r mater rhywbryd neu'i gilydd.  Mae'n debygol iawn - am resymau sy'n ymwneud ag argaeledd - mai Gwener a Mawrth fyddai'r ddwy blaned dan sylw.




Dwi ddim yn credu i'r drafodaeth yma erioed fynd rhagddi - yn rhannol oherwydd mai diffyg uchelgais llwyr ydi un o brif nodweddion Llywodraeth Cymru, nid uchelgais gorffwyll ac afresymegol -  ac yn rhannol oherwydd y byddai hyd yn oed Llywodraeth Cymru yn deall o'r dechrau'n deg bod problemau technegol ac ariannol anorchfygol ynghlwm a'r cywaith arbennig yma.  Gobeithio.  

No comments: