Wednesday, January 06, 2016

'Bai pawb ond fi ydi o'

Gydag ymddiheuriadau i'r sawl yn eich plith nad ydynt yn byw yng Ngogledd Cymru, mae gen i ofn ein bod yn dychwelyd at lifogydd yr A55, ac ymddygiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones ers i'r llifogydd hynny ddigwydd ar ddydd San Steffan.



Wna i ddim mynd tros hen dir - rydym eisoes wedi edrych ar ei ymddygiad bisar ers y 26ed o Ragfyr.   Fodd bynnag dychwelodd i'r Gogledd ddoe gan ymweld a Thal y Bont a'r Bontnewydd.  Yn ystod yr ymweliad dywedodd y bydd cynllun Cyngor Gwynedd i atal dwr rhag llifo ar yr A55 yn cael yr arian i fynd rhagddo.  Yn amlwg mae hynny'n fater i'w groesawu.  Ond aeth ati wedyn i geisio trosglwyddo'r bai oddi wrth ei lywodraeth a thuag at bobl eraill.

Yn y bon gwnaeth dri honiad sydd - a bod yn garedig - yn hynod amheus.  Honodd bod yr £1.5m ar gael o'r dechrau'n deg, bod deiliaid y tir o gwmpas yr A55 yn gyfrifol am atal y gwaith rhag mynd rhagddo'n brydlon ac mai bai swyddogion Cyngor Gwynedd oedd 'camddealltwriaeth' wythnos diwethaf.  

Mae'r cynghorydd lleol - Dafydd Meurig wedi ymateb i'r holl honiadau amheus.  Amgaeaf yr ymateb hwnnw isod.

1. Dywedodd bod yr arian wedi bod yno o’r cychwyn. Nid yw hyn yn wir. Rwyf wedi gweld llythyrau gan Lywodraeth Cymru dyddiedig Mehefin a Medi 2015 yn cydnabod cais Gwynedd, ond yn dweud nad oes penderfyniad ar y cyllid wedi ei wneud.

 2. Dywedodd mai materion efo tirfeddiannwyr oedd wedi dal y prosiect yn ei ôl. Mae hyn yn nonsens. Bore ‘ma fe gadarnhaodd dau Gynghorydd Cymuned gyda’r tirfeddiannwyr bod y trafodaethau wedi eu cwblhau ers tro byd.

 3. Rhoddodd Carwyn Jones y bai am gamddealltwriaeth wythnos diwethaf ar swyddogion Cyngor Gwynedd. Nid yw hyn yn wir ac mae’r swyddogion yn gandryll. 



                                   Dafydd Meurig

Ymddengys bod Prif Weinidog Cymru yn ceisio osgoi cymryd cyfrifoldeb personol, beio pobl eraill am fethiannau ei lywodraeth ei hun a chamarwain etholwyr Gogledd Cymru.  Dydi hyn ddim yn adlewyrchu'n dda arno.  

Y cwestiwn diddorol ydi - Pam?  Mae'r ateb i'w gael yma.  

Mae Vaughan yn gwbl gywir bod Llafur o dan bwysau sylweddol yng Ngogledd Cymru, ac y gallai perfformiad gwael yma arwain at ddiwedd cyfnod Carwyn Jones fel Prif Weinidog.  Cafodd Llafur gweir yn eu dwy sedd darged yn y Gogledd ym mis Mai - er gwario'n sylweddol ar y ddwy.  Collwyd un sedd yn gwbl anisgwyl, a daethwyd o fewn trwch blewyn i golli sedd arall.  

Record llywodraeth Carwyn Jones a'r canfyddiad cyffredinol bron yn y Gogledd bod y rhanbarth yn cael ei anwybyddu'n llwyr gan y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd sy'n gyfrifol am y pwysau hwnnw, yn ogystal ag ymddygiad rhyfedd y Prif Weinidog - y bownsio i lawr ac i fyny o'r De i'r  Gogledd, y panic lloerig a'r camarwain trwsgl.  Wedi'r cwbl - fel rydym eisoes wedi nodi - mae'r hyn ddigwyddodd ar yr A55 ar Wyl San Steffan yn wenwyn pur o safbwynt y Blaid Lafur yn y Gogledd. Mae'n crisialu difaterwch y blaid a'r blaenoriaethau gwariant gwrth Ogleddol i'r dim.  


No comments: