Monday, January 04, 2016

Contract canser Plaid Cymru

Mae canser  yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol rhywbryd yn ystod eu bywydau.



Does yna'r unman sy'n lle da i gael cansar - yn amlwg - mae yna rai llefydd yn waeth na'i gilydd.   Mae'r rhestrau aros am ddeiagnosis yma yn fater o warth cenedlaethol.  Er enghraifft mae tua traean o gleifion yng Nghymru yn aros am chwech wythnos neu chwaneg,  1% a 6% ydi'r ffigyrau cymharol yn Lloegr a'r Alban.  

'Dydi'r targed o sicrhau bod 95% o achosion sy'n cael eu cyfeirio trwy'r llwybr brys yn derbyn triniaeth o fewn 62 diwrnod erioed wedi ei gwrdd - mae'r perfformiad tua 8% yn salach nag yw yn yr Alban.  Does yna fawr unman yn Ewrop lle mae'r tebygolrwydd o oroesi'r clefyd yn waeth.

Bwriad Contract Canser Plaid Cymru  - a gyhoeddwyd heddiw - ydi lleihau amseroedd aros, gwella mynediad at gyffuriau a chefnogi cleifion

Bydd cynlluniau Plaid Cymru i wella gwasanaethau canser yn cyflymu diagnosis ac yn sicrhau y gall cleifion gael y cyffuriau a’r triniaethau mae arnynt eu hangen.  
Mae Contract Canser 3 phwynt Plaid Cymru yn ymrwymo i’r canlynol:
  • Dod ag amseroedd aros i lawr - diagnosis neu ddweud nad oes canser ymhen 28 diwrnod
  • Cronfa triniaethau newydd: gallu mynd at feddyginiaethau newydd ar sail beth mae’r meddyg yn ragnodi, nid eich cod post 
  • Cefnogaeth unigol i bob claf cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

Mae'r cynllun hefyd yn anelu at ostwng nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi trwy ofalu bod y brechlyn HPV yn cael ei roi am ddim i fechgyn yn ogystal â merched, trwy gymryd camau pellach i atal pobl rhag ysmygu, trwy gyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr, a thrwy sicrhau gwell mynediad at feddygon teulu trwy ein cynllun i hyfforddi a recriwtio mil o feddygon yn ychwanegol.

Tros yr wythnosau nesaf bydd cyfres o ddatganiadau polisi pwysig eraill yn cael eu gwneud gan y Blaid.  Bydd y datganiadau hyn yn rhoi dewis clir i bobl Cymru ym mis Mai - dewis rhwng llywodraeth sy'n bwriadu gwneud gwahaniaeth go iawn trwy fynd i'r afael a rhai o broblemau mwyaf di symud Cymru, a'r status quo o ddiffyg uchelgais a than berfformiad parhaus. 

Bydd etholwyr Cymru yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn fis Mai.  Mae'n hanfodol bod y cyfle'n cael ei gymryd.




No comments: