Friday, January 08, 2016

Goroesiad gwleidyddol Doughty - gwendid Llafur

Dwi ddim eisiau tramgwyddo ar alar preifat - ond mae yna rhywbeth braidd yn boncyrs mai ymateb Llafur i'r cytundeb rhwng y Bib ac Aelod Seneddol De Caerdydd - Stephen Doughty - iddo ymddiswyddo o gabinet cysgodol Llafur yn fyw yn ystod cyfweliad, ydi cwyno wrth y Bib.

Mae'n amlwg o amseriad yr ymddiswyddiad bod y Bib a Doughty eisiau achosi cymaint a phosibl o niwed i'r Blaid Lafur.  Petai Doughty yn perthyn i unrhyw blaid arall, neu i'r Blaid Lafur cyn Corbyn - byddai'n colli'r chwip.  Duw a wyr pam y byd y byddai plaid eisiau cadw aelod seneddol sy'n gwneud pob dim o fewn ei allu i'w niweidio.

No comments: