Sunday, December 21, 2014

Iaith plant Sir G/narfon yn y 50au a heddiw

Am resymau sydd ddim yn gwbl glir i mi mae gen i gopi o bedwerydd arolwg iaith yr hen Gyngor Sir Caernarfon a gyhoeddwyd yn1960.  Roedd yr arolwg wedi ei gymryd yn ystod y dair blynedd flaenorol.   Mae'r canfyddiadau yn ddiddorol. Er enghraifft wele'r canrannau o blant sy'n siarad y Gymraeg.

Bangor - 52.1% cynradd, 53.8% uwchradd.
Bethesda - 94.7% a 95%
Botwnnog - 98.9% a 96.7%
Brynrefail - 98.7% a 98.6%
Caernarfon - 95.1% a 92.9%
Llandudno 31.1% a 17.6%
Llanrwst - 83.8% a 77.6%
Penygroes - 97.2% a 97.1%
Porthmadog 93.9% a 93.8%
Pwllheli 91% a 91.2% 

Yr hyn sy'n ddiddorol yma  ydi'r gymhariaeth efo heddiw.  Mae canrannau uwchradd heddiw ar gyfer Bangor a Llandudno yn sylweddol is nag oeddynt yn y 50au, ond fel arall does yna ddim cymaint a hynny o wahaniaeth. Yn wir mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg heddiw yn uwch mewn nifer o ysgolion.   

Y system addysg sydd yn gyfrifol am hyn wrth gwrs.  Mae'r gyfundrefn addysg yn sicrhau bod y di Gymraeg yn dysgu Cymraeg heddiw.  Doedd hynny ddim o anghenrhaid yn wir yn 1960. Mae mwy o blant heddiw yn siarad y Gymraeg yn rhugl, ond fel ail iaith.  

Dwi ddim am edrych ar Fangor a Llandudno eto yn y blogiad yma, bydd y gweddill yn ystyried yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg wedi dal ei thir.

Dydi'r arolwg ddim yn dweud wrthym faint o blant oedd yn siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf, ond mae'n nodi faint sydd a rhieni sy'n siarad y Gymraeg.  Dyma'r canrannau ar gyfer plant (uwchradd) oedd a dau riant di Gymraeg.  Roedd y ganran oedd ag un rhiant di Gymraeg tua dwywaith cymaint ym mhob achos - felly roedd y ganran o blant oedd ag o leiaf un rhiant di Gymraeg yn Llanrwst yn dod i tua 34%, ac roedd y ganran ym Mrynrefail yn 16%. 

Bethesda - 6.5%
Botwnnog - 4.7%
Brynrefail - 5.7%
Caernarfon - 8.75%
Llanrwst - 12.5%
Penygroes - 5.3%
Porthmadog 9.1%
Pwllheli 7.6%

Rwan gallwn fod yn ddigon siwr bod y Gymraeg yn famiaith i lawer o'r plant oedd ag un rhiant di Gymraeg, ond does gennym ni ddim ffordd o farnu faint.  Mae adroddiadau ESTYN diweddar yn nodi'r ganran sy'n siarad y Gymraeg adref.  Maent fel a ganlyn yn yr ysgolion uwchradd (yn ol yr adroddiadau diweddaraf).  

Bethesda - 85%
Botwnnog - 75%
Brynrefail - 91%
Caernarfon - 87%
Llanrwst - 61%
Penygroes - 87%
Porthmadog 50%
Pwllheli 75%

Rwan mae'n bwysig bod yn ofalus efo'r ffigyrau uchod.  Mae yna lawer mwy o blant yn mynychu ysgolion y tu allan i'w cymdogaethau heddiw nag oedd yn gwneud hynny yn 1960.  Mae geiriad y disgrifiadau cefndir iaith hefyd ychydig yn wahanol i'w gilydd yn yr adroddiadau ESTYN.  Ond wedi dweud hynny dydi'r data ddim yn awgrymu cwymp sylweddol yn y canrannau sy'n siarad y Gymraeg fel mamiaith yn y rhan fwyaf o'r cymdogaethau sydd o dan sylw (Mae Porthmadog yn eithriad amlwg).

Mae'r arolwg hefyd yn edrych ar iaith chwarae plant.  Dydi natur yr holi ddim mor gysact ag y dylai fod - dosberthir yr atebion i Cymraeg / Saesneg / y ddwy iaith.  Dylid fod wedi mynd ati i holi am amlder defnydd iaith wrth chwarae, ond dyma'r canlyniadau am yr ardaloedd mwy Cymreig beth bynnag.


Bethesda - 67.6% y Gymraeg, 4.8% Saesneg, 27% y ddwy.
Botwnnog - 92.5% / 2% / 5.4%
Brynrefail - 76.2% / 1% / 22%
Caernarfon - 43.4% / 9% / 47.6%
Llanrwst - 17% / 24.8% / 58.4%
Penygroes - 67.9% / 3.7% / 28.3%
Porthmadog 30% / 10.4% / 58.9%
Pwllheli 32.4% / 8.2% / 59.3%

Does yna ddim ffigyrau diweddar i gymharu efo nhw ar hyn o bryd, ond mae yna ymchwil wedi ei wneud yng Ngwynedd y llynedd fel rhan o'r Cynllun Siarter Iaith.  Hyd y gwn i dydi 'r ffigyrau crynodol heb eu rhyddhau hyd yn hyn, er bod ysgolion wedi derbyn eu ffigyrau penodol nhw.  Bydd gweld canfyddiadau hwnnw yn hynod ddiddorol. Serch hynny mae ffigyrau'r 50au hwyr yn awgrymu bod yna fwy o ddefnydd cymdeithasol o Saesneg ymysg plant na fyddai'r rhan fwyaf ohonom wedi disgwyl.

Oes yna gasgliadau i gymryd o hyn oll?  Wel oes mae'n debyg.  Efallai bod y canfyddiad sydd gan llawer ohonom o linell graff eithaf unffurf o Seisnigeiddio yn ail hanner y ganrif ddiwethaf yn un rhy syml.  Mae'n gwbl wir bod yna fwy o fewnfudwyr o lawer yn byw yn y Gogledd Orllewin heddiw, ond efallai nad ydi effaith hynny ar y cenedlaethau iau mor ddistrywiol yn y rhan yma o Gymru nag yw wedi bod mewn ardaloedd eraill.  Efallai nad oedd y 50au mor unffurf Gymraeg a mae llawer ohonom yn hoffi meddwl chwaith.  Mae'r ffigyrau yn awgrymu  bod defnydd cymdeithasol gweddol uchel ymysg plant o'r Saesneg hyd yn oed bryd hynny. 

Dwi'n sylweddoli wrth gwrs bod yr ardal rydym wedi edrych arni yn dod o ardal lle mae'r Gymraeg wedi bod yn fwy gwydn nag ydyw yn yr un rhan arall o Gymru.  Ond mae'r darlun yn un sydd gryn dipyn yn fwy cymhleth - a diddorol - nag oeddwn i, beth bynnag, yn disgwyl.  

14 comments:

R Tyler said...

Newyddion da.
Mae canran ysgol Porthmadog wedi mynd lan o 50% I 68% yn ol yr adroddiad diweddaraf.

Anonymous said...

Oes ystadegau tebyg ar gael ar gyfer Ceredigion, Sir Gar a Mon?

Cai Larsen said...

Ddim hyd y gwn i.

Anonymous said...

Er nad wyt yn trafod bangor a Llandudno, mae yna bethau rhyfedd yna - ni fuaswn wedi dychmygu fod bron i draean plant cynradd Llandudno'n siarad Cymraeg yn y 50au, er enghraifft. Dwi'n cofio Llandudno'n le Seisnegaidd iawn erioed, ond roedd mewnfudo hen bobl yn broblem yno erioed.
Yr oedd canran uwch o ddisgyblion uwchradd Bangor yn siarad Cymraeg nac yn y cynradd - tybed a oedd y ffigyrau cynradd yn cynnwys ysgolion cynradd Felinheli a Llanfairfechan ?

Cai Larsen said...

Roedd Rhiwlas, Penmaenmawr a Llanfairfechan yn nalgylch Bangor bryd hynny - ond nid y Felinheli yn swyddogol - serch hynny roedd llawer o blant Felin yn mynd i Fangor.

Ti'n gywir bod y ffigyrau cynradd Llandudno yn anisgwyl o uchel - ond mae'n bosibl bod defnydd yn cael ei wneud o'r Gymraeg yn y cynradd wrth addysgu, ond nad oedd defnydd o gwbl yn yr uwchradd.

R Tyler said...

Mae ffigurau pob ysgol, bron, yn Gymru i gael ar:
http://www.estyn.gov.uk/

Rhai yn ddiflas iawn...

William Dolben said...

Hwyrach mai fi anfonodd y drogaren i ti Caí. Mae'r arolygon han gennyf:
Sir G'narfon 1944 a48
Mon 1968
Sir Ddimbech 1948
Sir Aberteifi 1961 a 67
Gwynedd, Dyfed a Phowys 1977
Wedi'u gyrru atat ond mae'r pdfs un andros o fawr. Rho wybod i mi os dont trwodd yn iawn

William Dolben said...

Dengys ya arolygon hyn sut y seisnigwyd trefydd y gorllewin fel Caergybi, Bangor, Aberteifi, Dinbych...Cymry'n yn magu eu plant yn Saeson. Yr ysgolion Cymraeg yn dechrau agor ond yn rhy ychydig rhy hwyr yn achos y trefydd.

Cai Larsen said...

Cael hyd i hwn yn fy stydi wnes i - mae'n gopi papur gwreiddiol William.

Dwi ddim yn ymwybodol i mi dderbyn pdfs gen ti. Efallai y byddai'n werth eu hanfon fesul dau neu dri.

William Dolben said...

Iawn Cai. Rwyf wedi'u gyrru fesul un/dau at olaf@larsen7223.fsnet.co.uk ond mae'r server yn deud dy fod dros dy gwota. Hwyrach eu bod yn dy sbam. Oes gennyt e-bost arall neu FTP?

wedyn cei di gymharu arolwg 1950 a rhai 1948 a 1944. Buaswn i'n leicio cael copi o un 1950. os na ddaw y pdfs trwodd mi anfonaf gopi neu CD trw'r post.

Cai Larsen said...

Mi gliria i le yn y hocs.

Cai Larsen said...

Dwi wedi clirio'r bocs rwan Wiliam os ti eisiau anfon mwy

William Dolben said...

Ti di cael rhai? Mi yrraf y cwbl lot mewn 10 munud

Hywel said...

William,

Byddwn yn ddiolchgar am y pdfs hefyd. Fyddech chi'n eu hanfon at hyfforddwr yn(sef@ yn ceisio drysu sbam) aol.com ogydd, ac fe'i roddaf ar gael yn gyhoeddus drwy statiaith.com wedyn? Does dim angen rhai Sir Aberteifi gan eu bod ar gael o archif gwefan Bwrdd yr Iaith. Gweler y sylwadau rwyf wedi eu hychwanegu at flogiad Cai.