Eglurhad gan y Cyng Sian Gwenllian pam ei fod wedi ymddiswyddo o fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd:
Ymddiswyddiad SG o CCG Ym Medi 2014, penderfynodd Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd hysbysebu dwy o’i swyddi haen uchaf heb fod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol a heb osod amod fod rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddysgu Cymraeg. Cafodd y mater ei drafod yn yr ail gyfarfod i mi ei fynychu fel aelod oedd newydd ei phenodi i’r Bwrdd. Roeddwn wedi dadlau a phleidleisio yn erbyn y penderfyniad ond pan benderfynodd y Bwrdd gefnogi’r bwriad yma, teimlwn nad oedd gen i ddewis ond ymddiswyddo o’r Bwrdd fel mater o egwyddor. Ar ôl meddwl yn ofalus iawn am y mater, rhoddais wybod i’r Cadeirydd fy mod yn dymuno ymddiswyddo ac fe dderbyniwyd hwnnw yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd. Ni chredaf fod modd edrych ar benderfyniad y Bwrdd fel ‘eithriad’ o gofio statws uchel y swyddi ac rwyf yn cwestiynau pa mor gyfreithiol yw torri polisi iaith Gymraeg y corff mewn ffordd mor sylweddol. Credaf fod y mater yn cael ei ymchwilio gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg. Dyma fy rhesymau dros ymddiswyddo mewn gwrthwynebiad i’r penderfyniad: 1)Bydd penodi dau aelod o staff di-Gymraeg ar y lefel uchaf yn newid holl ethos ieithyddol CCG, cyflogwr mawr lleol. Bydd cyfathrebu o dydd i dydd yn yr uwch dim reoli yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd hyn yn treiddio drwy’r corff i gyd ac fe fydd yn mynd yn gynyddol anodd i gynnal y Gymraeg fel iaith cyfathrebu mewnol. Byddwn yn gweld Seisnigio graddol o’r corff cyfan mewn rhan o Gymru lle mae’r iaith Gymraeg ar ei chryfaf, ond dan fygythiad hefyd. Mae cynnal a datblygu’r ymrwymiad cryfaf posib i’r iaith Gymraeg gan fudiadau sector cyhoeddus yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg. Mae’n helpu creu gweithlu lleol dwyieithog hyderus, yn gwasanaethu cymuned ddwyieithog hyderus. 2)Os mai prinder ymgeiswyr addas a phroblemau recriwtio sy’n cael y ‘bai’ am y newid yma mewn polisi, yna mae angen datrys y problemau hynny mewn ffordd wahanol ; mewn ffordd sydd ddim yn peryglu holl ethos Cymraeg y sefydliad. Mae’r strwythur uwch reoli newydd wedi ei ddylunio gyda chymorth cwmni o Fanceinion nad yw, efallai’n deall y diwylliant lleol. Yng Ngogledd Orllewin Cymru, mae’n bwysig cael polisïau datblygu staff, mentora ac olyniaeth cadarn mewn grym er mwyn datblygu a chryfhau talent lleol. 3)Cartrefi Cymunedol Gwynedd yw’r corff sydd bellach yn gyfrifol am y stoc tai oedd yn arfer bod ym meddiant Cyngor Gwynedd, tua 6,300 o gartrefi. Rwy’n hynod o falch o bolisïau Cymraeg cadarn Cyngor Gwynedd ac roeddwn yn hyderus y byddai CCG yn cadw at y polisïau hynny y bu eraill yn ymgyrchu mor ddygn i’w sicrhau. Roedd fy niweddar Dad yn uwch swyddog yn yr hen Gyngor Dosbarth Dwyfor ac yn un o benseiri polisi iaith arloesol Gwynedd. Mae’n fy nhristáu yn fawr fod sefydliad sy’n awr yn gofalu am stoc tai Cyngor Gwynedd yn troi cefn ar y polisi iaith arloesol hwnnw. 4)Mae’r rhan helaeth o staff CCG yn ddwyieithog. Mae dweud nad yw’r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer swyddi mor uchel yn hanfodol yn siŵr o gael effaith negyddol ar foral y gweithlu cyfan gan gyflwyno negeseuon negyddol i’r rhai sy’n gobeithio symud ymlaen gyda’u gyrfaoedd o fewn CCG.
No comments:
Post a Comment