Sunday, December 28, 2014

Edrych yn ol ar 2014

Mae unrhyw gip olwg yn ol tros flwyddyn yn siwr o fod braidd yn oddrychol - ond wele fy mlwyddyn wleidyddol i.  Mae refferendwm yr Alban yn amlwg yn cymryd lle canolog.  

Mi wnawn ni gychwyn trwy longyfarch yr ochr 'Na' eu cyfeillion yn y Bib, Sky a gweddill y cyfryngau torfol a'r ribidi res o filiwnyddion a neidiodd i'r adwy  am ennill refferendwm annibyniaeth yr Alban - a thrwy hynny lwyddo i gadw 220,000 o blant Albanaidd mewn tlodi.  Fel y gwelwch roedd gan Gymru fach ei rhan i chwarae yn y fuddugoliaeth fawr yma i fuddiannau corfforaethol a'r Ymerodraeth Brydeinig.  Ymfalchiwch.










A phob cydymdeimlad hefyd i'r ochr Ia a ymladdodd ymgyrch wych yn erbyn llifeiriant o gasineb o gyfeiriad y cyfryngau a'r pleidiau unoliaethol.

 


'Doeddech chi ddim yn gweld y lluniau uchod ar y cyfryngau prif lif o'r torfeydd anferth o bobl oedd yn ymgynnyll yn rheolaidd yn Sgwar Sior ac mewn mannau cyhoeddus eraill fel roedd yn edrych am ychydig ddyddiau emosiynol y gallai gwlad annibynol, deg a chyfartal gael ei chreu.  Doeddech chi ddim chwaith yn gweld y delweddau isod o wrthdystiadau yn yrbyn y Bib ar lannau ei phencadlys ar lan yr Afon Clyd.  Os oedd unrhyw un yn ddigon gwirion i gredu mai  gwasanaeth cyhoeddus ydi'r Bib yn hytrach na darlledwr gwladol, bydd digwyddiadau'r haf a dechrau'r hydref wedi rhoi terfyn parhaol ar y gwiriondeb hwnnw.  



Ond llongyfarchiadau i'r SNP ar yr hyn maent wedi ei lwyddo i'w wneud yn yr wythnosau yn dilyn y refferendwm - ail lunio ei hun fel yr unig fudiad torfol go iawn yn y DU, a sgubo'r Blaid Lafur o'r neilltu yn y polau piniwn.  




I fod ychydig yn fwy plwyfol roedd cefnogaeth frwdfrydig y Blaid Lafur yn Arfon i benderfyniad Tai Cymunedol Gwynedd i dorri ei bolisi iaith ei hun yn agoriad llygaid anisgwyl - yn arbennig felly yng nghyd destun sylwadau ar y radio bod polisiau sy'n mynnu bod deiliaid swyddi yn gallu siarad y Saesneg a'r Gymraeg yn  'ymylu ar fod yn hiliol'.  Mae'r Blaid Lafur yng Ngwynedd wedi cefnogi polisi felly am flynyddoedd maith wrth gwrs, a hyd y gwn i does yna neb erioed wedi eu cyhuddo nhw o fod yn hiliol o'r blaen.



Cafodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband flwyddyn dda - cael ei wthio allan o'r ymgyrch Na yn yr Alban, a gweld perfformiad ei blaid yn y polau yn syrthio'n gyson.  I godi ei galon dwi wedi cynnwys dau o'r lluniau cymharol gadarnhaol ohono a dynnwyd yn ystod y flwyddyn - y naill yn dangos ei garedigrwydd naturiol (mae'n rhoi 2c i wraig ddi gartref),  a llun arall ohono'n mwynhau bechdan gig moch.  Dwi'n siwr y bydd eleni'n flwyddyn wych arall iddo.



Mi gafodd un o hen gyfeillion Blogmenai - aelod seneddol Aberconwy - flwyddyn fywiog iawn - ymweliad ag Israel a mwy na'i siar o feirniadaeth yn sgil ei gefnogaeth o'r wladwriaeth honno yn sgil cyflafan plant yr haf.  

Cafwyd dau ddigwyddiad arall cwbl bisar, y naill a'r llall yn brawf o fyd mor rhyfedd ydi 'r byd Toriaidd.   Un oedd cyhoeddiad gan Guto yn Nhy'r Cyffredin bod partner busnes aelod seneddol Ceidwadol Gorllewin Clwyd yn un o ddau berson oedd yn cadw blog 'maleisus' oedd yn ymosod arno byth a hefyd - cyhuddiad a dynwyd yn ol yn fuan wedyn am rhyw reswm neu'i gilydd. Dyna hynna'n glir i bawb felly.  

Yn ail aeth ati i gyhuddo Iwerddon o fod a hanes gwrth Iddewig ar sail un sylw gan un gwleidydd ynglyn a chyflafan Gaza a boicot Limerick yn 1904 - pan oedd Iwerddon yn rhan o'r wladwriaeth Brydeinig.  Mae hanes plaid Guto - y Blaid Geidwadol wrth gwrs yn astudiaeth achos o wrth Semitiaeth lloerig a maleisus tros gyfnod maith o amser.



Rhywbeth arall na chafodd fawr o sylw yn y wasg oedd yr estyniad anferth i bwerau Prif Weinidog Cymru,  Carwyn Jones.  Ymddengys ei fod wedi cael yr hawl i benderfynu pwy sy'n cael bod yn rhan o barth Sterling, a phwy sydd ddim yn cael bod yn rhan o'r parth hwnnw.  Gobeithio na fydd David Cameron yn ypsetio Carwyn yn y dyfodol agos neu bydd Lloegr ar ei chlust allan o barth Sterling - a bydd rhaid iddyn nhw ystyried ymuno efo'r Ewro. 



Datblygiad arall oedd ymadawiad Louise Hughes a Llais Gwynedd - cam a adawodd Meirion heb cymaint ag un cynghorydd Llais Gwynedd.  Y rheswm am yr ymadawiad di symwth oedd oherwydd i Lais Gwynedd ddewis Seimon Glyn fel ymgeisydd Meirion Dwyfor yn hytrach na hi yn etholiadau'r Cynulliad 2016.  Oherwydd bod Seimon yn siarad y Gymraeg a'r Saesneg tra bod Louise ond yn siarad Saesneg, daeth i'r casgliad Llafuraidd mai hiliaeth oedd y tu ol i'r penderfyniad.  Hwyrach bod dyfodol iddi efo Plaid Lafur Gwynedd ar ei newydd wedd - gallant fynd ati efo'i gilydd i ffurfio grwp bach chwerw o unigolion gwrth Gymraeg.



Er gwaetha'r cynnydd sylweddol ym mhleidlais UKIP yng Nghymru, roedd canlyniad 2014 yn union fel canlyniad 2009.  Sedd i Lafur, y Toriaid, UKIP a Phlaid Cymru.  


Mater arall o ahem, gonsyrn oedd y rhyfel cartref parhaol ymysg cynghorwyr Llafur Caerdydd - coup d'etat mewnol, ymddiswyddiadau rif y gwlith, cynghorwyr yn ymosod ar ei gilydd yn gyhoeddus yn y wasg.  Petai'r hogiau (a hogiau ydi'r ffreawyr cegog at ei gilydd) yn rhoi hanner cymaint o ymdrech i symud y brif ddinas yn ei blaen a maent yn ei fuddsoddi i ladd ar ei gilydd byddai Caerdydd mewn lle da.  Ond rydan ni yn lle'r ydan ni.


Dwy stori fach gadarnhaol i orffen - buddugoliaeth Jean Lewis yn Nhrelech gyda gogwydd sy'n torri pob record yng Mghymru a buddugolaeth Jill Evans yn etholiad Ewrop.  Roedd YouGov wedi bod yn ein sicrhau ers misoedd y byddai'r cyfuniad o dwf UKIP ac adfywiad Llafur wedi pydew 2009 am arwain at golli'r sedd i'r Blaid.  Ond wnaeth hynny ddim digwydd.  Hyfryd iawn. 















2 comments:

Unknown said...

Diolch am yr holl ddadandoddi trwy gydol y flwyddyn. Mae darllen dy flog bob tro yn brofiad gwerth chweil.

Beth ddaw yn 2015?

Cai Larsen said...

Ti'n rhy garedig o lawer Vaughan.