Wednesday, December 24, 2014

Iaith plant a dirywiad yr iaith yng Ngheredigion

Diolch i hen gyfaill i 'r blog hwn - William Dolben - am anfon cyfres o arolygiadau iaith o'r gorffennol i mi.  Mi gychwynwn  trwy edrych ar sefyllfa'r iaith ymysg plant ysgol Sir Geredigion yn 1949, 1960 a 1967.  Mae'r ffigyrau isod yn dangos faint oedd yn siarad yr iaith fel mamiaith.

Aberaeron 82% (1949), 70% (1960), 69% (1967).
Aberystwyth 53%, 44%, 36%
Aberteifi 68%, 44%, 36%
Llanbed 84%, 67%, 66%
Llandysul 93%, 72%, 67%
Tregaron 93%, 85%, 80%

Crynodol 77%, 58%, 53% 

Hoffwn bwysleisio bod mwy o blant na hyn yn siarad y Gymraeg - ond dydi'r adroddiad ddim yn gysact iawn ynglyn a rhuglder

Beth am batrymau eraill?  Wel i ddechrau mae yna broblem gynyddol o ran trosglwyddo iaith.  Yn 1949 doedd 4.62% o blant oedd a dau riant yn siarad y Gymraeg ddim yn ei siarad fel iaith gyntaf, erbyn 1960 roedd y ffigwr hwnnw yn 10.53% ac erbyn 1967 roedd yn 10.83%.

Roedd yna fwy o broblem o lawer o ran teuluoedd lle'r oedd un rhiant yn unig yn siarad y Gymraeg.  41.5% o blant teuluoedd felly oedd yn siarad y Gymraeg fel mamiaith yn 1949, erbyn 1960 roedd y ffigwr hwn wedi syrthio trwy'r llawr i 19.59% ac erbyn 1967 roedd wedi syrthio ymhellach i 10.54%.  Mae'r cwymp yma yn un sylweddol.  

Ar ben hynny mae'r niferoedd abserliwt yn uchel - roedd 575 o blant oedd ag o leiaf un rhiant yn siarad y Gymraeg nad oeddynt yn ei siarad fel mamiaith yn 1949  o gymharu a 531 nad oedd a rhiant yn siarad y Gymraeg.  Y ffigyrau cyfatebol am 1960 oedd 820 a 1007 a 1119 / 1140 oedd y ffigyrau  erbyn 1967.  Mae'r ffigyrau trosglwyddiad hyn yn drychinebus, ac yn isel iawn wrth safonau heddiw.  Roedd teuluoedd a rhiant Cymraeg ei iaith efo cymaint o blant nad oedd yn siarad y Gymraeg fel mamiaith erbyn 1967 nag oedd mewn teuluoedd heb oedolyn yn siarad y Gymraeg.  

I ddod i gasgliadau cyffredinol mae'r ffigyrau a gafodd eu coledu ar gyfer yr adroddiadau hyn yn rhoi darlun mwy cymhleth i ni o ddirywiad y Gymraeg yng Ngheredigion na'r un mae 'r rhan fwyaf ohonom yn gyfforddus a fo.  Mae yna gryn wirionedd yn y canfyddiad hynod gyffredin bod y Gymraeg yng Ngheredigion wedi colli tir yn wyneb mewnfudo sylweddol o Loegr o saith degau'r ganrif ddiwethaf ymlaen - ond mae'n rhy syml. Roedd y Gymraeg eisoes o dan bwysau sylweddol -  ers y pedwar degau o leiaf.  Methiant i drosglwyddo'r iaith gan Gymry oedd yn gyfrifol am y pwysau hwnnw mwy na dim arall.  Roedd y ganran o blant oedd yn siarad y Gymraeg fel mamiaith yn is yng Ngheredigion yn 1967 nag oedd yng Ngwynedd bron i hanner canrif yn ddiweddarach.  O ganlyniad pan ddaeth y mewnlifo mawr nid oedd y Gymraeg yng nghymunedau Ceredigion mewn sefyllfa mor gryf i wrthsefyll y Seisnigrwydd nag oedd cymunedau ymhellach i'r gogledd.  

Dwi ddim yn un o'r bobl hynny sy'n gwadu bod mewnfudo yn niweidiol i'r iaith - i'r gwrthwyneb, gall fod yn hynod niweidiol - yn arbennig felly pan nad oes strwythurau i gynnal yr iaith gynhenid.  Ond mae hanes dirywiad y Gymraeg mewn rhannau o Gymru yn fwy cymhleth na chwymp yn sgil mewnfudo o Loegr, a rydan ni ein hunain wedi bod yn gyfrifol am ei gwneud yn wanach nag y dylai fod.  Mae'r adroddiadau ar y Gymraeg yng Ngheredigion yn dangos hynny yn ddigon clir.


3 comments:

Hywel said...

Roedd canlyniadau arolwg 1961, sy'n cynnwys canlyniadau arolygon 1945, 1949 a 1961, ar wefan Bwrdd yr Iaith ac maent ar gael o hyd trwy'r archif: Arolwg y Gymraeg 1961

Hywel said...

Anghofiais am arolwg 1967, sy hefyd ar gael o'r archif: Arolwg y Gymraeg 1967

William Dolben said...

Annwyl Cai, diolch am y dadansoddi manwl.
Rwy'n cael yr argraff fod diffyg trosglwyddo iaith yn broblem drefol yen Sir Aberteifi. Rwy'n credu fod y sefyllfa'n well yng Nghefn gwlad sir Aberteifi.