Monday, December 15, 2014

Cwymp rhyfeddol Llafur yn y polau

Mae'n werth nodi bod pol Cymru gyfan diweddaraf YouGov / Canolfan Llywodraethiant Cymru / ITV yn awgrymu i gefnogaeth Llafur yng Nghymru syrthio o 46% i 36% tros y flwyddyn diwethaf.  Nid yn unig bod hyn yn gwymp rhyfeddol, ond mae'n agor y posibilrwydd pendant y bydd Llafur yn torri eu record am y perfformiad Etholiad Cyffredinol salaf yn eu hanes yng Nghymru.

Ystyrier am funud i Lafur gael 48.6% o'r bleidlais Gymreig yn 1979, 37.5% yn 1983, 45.1% yn 1987 a 49.2% yn 1992.  Roedd y rhain i gyd yn etholiadau a gollwyd gan Lafur ar lefel Prydeinig.  36.2% etholiad 2010 ydi'r record ar hyn o bryd, ac o ystyried yr ogwydd cyffredinol a'r ffaith nad oes gan Lafur record dda o gynnal eu ffigyrau polio pan mae'n dod i etholiad go iawn, mae'n bosibl y bydd y ganran yn un is na hynny.  Mi fydd yna nifer o aelodau seneddol Llafur oedd yn teimlo yn gwbl ddiogel flwyddyn yn ol yn teimlo cryn dipyn yn fwy nerfus erbyn hyn.  

2 comments:

Anonymous said...

A pwy fydd yn elwa o'r cwymp yma ?

Cai Larsen said...

Wel, mae Ynys Mon yn ymylol