Dwi'n meddwl ein bod wedi trafod hyn o'r blaen - ond efallai nad ydi hi'n syniad drwg i wneud hynny eto. Cyfeirio ydw i at gynlluniau'r Comisiwn Etholiadol i orfodi pleidleiswyr i ddod a dogfennau adnabod i'r orsaf bleidleisio. Mae hyn yn ychwanegol at gamau eraill i orfodi pawb i gofrestru yn annibynnol yn hytrach na chaniatau i un person gofrestru pawb sy'n byw mewn ty. Y rheswm am yr ymyraeth yma ydi bod y Comisiwn eisiau atal twyll etholiadol - nid bod yna lawer iawn o dwyll etholiadol yn y DU.
Mae'r camau hyn eisoes wedi eu cymryd mewn rhan o'r DU - yng Ngogledd Iwerddon. Y rheswm bryd hynny oedd twf ym mhleidlais y pleidiau 'eithafol' - y DUP a Sinn Fein. Roedd y Comisiwn o'r farn mai un eglurhad am hyn oedd twyll etholiadol - er nad oedd yna ddim tystiolaeth bron o dwyll etholiadol bryd hynny chwaith. Arweiniodd y newid yn y rheolau cofrestru at gwymp sylweddol yn y nifer o bobl oedd wedi eu cofrestru i bleidleisio - ac roedd y cwymp hwnnw yn fwy amlwg mewn wardiau Pabyddol, mewn wardiau tlawd ac mewn wardiau trefol.
Y disgwyl oedd y byddai hyn yn arwain at gwymp ym mhleidlais y PUP, y DUP ac yn arbennig SinnFein. Ond nid dyna ddigwyddodd - y pleidiau 'cymhedrol' a welodd canran eu pleidlais yn syrthio trwy'r llawr, tra bod canrannau SF a'r DUP wedi cynyddu'n sylweddol. Dydan ni ddim yn siwr pam ddigwyddodd hyn - ond y rheswm mwyaf tebygol ydi bod gwell trefniadaeth mewnol a mwy o aelodau o lawer gan y pleidiau 'eithafol'. Felly roeddynt mewn gwell sefyllfa i adnabod eu cefnogwyr a thrwy hynny sicrhau eu bod yn cofrestru yn briodol ac yn mynd a'r dogfennau angenrheidiol i'r orsaf bleidleisio. The Law of Unforseen Consequences ydi'r term Saesneg.
Mae'n ddigon posibl y bydd hanes yn ail adrodd ei hun ac y bydd yna ganlyniadau sydd heb eu rhagweld yng ngweddill y DU hefyd.

3 comments:
Swnio i mi fel ffug-ddatrysiad i broblem nad yw'n bodoli yn y lle cyntaf.
Cofier bod y dogfennau yma'n costio. Anodd meddwl am amcan amgenach na dadfreinio'r tlawd.
Gyda llaw, os oes unrhyw awgrym bod elfen o dwyll etholiadol yn digwydd, yn achos pleidleisiau post mae hynny. Sut fyddai hyn yn helpu yn hynny o beth?
Mi fyddai cyfyngu'r gofrestr etholiadol yn ffeithio ar hynny - ond fyddai gorfod mynd a dogfen i bleidleisio ddim.
Post a Comment