Monday, November 18, 2013

Y Gymraeg ar Ynys Cybi ac Ynys Mon

A dweud y gwir doeddwn i ddim yn ymwybodol bod dadl wedi bod yn mynd rhagddi rhwng Michael Hagget, awdur y blog Syniadau a William Dolben ynglyn a sylw a wnaethwyd ar y blog yma gen i ynglyn a chynllunio ieithyddol ym Mon - nes i William dynnu fy sylw ati.  Yr hyn roeddwn wedi ei nodi oedd bod posibilrwydd y byddai cynllun Land & Lakes i ddarparu tai ar gyfer pobl fyddai'n dod i adeiladu Wylfa B (os daw hwnnw) yn llesol i'r Gymraeg i'r graddau nad ydi Ynys Cybi yn ardal mor sensitif yn ieithyddol nag Ynys Mon.  Mae William yn cytuno ac mae Michael yn anghytuno.  Mae'n stori am ddilyn data yn rhy bell o lawer, a gwneud hynny yn absenoldeb dealltwriaeth o'i gyd destun.

Dadl Michael yn y bon ydi bod proffeil ieithyddol Caergybi yn gadarnhaol yn yr ystyr bod y ganran o blant ysgol sy'n siarad yr iaith yn uwch nag oedd yn 2001.  Mae hefyd yn credu bod holl ysgolion cynradd Caergybi yn rhai cyfrwng Cymraeg. Mae'n casglu o'r ddau ganfyddiad yma nad oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng rhagolygon  ieithyddol Ynys Cybi ac Ynys Mon.  Mae'r canfyddiad hwn yn gwbl gyfeiliornus.

Dydi holl ysgolion cynradd Caergybi ddim yn rhai cyfrwng Cymraeg yn yr ystyr mae'r rhan fwyaf ohonom yn deall hynny - er eu bod wedi eu dynodi felly ar wefan Fy Ysgol. Mae yna ddigon o ddefnydd o'r Gymraeg ynddynt i gyfiawnhau eu categorio fel ysgolion Cymraeg, ond dydi hynny ddim yn golygu eu bod yn Gymraeg yn yr ystyr mae ysgol Gymraeg draddodiadol y dref - Morswyn - yn ysgol Gymraeg.  Dydi'r holl ysgolion cynradd ar Ynys Cybi ddim yn asesu plant yn eu gallu Cymraeg iaith gyntaf ar ddiwedd CA2.  Dydi ESTYN ddim yn arolygu Cymraeg iaith gyntaf nifer o'r ysgolion cynradd hynny chwaith.

Wedi gadael y sector gynradd gall plant Caergybi naill ai fynd i Ysgol Uwchradd Caergybi neu i Ysgol Uwchradd Bodedern.  Mae'r mwyafrif llethol yn mynd i ysgol uwchradd y dref - ysgol lle nad oes llawer o ddarpariaeth addysgu cyfrwng Cymraeg, ac un o'r ychydig ysgolion uwchradd sydd efo mwy o blant sy'n siarad y Gymraeg fel mamiaith na sy'n astudio Cymraeg iaith gyntaf.

Ond agwedd ar strori'r Gyraeg yng Nghaergybi ydi addysg.  Yr hyn sydd wedi niweidio'r Gymraeg yn y dref  ydi trosglwyddiad iaith gwael yn ystod yr ychydig ddegawdau diweddar.  Neu i roi pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol, mae'r Gymraeg mewn trafferthion yng Nghaergybi oherwydd nad yw'r sawl sy'n ei siarad wedi teimlo'r angen i'w throsglwyddo i'w plant.  Mae'r ffigyrau mae William yn eu darparu yn ddadlennol - ac yn dweud cyfrolau am y tueddiad diwylliannol i hepgor ar y Gymraeg.  Un plentyn yn unig nad yw'n mynd i ysgol ddynodedig Gymraeg sy'n siarad yr iaith efo'i rieni.  Mae'r ganran tros y dref yn is nag ydi'r ganran tros Gymru - er ei bod wedi ei lleoli yn agos iawn at berfedd dir y Gymraeg yng Ngwynedd a Mon. Wele ffigyrau William:



HolyheadPupilsEst. Welsh at homeWelsh at home %Date

Parc17700%2009

Morswyn1115650%2010Welsh school
Kingsland13500%2010

Llain Goch17711%2007

Santes Fair17200%2008

Thomas Ellis9200%2008

Llanfawr14100%2010

Caergybi1005575,7%










www.estyn.gov.uk




HolyheadPupilsWelsh at homeWelsh at home %Date
Parc2705922%1968
MorswynN/AN/AN/AN/A
Kingsland743041%1968
Llain Goch1305744%1968
Santes Fair16800%1968
Thomas Ellis39712231%1968
Llanfawr3846417%1968
Caergybi142333223,3%

Fel mae'n digwydd treuliais saith blynedd ar ddiwedd wyth degau a dechrau naw degau'r ganrif ddiwethaf yn dysgu yn Ysgol Llanfawr - ysgol sydd wedi ei lleoli yng nghanol stad dai cymunedol fawr Morawelon.  Wnes i erioed deimlo bod neb yn wrth Gymraeg yno - i'r gwrthwyneb.  Ond roedd y gwahaniaeth rhwng iaith y plant a iaith eu neiniau a'u teidiau yn hynod drawiadol.  Lleiafrif bach o blant oedd yn siarad y Gymraeg adref, roedd mwyafrif y neiniau a'r teidiau yn ei siarad yn iawn.  Doedd yna ddim atgasedd tuag at y Gymraeg, ond rhywle yn y chwe degau a'r saith degau roedd canfyddiad torfol cymunedol wedi datblygu bod y Gymraeg bellach yn amherthnasol i'w dyfodol.

Y Gymraeg oedd cyfrwng y rhan fwyaf o ddigon o'r addysgu yn yr ysgol bryd hynny - roedd pethau'n haws yn y dyddiau pan nad oedd ysgolion yn gorfod cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn profion ag asesiadau cenedlaethol.  Dydi'r addysg yna heb arwain at cymaint ag un o blant yr ysgol yn siarad y Gymraeg fel mamiaith (roedd yna ychydig bryd hynny).  Rhan o'r rheswm ydi diffyg darpariaeth Gymraeg wedi i'r plant adael y sector gynradd.  Ond y prif reswm ydi bod y plant oedd yn yr ysgol bryd hynny yn rhannu'r agweddau diwylliannol a arweiniodd at benderfyniad y ddwy genhedlaeth flaenorol i beidio a throsglwyddo'r Gymraeg.
Os ydym yn gadael Ynys Cybi am Ynys Mon mae pethau'n wahanol.  Does yna ddim amheuaeth i'r iaith wanio yno tros y ddeg mlynedd ar hugain diwethaf - ond mewnlifiad yn hytrach na diffyg trosglwyddiad sy'n gyfrifol am hynny.  Does yna ddim tystiolaeth o'r gwahaniaeth mawr rhwng y niferoedd sydd wedi eu geni yng Nghymru a'r nifer o blant sy'n siarad y Gymraeg adref a geir ar Ynys Cybi.


Petai Michael wedi treulio rhan o'r haf yn canfasio yn Ynys Mon yn hytrach na'n ceisio tanseilio ymgyrch y Blaid o hirbell byddai wedi sylwi ar y stadau sylweddol o dai preifat cymharol newydd ar gyrion llawer o bentrefi gwledig.  Roedd y dablygiadau hyn yn mynd rhagddynt yn absenoldeb llwyr unrhyw gynllunio ieithyddol.  Fel y dywedais dydyn nhw heb ladd y Gymraeg ar Ynys Mon - mae'r iaith mewn gwell lle yno nag yn y rhan fwyaf o Gymru, ond mae wedi ei niweidio a'i gwneud yn llai perthnasol i lawer o bobl nag oedd yn y gorffennol.  Hynny yw mae wedi gwneud amgylchiadau Ynys Mon heddiw yn fwy tebyg i amgylchiadau Ynys Cybi genhedlaeth yn ol - amgylchiadau a arweiniodd at shifft ieithyddol sylweddol iawn yno.


Byddai hefyd wedi sylwi ar y gwahaniaeth sylweddol yn amledd y defnydd o'r Gymraeg ar Ynys Mon ac Ynys Cybi ymysg pobl o pob oed.

Mae'r mater iaith yn syml yn y bon - fel y rhan fwyaf o faterion eraill. Pan mae profiad rhywun o iaith yn gyfoethog - pan mae'n rhan o'i fywyd teuluol, cymdeithasol yn ogystal a'i fywyd addysgol mae'n treiddio i mewn i'r hyn ydyw ac mae'n dod yn rhan creiddiol o'i fywyd. Pan mai cyfrwng rhan o addysg person yn unig - a hynny yn ddi ofyn ac am tua hanner ei fywyd addysgol ydi'r Gymraeg, mae'n dod yn ail iaith na all ei siarad yn rhugl a sydd ddim yn cael ei siarad ond pan mae'n rhaid. Yn amlwg o dan amgylchiadau felly dydi hi ddim am gael ei throsglwyddo i neb.

Rwan rhag bod  camddealtwriaethl - dydw i ddim yn feirniadol o'r sector gynradd yng Nghaergybi - mae'r ysgolion hynny yn gweithio'n galed i hyrwyddo'r Gymraeg mewn amgylchiadau nad ydynt yn rhai ffafriol.  Nid y gyfundrefn addysg sydd ohoni ar hyn o bryd ydi'r broblem ar Ynys Cybi - prosesau a gychwynwyd yng nghanol y ganrif ddiwethaf sydd yn dod i fwcwl. 

18 comments:

Anonymous said...

Rwyt ti'n darlunio llun tywyll iawn. Does dim gobaith felly i ail Gymreigio'r ardaloedd yma a'u tebyg?

Cai Larsen said...

Na, nid dyna dwi'n ei ddweud. Ond dwi yn dweud ei bod yn fwy anodd lle mae pobl yn y gorffennol agos wedi penderfynu bod y Gymraeg yn amherthnasol i'w bywydau. Ar rhyw olwg mae pethau'n haws yng Nghaerdydd nag yn Ystradgynlais. Mae'n cymryd amser a newid cenhedlaeth i newid canfyddiad felly.

Anonymous said...

"Yr hyn roeddwn wedi ei nodi oedd bod posibilrwydd y byddai cynllun Land & Lakes i ddarparu tai ar gyfer pobl fyddai'n dod i adeiladu Wylfa B (os daw hwnnw) yn llesol i'r Gymraeg i'r graddau nad ydi Ynys Cybi yn ardal mor sensitif yn ieithyddol nag Ynys Mon"

Mae hyn yn sowndio yn debyg i ddadl cabinet Cyngor Sir Ddinbych ynghylch canolbwyntio datblygu ym Modelwyddan yn hytrach na'i wasgaru ar hyd y sir.

Fyddai o'n deg gwneud y gymhariaeth yma?
Maddeier i mi os ydy o'n gymhariaeth anheg.

MH said...

Ti wedi cam-gyfleu'r hyn a ddywedais, Cai. Byddai'n well i ti ... neu gwell i bobl heb dy ragfarn yn fy erbyn, mae'n flin 'da fi weud ... ei ail-ddarllen.

Cai Larsen said...

MH - mae croeso i ti gywiro unrhyw gam argraff dwi'n ei chyfleu.

Cai Larsen said...

Anon 12:34

Dydi o ddim yr un peth mewn gwirionedd. Os daw Wylfa B - ac os ydi hi ar hyn o bryd, fydd gan Gyngor Ynys Mon ddim dylanwad ar y penderfyniad hwnnw. Byddai'r cynllun ym Modelwyddan yn dennu mewnfudo ar ei liwt ei hun.

Nid dadlau o blaid y cynllun oeddwn i wrth gwrs yn wreiddiol - dim ond nodi y gallai'r elfen ohono oedd yn ymwneud a Wylfa B wneud rhywfaint i arbed yr iaithar Ynys Mon.

Ioan said...

Dwi'n meddwl bod gwefan Ysgol Uwchradd Caergybi yn dweud y cyfan:
http://www.ysgoluwchraddcaergybi.co.uk/
Dwi'n gallu gweld tri gair o Gymraeg...

William Dolben said...

Diolch Cai am ailgyflwyno fy nadl a'r dadansoddiad hefo peth profiad personol. Prysuraf i egulro fod yr ystadegau yn yr ail dabl o arolwg ym 1968

Tu hwnt i Wylfa a phwy ddudodd be am Land & Lakes a bellu rwy'n gweld tri chwestiwn mwr

1. Ydi strategaeth canoli mewnlifiad yn L&L, Bodelwyddan a Bangor yn well na chaniatau cannoedd o dai ar wasgar yn y berfeddwlad Gymraeg? Ym maes twristiaeth mae rhai'n credu yn y theori pot mêl hynny ydi, denu'r rhan fwy dwristiaid i le penodol: ee. yr Wyddfa (a'i ddifetha i raddau) er mwyn arbed gweddill y mynyddoedd

2. Oes modd ailgymreigio llefydd fel Caergybi, Bangor, Dinbych, Aberteifi, Pontardawe, Rhydaman, Ystradgynlais ar ôl i'r boblogaeth droi at Saesneg ?

3. Ydi'r polisi o agor ysgol Gymraeg yn y trefydd hyn wedi bod yn llwwyddiannus neu ydi o wedi gwanychu ysgolion ar gyrion y dre fel Kingsland a Llain Goch yn achos Caergybi?

Cai Larsen said...

1). Mae'n anodd dweud William. Y drwg efo stad fawr o dai mewn tref tdi na alli di reoli pwy sy'n mynd yno. Efallai y bydd pobl o ardaloedd Cymraeg yn gwneud hynny a gadael eu llefydd eu hunain yn wag i fewnfudwyr - mae hyn wedi digwydd yng Nghaernarfon i raddau.

2). Y broblem efo ail Gymreigio llefydd fel hyn ydi bod pobl wedi colli'r Gymraeg am nad ydyn nhw am ei chadw. Y fantais ydi bod ganddynt ddealltwriaeth dda o'r Gymraeg yn ogystal a model gan bobl hyn ynglyn a sut i'w siarad yn dda.

3). Dwi ddim yn meddwl i Morswyn ddenu digon o blant i wneud gwahaniaeth mawr - ond mae'r Garnedd yn stori wahanol.

Anonymous said...

Pwyliaid fydd yn debygol o for cyfan helaeth o staff l+l does one rhaid edrych at broffil staff gwesty Celt yng ngaernarfon

Cai Larsen said...

Na, byddai cyflogau adeiladu'r Wylfa yn uwch o lawer na rhai'r Celt - mi fyddai yna fwy o gystadleuaeth lleol (ac o Loegr).

Anonymous said...

Bum yn dysgu yn Ysgol y 'County' yng Nghaergybi am gyfnod ddiwedd yr 80au - chwarter canrif yn ol, ond ni chredaf fod yr amgylchiadau wedi newid rhyw lawer ers hynny. Yr wyf yn amcangyfrif fod oddeutu 15% o'r disgyblion yno yn siarad Cymraeg adref - ond roedd llawer, llawer llai na 5% yn fodlon ei siarad yn yr ysgol. Yr oedd y nosweithiau rhieni'n aml iawn yn ddwyieithog - y rhieni'n siarad Cymraeg yn iawn - ond dim math o ddiddordeb mewn cynnal yr iaith. Yr oedd y newid ieithyddol yn digwydd dwy genhedlaeth yn ddiweddarach nac y digwyddodd yn y cymoedd, ond heb obaith am adfywiad. Yr oedd y myrdd o hen Gymry gyda chyfenwau Seisnig, Gwyddeli ac Iseldireg yn atgoffa rhywun o'r cadernid a fu yno yn gymharol ddiweddar, ond roedd y degau o ddisgyblion mud eu Cymraeg gydag enwau cyntaf Cymraeg yn cadarnhau'r presennol a dyfodol du yr awgrymai Cai.
Yr oeddwn, yn wahanol i Cai, yn synhwyro Gwrth-Gymreictod ymysg y disgyblion. Iddyn nhw, y bobl a oedd yn siarad Cymraeg oedd eu hathrawon , hen bobl, a 'Josgins' gweddill Mon a Gwynedd. Yr oedd tua hanner y staff yn siarad Cymraeg - nifer ohonynt yn bobl o Ynys Cybi ei hun, ac yn coleddu a lledaenu'r union syniadau hurt a'r disgyblion. Yr oedd gwrth-Gymreictod o fath arall yn perthyn i ddisgyblion o gefndir RAF Valley.
Dywedodd rhai o'r staff mwy gwrthrychol wrthyf bod naws yr ysgol wedi newid, a'i Chymreictod wedi dioddef, pan sefydlwyd Ysgol Bodedern. Gwelwyd honno wedyn fel y lle naturiol i siaradwyr Cymraeg.
Wrth reswm, wrth i ysgol golli y disgyblion Cymreicaf, mae'n colli ei hathrawon Cymreicaf hefyd.
Mae'n eithaf hawdd i Gymry ganfod swydd yn y sector dwyieithog/Cymraeg, felly pwy yn ei iawn bwyll a fuasai'n mynd i ysgolion mewn ardal difreintiedig fel Caergybi ? Mae'n gylch dieflig.
(Mae'r brifathrawiaeth yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd i'r rhai sy'n teimlo fod cael gwaed allan o garreg yn yrfa werth chweil).

Cai Larsen said...

Ia, ond cofia delio efo pobl Morawelon oeddwn i - sy'n frid unigryw - ddim yn wrth Gymraeg, ond ddim yn ei throsglwyddo chwaith. Roedden nhw'n hapus i ni siarad y Gymraeg efo'u plant - ond doedden nhw ddim am wneud hynny eu hunain.

Roeddet ti'n delio efo llwythau gwahanol.

Anonymous said...

Dwi wedi dysgu yng Nghaergybi'n fwy diweddar. Baswn i'n dweud bod dadansoddiad Anon. uchod yn eithaf cywir. Ni glywch chi'r un gair o'r Gymraeg yn cael ei siarad ymysg y plant. Baswn i ddim yn dweud fy mod i wedi dod ar draws llawer o wrth-gymreictod ymysg y plant na'r staff, ond does dim llawer iawn o diddordeb ynddi chwaith - pan geisiais pwyntio allan i'r plant bod y Gymraeg yn ddefnyddiol iawn iddynt i gael swyddi yn lleol, tueddais gael atebion megis "Dwi ddim eisiau gweithio'n lleol fodd bynnag, felly does dim ots". Er bod llawer o'r staff yn siarad Cymraeg (tua hanner) dydych chi ddim yn cael yr argraff ei bod hi'n bwysig iawn i lawer ohonynt. Er bod na'n aml arwyddion, arddongosfeydd ag ati yn y Gymraeg maen nhw'n gallu bod yn wallus iawn (ee "Celf Crynodeb" ar gyfer Abstract Art!).

William Dolben said...

Diolch i bawb am y sylwadau. Mae'n glir fod Caergybi yn lle ar wahân i Fôn ac ar ôl clywed hyn rwy'n teimlo fod gen yr iaith hôps mul yn y Grand National o atgyfodi…
Yr unig lygedyn o obaith ydi'r ffaith fod niferoedd Morswyn wedi codi 30% er yr adolygiad dwytha

Mae'r codiad hwn yn parhau ar ôl 2010 ac erbyn 2012 roedd 153 o blant ynddi (yn cynnwys rhai rhan amser), +19% mewn 2 flynedd. Felly 13% o blant Ynys Cybi sy'n mynychu ysgol Gymraeg erbyn 2012. Er hyn gostyngodd plant y Cylch Meithrin o 14 i 10 rhwng 2006 a 2010 (daw yr ystadegau o www.estyn.gov.uk).

Tybed ffasiwn beth fydd canran y Cymry yn Y. Morswyn ar ôl y adddrefnu sydd ar y gweill. Gweler

http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/2012/05/29/ADOLYGIAD-YSGOLION-CYNRADD-CAERGYBI-YMGYNGHORIAD-ANFFURFIOL.pdf

Unknown said...

Fel brodor o Gaergybi teimlaf fod rhaid i mi ymateb i'r post diddorol iawn yma. Diolch am yr holl wybodaeth. Mae pobl Caergybi yn falch iawn o'u Cymreictod, peidiwch fyth a thrafferthu dweud wrth unrhyw Holyheader ei fod yn Saes neu gei di cweir go iawn. Ond dydy'r iaith ddim yn bwysig i bobl y dref - agwedd y cymoedd ynglyn a'r iaith sydd yma ym Mon - tref ddiwydiannol wedi'r cyfan ydy Caergybi. Pan oeddwn yn gweithio yn y porthladd roedd Geordie yno a oedd wedi dysgu Cymraeg yn y 60au oherwydd roedd pawb yn medru'r iaith. Pan oeddwn i yno, dim ond fi a chwech arall oedd yn gallu'r iaith. Mae talcen caled yn y dref - rhaid derbyn hynny, ond rydw i'n poeni am y NI a NHW sy'n bodoli. Pobl yr ynys fawr yn cael popeth am eu bod yn Gymry Gymraeg - mae hyn yn agwedd mae'r Blaid Lafur yn chwarae arni. Mae dyfodol i'r iaith yno, ond mi fydd hi'n anodd - does dim gwadu hynny ond BYDD rhaid brwydro - ac edrychaf ymlaen at ddychwelyd i Gaergybi i ennill y frwydr honno. Agwedd Caergybi yn aml ydy, my Welsh isn't good enough, rhaid magu hyder y pobl hyn! Dros Gymru!

Anonymous said...

Yn ystod yr 80au, gyda Cergybi yn ran o Wynedd o hyd, fe roddwyd arian o rwy fath i adeiladu'r hen sied enfawr gyfryngaidd yn stad Cibyn. Y teimlad yng Nghaergybi oedd fod yr arian yma i fod i ddod i ryw gynllun adfywio yn y dref honno. Yr oedd gryn dipyn o ddrwgdeimlad at 'Caernarfon Welsh Nash' ar y pryd. Un peth a wnaeth drwg sylweddol i Gaergybi oedd y 'Dock Labour Scheme', gan i hynny fod yn andwyol i Gymreictod gweithlulu Caergybi wrth i hen ddociau Lloegr foderneiddio.
I fynd yn ol at yr Ysgol Uwchradd, bu ffrae sylweddol diwedd yr 80au dros benodi prifathro. Yr oedd yr awdurdod (Gwynedd) yn dymuno fod y Gymraeg yn hanfodol, tra i'r gwrthwyneb y teimlai'r llywodraethwyr - y rhan fwyaf ohonynt o Gaergybi ei hun ac yn Lafurwyr.

William Dolben said...

Diolch i Vaughan a'r cyfaill dienw am y sylwadau o safbwynt lleol. Mae'n rhoi cig ar esgyrn yr ystadegau ac yn helpu deall hynt yr iaith yng Nghaergybi. Da gennyf glywed gan Vaughan fod Cymreictod yr Holiheders yn gadarn. Y gwir cas hywrach ydi bod rhaid i'r iaith farw i aileni fel yn achos y Cymoedd. Mewn rhai llefydd fel Pontrhydyfen a Chwm Nedd mae'r iaith wedi marw i bob pwrpas mewn dwy genhedlaeth ond mae'r to ifanc yn teimlo ei fod ar ei golled ac yn arddel addysg Gymraeg. A ddônt yn Gymry Cymraeg naturiol? Anhebyg ond mae'n well na bod yn uniaith Saesneg.

Diddorol hefyd rhan gwleidyddiaeth. Y blaid Lafur ydi'r sefydliad yn y cymoedd a PC ydi'r blaid brotest. Yng Ngwynedd fel arall oedd hi a hyd yn oed ym Môn lle 'roedd y blaid yn wanach tan yn ddiweddar mae'n deyg fod Llangefni a Chymry Cymraeg Môn yn cael y swyddi bras i gyd yn nhyb pobl Caergybi. Mae'r Blaid Lafur yn manteisio ar hyn i droi pobl y dre'n erbyn PC a calon Gymraeg yr ynys. Yr her i PC ydi peidio ildio i'r "ni a nhw" bondigrybwyll a chadw'r drws yn agored….