Sunday, November 10, 2013

Dathlu traddodiad milwrol Prydain

Mae'n ddigon naturiol i bobl fod eisiau cofio'r sawl a laddwyd mewn rhyfeloedd, ond y drwg efo'r ffordd y gwneir hynny yn y DU ydi'r ffaith bod y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu ar hyd a lled y wladwriaeth (a thu hwnt) hefyd yn ddathliadau o draddodiad milwrol y DU.  Dydi'r traddodiad milwrol hwnnw ddim yn rhywbeth y dylid ei ddathlu.

Rydym wedi nodi eisoes i'r DU  ymosod  rhyw bryd neu'i gilydd ar 90% o'r gwledydd sydd yn bodoli ar hyn o bryd.  Rhestraf isod y rhyfeloedd mae Prydain wedi eu hymladd ers 1750.  Eithriadau gweddol brin ydi'r blynyddoedd pan na fu'r DU yn rhyfela, ac mae llawer o flynyddoedd pan roedd mwy nag un rhyfel yn mynd rhagddo ar yr un pryd.  Mae mwyafrif llethol y rhyfeloedd ymhell o'r DU, ac  yn ddim oll i'w wneud efo amddiffyn y wladwriaeth.

Mae'r rhan fwyaf ohonynt o ddigon wedi eu cychwyn gan y DU i bwrpas ennill tir, cosbi rhywun neu'i gilydd, ennill mantais strategol tros wlad fawr arall, i atal gwledydd rhag ennill eu rhyddid, neu i ennill manteision masnachol - mae'r Rhyfeloedd Opiwm a ymladdwyd er mwyn gorfodi China i fewnforio cyffuriau yn esiampl dda o hynny.

Does yna'r un gwlad arall wedi ymyryd yn filwrol mewn cymaint o wahanol rannau o'r Byd i bwrpas hyrwyddo buddiannau yr elit sydd yn ei rhedeg.  Mae hyn oll wedi arwain at farwolaethau miliynau lawer o bobl, a milwyr tlawd o'r DU ei hun ac o'r Gymanwlad sydd wedi ysgwyddo'r baich o'u hymladd.  Mae'n draddodiad grotesg a mileinig sydd wedi arwain at fysnesu gwaedlyd ar raddfa epig ar hyd y Byd am gyfnod rhy faith o lawer.

Seven Years' War 1754–1763 

American Revolutionary War 1775–1783 

First Anglo-Maratha War 1772 

French Revolutionary Wars 1792–1802 

French Revolutionary Wars ended 1802 
Second Anglo-Maratha War 1802–1805 
Napoleonic Wars 1802–1813 
Anglo-Dutch Java War 1810–1811 
War of 1812 1812 
Gurkha War 1813–1816 
Third Anglo-Maratha War 1817–1818 
First Ashanti War 1823–1831 
First Anglo-Burmese War 1824–1826 
First Anglo-Afghan War 1839–1842 
First Opium War 1839–1842 
First Anglo Marri War 1840 
First Anglo-Sikh War 1845–1846 
Second Anglo-Burmese War 1852–1853 
Crimean War 1853–1856 
Anglo-Persian War 1856–1857 
Second Opium War 1856–1860 
Indian Rebellion 1857 
New Zealand land wars 1845–1872 
Second Anglo-Sikh War 1848–1849 
Second Ashanti War 1863–1864 
Bhutan War 1864–1865 
Third Ashanti War 1873–1874 
Second Anglo-Afghan War 1878–1880 
Anglo-Zulu War 1879 
Second Anglo Marri War 1880 
First Boer War 1880–1881 
Third Anglo-Burmese War 1885 
Mahdist War 1891–1899 
Fourth Ashanti War 1894 
Anglo-Zanzibar War 1896 Shortest war in history lasted 38 minutes 

Boxer Rebellion 1899–1901 

Second Boer War 1899–1902 
Boxer Rebellion ended 1901 
Anglo-Aro War 1901–1902 
Second Boer War ended 1902 
World War I 1914–1918 
Third Anglo Marri War 1917 
Third Afghan War 1919 
Irish War of Independence 1919–1921 
World War II 1939–1945 
Greek Civil War (1944-1947)- 
Palestine, 1945-1948 
South East Asia, 1945-1946 
Malayan Emergency, 1948-1960 
Korean War, 1950-1953 
Anglo-Egyptian War of 1951-1952 (1951-1952)-- 
Mau Mau Insurgency, 1952-1956 
Cyprus Emergency, 1955-1959 
Suez/Sinai War (1956)- 
Muscat and Oman Intervention (1957-1959)-- 
Jordan Intervention (1958)-- 
Indonesia Conflicts, 1960-1966 
Ugandan Army Mutiny (1964)- 
Aden Conflict, 1964-1967 
The Conflict in Northern Ireland (1969-Ongoing) 
Falklands War, 1982 
Gulf War (1991) 
Former Yugoslavia Peacekeeping Operations 
Afghanistan War (2001-Present) 
Iraq War (2003-Present) 
Operation Phillis, Cote d'Ivoire, 2004 (MoD) 
Libyan War (2011)

2 comments:

Anonymous said...

cytunaf a'th sylwadau

Bu'n nheulu fel teulu pawb arall yn ymladd yn y ddau rhyfel byd dwethaf, ac yn nifer o rhyfeloedd eraill fel y boxer er enghraifft. Ac rwy'n ddig fod sul y cofio yn cael ei ddefnyddio fel dathliad o filwriaeth yn hytrach na dathliad o heddwch

Anodd yw methu ymuno yn y sbri filwriaethus imperialaidd tra'n parchu yn fawr dewrder fy nghyndadau

Unknown said...

Diddorol iawn hefyd ydy nodi bod RHAID i chi wisgo pabi! Dw i erioed wedi gwisgo un allan o ddewis ac diwrnod o'r blaen roedd hen ddyn yn dweud wrtha i fod yn rhaid gwisgo un. Chwarddodd fy nhaid (92 oed) a oedd yn ymladd yn Burma a dywedodd wrtha i "onid dyna beth oedd y rhyfel, sicrhau democratiaeth ac i bawb fod yn rhydd ac nid yn ufudd!"