Mae'n ddigon naturiol i bobl fod eisiau cofio'r sawl a laddwyd mewn rhyfeloedd, ond y drwg efo'r ffordd y gwneir hynny yn y DU ydi'r ffaith bod y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu ar hyd a lled y wladwriaeth (a thu hwnt) hefyd yn ddathliadau o draddodiad milwrol y DU. Dydi'r traddodiad milwrol hwnnw ddim yn rhywbeth y dylid ei ddathlu.
Rydym wedi nodi eisoes i'r DU ymosod rhyw bryd neu'i gilydd ar 90% o'r gwledydd sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Rhestraf isod y rhyfeloedd mae Prydain wedi eu hymladd ers 1750. Eithriadau gweddol brin ydi'r blynyddoedd pan na fu'r DU yn rhyfela, ac mae llawer o flynyddoedd pan roedd mwy nag un rhyfel yn mynd rhagddo ar yr un pryd. Mae mwyafrif llethol y rhyfeloedd ymhell o'r DU, ac yn ddim oll i'w wneud efo amddiffyn y wladwriaeth.
Mae'r rhan fwyaf ohonynt o ddigon wedi eu cychwyn gan y DU i bwrpas ennill tir, cosbi rhywun neu'i gilydd, ennill mantais strategol tros wlad fawr arall, i atal gwledydd rhag ennill eu rhyddid, neu i ennill manteision masnachol - mae'r Rhyfeloedd Opiwm a ymladdwyd er mwyn gorfodi China i fewnforio cyffuriau yn esiampl dda o hynny.
Does yna'r un gwlad arall wedi ymyryd yn filwrol mewn cymaint o wahanol rannau o'r Byd i bwrpas hyrwyddo buddiannau yr elit sydd yn ei rhedeg. Mae hyn oll wedi arwain at farwolaethau miliynau lawer o bobl, a milwyr tlawd o'r DU ei hun ac o'r Gymanwlad sydd wedi ysgwyddo'r baich o'u hymladd. Mae'n draddodiad grotesg a mileinig sydd wedi arwain at fysnesu gwaedlyd ar raddfa epig ar hyd y Byd am gyfnod rhy faith o lawer.

Seven Years' War 1754–1763
American Revolutionary War 1775–1783
First Anglo-Maratha War 1772
French Revolutionary Wars 1792–1802
French Revolutionary Wars ended 1802
Second Anglo-Maratha War 1802–1805
Napoleonic Wars 1802–1813
Anglo-Dutch Java War 1810–1811
War of 1812 1812
Gurkha War 1813–1816
Third Anglo-Maratha War 1817–1818
First Ashanti War 1823–1831
First Anglo-Burmese War 1824–1826
First Anglo-Afghan War 1839–1842
First Opium War 1839–1842
First Anglo Marri War 1840
First Anglo-Sikh War 1845–1846
Second Anglo-Burmese War 1852–1853
Crimean War 1853–1856
Anglo-Persian War 1856–1857
Second Opium War 1856–1860
Indian Rebellion 1857
New Zealand land wars 1845–1872
Second Anglo-Sikh War 1848–1849
Second Ashanti War 1863–1864
Bhutan War 1864–1865
Third Ashanti War 1873–1874
Second Anglo-Afghan War 1878–1880
Anglo-Zulu War 1879
Second Anglo Marri War 1880
First Boer War 1880–1881
Third Anglo-Burmese War 1885
Mahdist War 1891–1899
Fourth Ashanti War 1894
Anglo-Zanzibar War 1896 Shortest war in history lasted 38 minutes
Boxer Rebellion 1899–1901
Second Boer War 1899–1902
Boxer Rebellion ended 1901
Anglo-Aro War 1901–1902
Second Boer War ended 1902
World War I 1914–1918
Third Anglo Marri War 1917
Third Afghan War 1919
Irish War of Independence 1919–1921
World War II 1939–1945
Greek Civil War (1944-1947)-
Palestine, 1945-1948
South East Asia, 1945-1946
Malayan Emergency, 1948-1960
Korean War, 1950-1953
Anglo-Egyptian War of 1951-1952 (1951-1952)--
Mau Mau Insurgency, 1952-1956
Cyprus Emergency, 1955-1959
Suez/Sinai War (1956)-
Muscat and Oman Intervention (1957-1959)--
Jordan Intervention (1958)--
Indonesia Conflicts, 1960-1966
Ugandan Army Mutiny (1964)-
Aden Conflict, 1964-1967
The Conflict in Northern Ireland (1969-Ongoing)
Falklands War, 1982
Gulf War (1991)
Former Yugoslavia Peacekeeping Operations
Afghanistan War (2001-Present)
Iraq War (2003-Present)
Operation Phillis, Cote d'Ivoire, 2004 (MoD)
Libyan War (2011)
2 comments:
cytunaf a'th sylwadau
Bu'n nheulu fel teulu pawb arall yn ymladd yn y ddau rhyfel byd dwethaf, ac yn nifer o rhyfeloedd eraill fel y boxer er enghraifft. Ac rwy'n ddig fod sul y cofio yn cael ei ddefnyddio fel dathliad o filwriaeth yn hytrach na dathliad o heddwch
Anodd yw methu ymuno yn y sbri filwriaethus imperialaidd tra'n parchu yn fawr dewrder fy nghyndadau
Diddorol iawn hefyd ydy nodi bod RHAID i chi wisgo pabi! Dw i erioed wedi gwisgo un allan o ddewis ac diwrnod o'r blaen roedd hen ddyn yn dweud wrtha i fod yn rhaid gwisgo un. Chwarddodd fy nhaid (92 oed) a oedd yn ymladd yn Burma a dywedodd wrtha i "onid dyna beth oedd y rhyfel, sicrhau democratiaeth ac i bawb fod yn rhydd ac nid yn ufudd!"
Post a Comment