....................... % 25-39 .. % 75+ .. Gwahaniaeth
Caerfyrddin ..... 37.1% ... 52.8% ... -15.7%
Neath Port Talbot 11.1% . 17.6% . -6.5%
Abertawe ........... 7.7% ... 14.1% ... -6.5%
CYMRU ….......... 15.5% ... 17.5% ... -1.9%
Conwy …........... 29.0% ... 23.3% ... 5.7%
RCT …................ 12.3% ... 5.7% ... 6.6%
Caerphilly …...... 9.2% ... 2.5% ... 6.7%
Gwynedd …....... 69.1% ... 60.7% ... 8.3%Ynys Mon …....... 60.3% ... 51.8% ... 8.4%
Roeddwn serch hynny yn nodi bod y sefyllfa yn debygol o wella mewn amser oherwydd bod y cyfrifiad bellach yn awgrymu bod trosglwyddiad iaith y sir yn cymharu'n dda efo gweddill Cymru - hy y gymhariaeth rhwng y cohorts sy'n esgor ar blant ar hyn o bryd a phlant 3/4 oed.
Serch hynny cafwyd neges gan William Dolben sy'n paentio llun mwy du o lawer o sefyllfa'r iaith yn Sir Gaerfyrddin. Yr hyn mae William yn ei wneud ydi cymharu data'r Cyfrifiad efo data arall (addysgol yn bennaf) ac yn dod i gasgliadau llawer tywyllach. Mi ymatebaf iddo ar ol cael cyfle i bori'r data (mewn ychydig ddyddiau mae'n debyg), ond dwi'n dyfynu'r neges ar y dudalen flaen er mwyn ysgogi trafodaeth. Oes gennych chi farn? Ydych chi'n byw yn Sir Gar? Croeso i unrhyw un adael sylw.
Sylwadau Wiliam:
Hwyrach fy mod wedi bod yn fyrbwyll wrth roi Caerfyrddin ymlaen ond rwy'n dal i ochri hefo Ioan cyn belled â mae dirywiad yr iaith yn Si Gâr yn y cwestiwn.
Mae gennym dair ffynhonnell: y cyfrifiad, arolygon y Bwrdd Iaith a data ysgolion a rhieni. Fel rwyf wedi deud o'r blaen mae'r cyfrifiad yn gamarweiniol. Mae arolygon y Bwrdd Iaith yn awgrymu fod 60% o'r rhai sy'n honni eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl. Rhyw 20% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg a tua 12% (neu 300,000) yn rhugl. Wrth gwrs mae canrannau y rhai rhugl yn uwch yn y Gorllewin ac ymhlith y rhai hen os cofiaf yn iawn ond yn bendant mae'r cyfrifiad yn gorliwio iechyd y Gymraeg hyd yn oed yn fanno.
Trown rwan at y drydedd ffynhonnell sef y cyfrifiad ysgolion (cynradd). Mae'r data i'w cael yn y wefan hon:
http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/121001section8ency.xls
Maent yn ddiweddar (2011/12) ac yn fwy gwrthrychol na'r cyfrifiad yn fy marn i er mai'r rhieni sydd yn gwerthuso gallu ieithyddol eu plant (yr un fath â'r cyfrifiad!)
22.4% o blant yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd yn Sir Gâr. Y ffigyrau cyfatebol yn siroedd eraill y Gorllewin yw Gwynedd 57,6%, Môn 38.3% a Cheredigion 26.2% Er bod y mewnlifiad wedi bod yn fwy yn y tair sir hon, mae'r ganran o Gymry cynhenid yn uwch (am fod trosglwyddiad iaith yn uwch)
Ond wrth graffu ar y plant sydd yn dôd yn rhugl yn yr ysgol gynradd (yn ôl y RHIENI, cofiwch!) mae gwallt fy mhen yn codi:
Sir Gâr 17.7%
Gwynedd 6.8%
Môn 7.4%
Ceredigion 5.6%
Annodd coelio fod system addysg Sir Gâr bron dairgwaith gwell na Gwynedd, Môn a Cheredigion am gynhyrchu Cymry rhugl yn yr ysgol
Pan newidwyd y ffordd o werthuso iaith plant ym 2006 cododd canrannau y plant oedd yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd am fod rhieni yn fwy tebyg o ddeud fod eu plant yn Gymry na'r athrawon (Cai fel athro be dechi'n feddwl?). Ni wn pa fethodoleg sy'n drywach a rwy'n siwr fod yna resymau da am newid y fethodoleg ond y gwir plaen ydi fod bron 80% o blant Si Gâr yn siarad Saesneg ar yr aelwyd (sef yr un ganran oedd yn siarad Cymraeg yng nghyfrifad 1961! Mae'n wir hefyd fod y dirywiad wedi dechrau 50 mlynedd yn ôl a chynt (dim ond 45% o blant ysgol oedd yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd yn Sir Gâr ym 1961!) Ond y drwg ar y cyfrifiad ydi'r ffaith fod y boblogaeth yn heneiddio = mae'r Cymry Cymraeg cynhenid yn byw yn hyn ac yn caddugo'r dirywiad!
Rwy'n cael yr argraff fod rhieni'r siroedd eraill yn llymach wrth gloriannu Cymraeg eu plant. Mae cogio dy fod yn siarad Cymraeg yn annoddach yng Ngaernarfon hefyd decien i
Awn ni rwan i ardal Rhydaman i sbïo ar adroddiadau ysgol (2010 a 2013 yn achos Bewts). Dyma a gefais (nifer y plant a'r % o Gymry cynhenid mewn cromfachau):
Ysgol G. Rhydaman 225 (30%)
Ysgol Bro Banw 411 (8%)
Ysgol Ty Croes 173 (2.3%)
Ysgol Betws 77 (<3 br="">CYFANSWM 886 ( 12%)
Mae'n frawychus. Yn yr ardal hon yn 1971 oedd >75% yn siarad Cymraeg. Ond hyd yn oed ym 2011, yn ôl y sensws oedd 49% yn siarad Cymraeg yn Rhydaman, 47% yn Nhy Croes a 53% ym Mhontaman (Betws). Os ydi 12% o blant yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd mewn ardal lle mae'r cyfrifiad yn sôn am 50% pa obaith sydd?.......Yn y genhedlaeth nesaf os priodith y 12% hefo'i gilydd bydd 12% o Gymry ar yr aelwyd. Ond os priodant hefo pobl eraill aiff y ganran i lawr i 1-2%.
Mae'r sefyllfa'n dipyn gwell mewn rhai pentrefi o gwmpas Rhydaman (Llandybïe, Brynaman, Garnant a Chwm Gwendraeth) ond hyd yn oed yn y llefydd hynny sydd yn debyg eu naws i Stiniog, Pesda a Llanberis mae canran y Cynry cynhenid yn yr ysgolion cynradd o dan 40%...
Nid wyf am feirniadu'r ysgolion a hwyrach yr aiff rhai o'r dysgwyr ati i siarad Cymraeg ar yr aelwyd ond rhaid inni wynebu'r ffeithiau
Mae yna newidiadau ar y gweill yn ysgolion uwchradd fydd yn hybu'r Gymraeg ond os marw (a marw ydi'r gair, Cai) bydd yr iaith ar yr aelwyd i be ydio o da?3>