Saturday, May 25, 2013

Arbrawf Bach

Blog gwleidyddol ydi Blogmenai, ac er fy mod ar fy ffordd i Iwerddon ar fy ngwyliau, mi geisiwn gynhyrchu cyfres o flogiadau byr o ffon symudol sydd a chynnwys gwleidyddol iddynt.

Artics yn ciwio i fynd ar y llong i Iwerddon a geir yn y llun. Maen nhw newydd symud trwy ddiffeithwch o safbwynt y diwydiannau cynhyrchu yng Ngogledd Cymru. Er gwaethaf y 'drychineb' economaidd yn y Weriniaeth mae eu hallforion i wledydd ag eithrio'r DU yn £66bn. Y ffigwr cyfatebol i Gymru ydi £1.6bn. Yn wahanol i Brydain mae'r allforion o'r Weriniaeth yn uwch o lawer na'r mewnforion - o gwmpas ddwywaith yn nhermau sterling.


O.N Rydych newydd ddarllen y blogiad cyntaf yn hanes Blogmenai i'w lunio ar fwrdd llong.  

3 comments:

Anonymous said...

Er gwybodaeth - Blogio ar droed yn gweithio yn gret.

Cai Larsen said...

Diolch.

Cneifiwr said...

Diddorol, ond ydy'r ffigyrau hyn yn cynnwys "allforion" o'r Weriniaeth gan Google, Amazon, Marks & Spencer ayyb?

Hyd yn oed hebddyn nhw, byddai allforion Iwerddon yn well o lawer na'r ffigyrau dros Gymru, wrth gwrs.