Sunday, January 20, 2013

Sut mae mapiau weithiau yn camarwain

Petai rhywun yn taro llygaid brysiog tros y map etholiadol isod, byddai'n cymryd yn ganiataol mai Mitt Romney fyddai'n cael ei urddo'n arlywydd America heddiw.  Mae'r map yn dylunio cefnogaeth etholiadol ar sail siroedd yn hytrach na thaleithiau.  Yn anisgwyl braidd i rhywun o'r ochr yma i Gefnfor yr Iwerydd, coch ydi lliw y Blaid Weriniaethol a glas ydi lliw y Blaid Ddemocrataidd.

Mae'r eglurhad am y gwahaniaeth rhwng y canlyniad a'r canfyddiad mae'r map yn arwain tuag ato yn un syml.  Mae cefnogaeth y Democratiaid at ei gilydd yn drefol, tra bod un y Gweriniaethwyr yn wledig. Er enghraifft, daeth Romney ar y blaen mewn nifer dda o siroedd California - mwy nag Obama -  ond miloedd neu ddegau o filoedd o etholwyr sydd yn byw yn y rhan fwyaf ohonynt.  Enillodd Obama mewn siroedd megis San Fransisco, Alameda, San Diego, Los Angelis a Santa Clara - siroedd sy'n cyfri eu pleidleisiau fesul can mil yn hytrach na fesul mil.  Felly enillodd Obama gyda mwyafrif enfawr yng Nghalifornia.

6 comments:

Rhys Wynne said...

Rhoi syniad da pa lefydd iw hosgoi os yn UDA ar wyliau!

Rhys Wynne said...

Rhoi syniad da pa lefydd iw hosgoi os yn UDA ar wyliau!

Rhys Wynne said...

Rhoi syniad da pa lefydd iw hosgoi os yn UDA ar wyliau!

Anonymous said...

Mae mapiau Cymru fesul etholaeth yn gallu bod yn gamarweiniol. Tan i Simon Thomas wneud ffasiwn lanast, a chyn i bobl Caergybi droi yn ol at y Blaid Lafur, buasai cyfran enfawr o dir Cymru yn nwylo PC.

Anonymous said...

Wedi sylwi bod dy sylwadau yn grafog a dy hoffter o gosi ambell wleidydd ond heb feddwl bod angen defnyddio yr eli yma

Cai Larsen said...

O diar - amser i ddechrau ffiltro o bosib