Tuesday, January 01, 2013

Eos, y Bib a gwariant ar y Gymraeg

'Dydi hi ddim yn hawdd dod o hyd i lawer o gydymdeimlad efo BBC Cymru mae gen i ofn.

Ar ol blwyddyn gron o bwmpio propoganda Prydeinllyd i gyfeiriad eu gwrandawyr anffodus, maent yn cael eu hunain mewn sefyllfa lle mae un o'r prif asedau sy'n eu gwneud yn unigryw - mynediad i ganeuon poblogaidd Cymreig - yn cael ei golli iddynt oherwydd nad ydi eu meistri yn Llundain eisiau talu i gynnal y proffeil unigryw hwnnw.

Disgynodd rhifau gwrandawyr Radio Cymru oddi ar ddibyn yn 2011  - 2012 (pobl yn 'laru ar y propoganda hysteraidd di ddiwedd?) - o 150k y flwyddyn cynt i 138k.  Gallwn ddisgwyl cwymp mwy os na fydd y sefyllfa sydd ohoni yn cael ei sortio'n weddol handi.  Serch hynny beth bynnag ein barn am bolisi golygyddol Radio Cymru, mae'r orsaf yn bwysig - yn hanfodol bwysig o safbwynt y Gymraeg - ac mae'n bwysig bod datrusiad i'r sefyllfa digwydd yn weddol fuan.

Ond - beth am funud bach wneud rhywbeth nad ydi Blogmenai yn ei wneud yn aml - ac edrych ar bethau o safbwynt penaethiaid y Bib yn Llundain.  Iddyn nhw mae Radio Cymru yn uffernol o ddrud.  Mae Radio Cymru yn costio tua £9.8m i'r Gorfforaeth tra bod Radio Wales yn costio £10.8m.  Am y (tua) £10m yma mae Radio Wales yn cael 471k o wrandawyr tra bod Radio Cymru yn cael 138k Mae gwrandawiad Radio Wales ar gynydd tra bod un Radio Cymru yn cwympo.  Ond mae Radio Wales yn ei dro yn ddrud o safbwynt y Bib - a dweud y gwir mae darlledu i wledydd datganoledig y DU yn ddrud.  Mae'r Bib yn gwario tua £141m ar radio rhanbarthol yn Lloegr sydd a 42m o oedolion, tra eu bod yn gwario £91m ar radio rhanbarthol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer tua 8m o oedolion.  I edrych ar bethau mewn ffordd arall, mae gwrandawiad Radio Cornwall yn debyg i un Radio Cymru o ran niferoedd, ond gwerir tua 10 gwaith cymaint ar Radio Cymru.

Dydi cydymdeimlad uchel swyddogion y Bib yn Llundain tuag at y Gymraeg ddim yn debygol o fod wedi ei ddyrchafu gan y ffaith bod y gyfrifoldeb am gyllido S4C yn syrthio ar y gorfforaeth o eleni ymlaen.  Er bod cyllideb S4C am syrthio o tua £90m y llynedd i £76m eleni, y Bib fydd yn gorfod ysgwyddo'r gost.  Anaml y bydd S4C yn llwyddo i gael 100k o bobl i wylio rhaglen.  Dydi hyn ddim yn edrych fel gwerth am arian os mai o Lundain yr ydych yn edrych.

Rwan i ddod yn ol ac edrych ar bethau o (dyweder) Gaernarfon.  Mae refeniw'r Bib yn anferthol - mae pobl yn cael eu gorfodi i dalu'r drwydded - os ydynt yn gwneud defnydd o wasanaethau'r Bib neu beidio.  Daw hyn a'r swm nid anheilwng o £3.6bn i'r coffrau.  O ychwanegu £222m am weithgareddau masnachol, £279m o grantiau ychwanegol gan lywodraeth San Steffan a £271m o ffynonellau eraill rydym yn son am £4.41bn.  A chymryd bod tua 5% o hyn yn dod mewn rhyw ffordd neu'i gilydd o Gymru mae'r cyfraniad Cymreig yn £222.4m - hen ddigon i gyllido Radio Cymru, Radio Wales, S4C a sianel cyfrwng Saesneg ar gyfer Cymru.

Dydi pethau ddim mor syml a hynny wrth gwrs - wedi'r cyfan mae bron i bawb yng Nghymru'n treulio amser yn edrych ar y rhyfeddodau o raglenni mae'r Bib yn ei gynnig i ni ar BBC1, BBC2 ac ati.  Mae felly'n briodol am wn i ein bod yn cyfrannu at y danteithion cyfryngol hynod yma.  Ond mae'r ffaith bod yr hyn rydym yn ein wario (yn anuniongyrchol) ar ein gwasanaethau teledu a radio wedi eu cymysgu a'u rheoli o Lundain yn broblematig.

Byddai'n gwneud llawer mwy o synnwyr i ddatganoli cyfran (anrhydeddus) o'r arian cyhoeddus a werir ar ddarlledu yng Nghymru i'r Cynulliad Cenedlaethol a gadael i'r corff hwnnw - sydd wedi'r cwbl yn atebol i bobl Cymru - wneud y penderfyniadau mawr.  Gallai'r Cynulliad wedyn wario mwy neu lai ar deledu a radio Cymraeg a Chymreig - yn unol a'i phenderfyniadau.  Byddai i hyn fanteision eraill hefyd.

Un o'r pethau rhyfedd ynglyn a'r Gymraeg ydi bod y penderfyniadau ynglyn a'r prif elfennau gwariant arni yn cael eu gwneud y tu allan i Gymru.  Y rheswm am hyn ydi bod y rhan fwyaf o wariant ar y Gymraeg yn wariant ar gyfryngau torfol cyfrwng Cymraeg - dydi'r penderfyniadau ynglyn a'r gwariant hwnnw ddim yn cael ei wneud yma yng Nghymru.  Rwan mae yna - ar lefel wleidyddol o leiaf - rhyw led gonsensws yng Nghymru bod y Gymraeg yn bwysig, a'i bod angen ei chynnal.  Ond mae hwnnw'n gonsensws hawdd i'r graddau nad ydym yn gorfod gwneud penderfyniadau arwyddocaol ynglyn a gwariant ar y Gymraeg.  Byddai cael y gallu i wario ar y cyfryngau darlledu yn gwneud y ddadl yng Nghymru ynglyn a gwerth y Gymraeg yn un mwy aeddfed - pan mae'n rhaid gwario ar rhywbeth rydym yn gofyn cwestiynau caled i ni'n hunain ynglyn a gwerth yr hyn rydym yn gwario arno.

Mewn cyd destun felly byddai'n rhaid i'n Cynulliad Cenedlaethol ddod i gasgliadau ynglyn a gwerth y Gymraeg i Gymru - a chyn i hynny ddigwydd byddai'n rhaid wrth ddadl genedlaethol ynglyn a'r mater hynod bwysig yma i'n bywyd cenedlaethol. Yn fy marn i byddai cynnal y ddadl honno mewn cyd destun ystyrlon yn llesol i'r Gymraeg - mae yna gryn dipyn o ewyllys da tuag ati ar hyd a lled Cymru - byddai dod a'r ddadl ynglyn a sut rydym yn gwario i'w chynnal yn dod a hi i mewn i brif lif gwleidyddiaeth Cymru yn crisialu'r ewyllys da hwnnw mewn ffordd sydd ddim yn bosibl ar hyn o bryd.

9 comments:

Anonymous said...


Cafodd Llywodraeth Cymru cyfle i allu lywodraethu a sicrhau perchnogaeth Cymreig o cyfryngau (newydd) megis .cymru a .wales.

Ond cynllwynodd mewn modd dan din i rhoi'r cyfan i Nominet, gwmni Prydeinig/Saesneg a'i phenchadlys yn sir Rhydychen.Gweler http://www.dotcym.org/hafan/?p=203

Felly ym marn Llywodraeth Llafur, mae cwmni preifat yn Loegr yn well am benderfynu ac ariannu ein hunaniaeth a brandio Cymraeg a Chymreig arlein. Ella mae nhw'n iawn - does neb rili yn balio ots neu a clem yn y bybl yn y bae.

Tra yn yr Alban, y llywodraeth SNP sy'n arwain y cais .scot. Ac ym mhob gwlad neu ardal arall yn y byd, eu cyrff llywodraeth brodorol sy'n arwain eu ceisiadau nhw ac yn sicrhau perchnogaeth.





Anonymous said...

Dyna ddangos mor beryglus oedd strategaeth 'mae'r frwydyr drosodd' Dafydd Elis Thomas, Bwrdd yr iaith, Rhodri Williams a Meri Huws.

Mae'r mantra yma fod y 'frwydr drosodd' wedi golygu nad oes gan Radio Cymru nag S4C neb i'w hamddiffyn gan fod pawb yn meddwl 'fod y frwydr drosodd'.

Byddai £220m yn heb ddigon in gynnal gwasanaethau Cymraeg a Saesneg da - a dweud y gwir gellid a dylid cael 2 orsaf radio Gymraeg. Mae modd gwneud hyn. Ond mae uchelgais y Cymry wedi bod mor uffernol o isel am 'fod y frwydr drosodd' fel ein bod yn barod I ddiolch am friwsion.

Mae'n bryd cael gwared ar y BBC. Gyda lwc bydd annibyniaeth i'r Alban yn arwain at hynny,

Iestyn said...

Post diddorol, a sylwadau ynglŷn â .Cymru ac ati yn llygad eu lle.

Mae un peth wedi 'nharo i erioed am ddealltwriaeth Llundain, a'r cyfryngau'n gyffredinol o'r sefyllfa yng Nghymru. Mae pobl yn sôn am £90 miliwn i S4C neu £9.8 miliwn i Radio Cymru fel peth drud oherwydd taw "dim ond" hyn a hyn o wylwyr / gwrandawyr sydd. Ond mae £9.8 miliwn Radio Cymru yn cynhyrchu gorsaf radio sydd yn denu 28% o'r boblogaeth darged. Mae £10.8 miliwn Radio Wales yn denu cwta 16% o'r boblogaeth darged, ychydig dros hanner ffigwr Radio Cymru.

Mae'r BBC yn darlledu rhaglenni ar gyfer lleiafrifoedd - megis pobl sydd am weld arlwy diwylliannol BBC4, neu wrando ar gerddoriaeth Radio 3, neu hyd yn oed gweld rhaglenni plant CbbC ac ati, felly rhaid eu bod nhw'n deall y cysyniad o ddenu canran y boblogaeth darged, yn hytrach na rhifau moel.

Mae unrhyw ddatganiad o fewn o BBC ynglŷn â pha mor ddrud yw RC neu S4C felly wedi cael ei wneud trwy anwybyddu ystyriaeth sydd yn sail bob-dydd i fesur cynulleidfaoedd gwasanaethau eraill. Nid esgeulustra mo hynny, eithr ymgais bwriadol i gam-liwio'r sefyllfa.

Cai Larsen said...

Mi fyddwn i'n ei roi fo fel hyn Iestyn - o'n safbwynt ni gwasanaethau cenedlaethol ydi Radio Cymru, Radio Wales ac S4C. O safbwynt penaethiaid y Bib gwasanaethau rhanbarthol ydyn nhw.

Fel gwasanaethau rhanbarthol maen nhw'n ddrud. Fel rhai cenedlaethol maen nhw'n rhad.

Anonymous said...

Hey Ι know thiѕ iѕ off topic but ӏ was
ωonԁerіng if yоu κnew
of аny wiԁgetѕ I сould аdd to my blog that autοmаtically tωeet my newest twitter updates.
I've been looking for a plug-in like this for quite some time and was hoping maybe you would have some experience with something like this. Please let me know if you run into anything. I truly enjoy reading your blog and I look forward to your new updates.
My site ; www.prweb.com/releases/silkn/sensepilreview/prweb10193901.htm

Anonymous said...

Your style is really unique compared to other folks I've read stuff from. Many thanks for posting when you've got the opportunity, Guess I will just
bookmark this page.

Here is my website :: wood floors

Anonymous said...

Very good information. Lucky me I found your blog by accident (stumbleupon).

I have bookmarked it for later!

Feel free to surf to my web page :: best wood flooring

Anonymous said...

My spouse and I stumbled over here coming from a different
website and thought I might check things out. I like what I see so i am
just following you. Look forward to checking out your web page repeatedly.

engineered hardwood floors

Have a look at my blog hardwood floor

Anonymous said...

I believe what you posted made a lot of sense.
But, what about this? what if you added a little information?
I am not saying your information isn't good., but what if you added something that makes people want more? I mean "Eos, y Bib a gwariant ar y Gymraeg" is a little boring. You might glance at Yahoo's front page and
see how they create post titles to get viewers interested.
You might try adding a video or a pic or two to
get people excited about everything've got to say. Just my opinion, it might bring your posts a little livelier.

my weblog: hair loss