Friday, January 11, 2013

Cyngor i Vaughan Roderick

Felly dydi Carwyn Jones ddim eisiau ymddangos ar raglenni Vaughan Roderick.  Bai Vaughan ydi hynny wrth gwrs a neb arall - mae'r dyn yn mynnu gofyn cwestiynau cwbl amhriodol i bobl bwysig fel Carwyn.

Bydd yr ychydig sy'n gwylio Cwestiynau'r Prif Weinidog yn ymwybodol nad ydi Carwyn yn hoffi cwestiynau sydd ag arlliw o feirniadaeth ohono fo a'i lywodraeth yn perthyn iddynt.  Weithiau bydd yn rwdlan ynglyn a rhywbeth neu'i gilydd sydd ond a'r cysylltiad mwyaf ymylol a'r cwestiwn ei hun, weithiau bydd yn gofyn cwestiwn cwbl amherthnasol i'r sawl sydd wedi ei holi a weithiau bydd yn cael y sterics mwyaf anghymedrol.  Dydi Carwyn ddim yn hoffi cymryd cyfrifoldeb cyhoeddus tros ei weithredoedd gwleidyddol ei hun, na rhai ei lywodraeth.

Os ydi Vaughan eisiau cwmni Carwyn ar ei raglenni, mae'n rhaid iddo ddysgu gofyn cwestiynau addas.  Dyma awgrym neu ddau yn rhad ac am ddim gan Flogmenai:

Ydych chi yn cael boddhad o sefyll dros Gymru yn erbyn toriadau y Toriaid drwg?

Sut mae dyn o'ch oed chi wedi cadw ei hun mewn siap mor dda?

Beth ydi'r eiliad mwyaf cofiadwy i chi yn hanes tim rygbi Pen y Bont?

Pryd daethoch yn ymwybodol bod eich meddwl mor finiog?

Ydi Toriaid yn cael eu geni yn ddrwg 'ta ydi'r drygioni yn deillio o'u magwraeth?

Ydych chi'n cytuno  mai Cor Meibion Kenfig Hill ydi'r cor gorau yn y Byd ar hyn o bryd?

O lle'r ydych chi'n prynu eich crysau?  Mi fyddwn wrth fy modd cael edrych mor ffasiynol a chi.

Wnewch chi ddod ar y rhaglen rhywbryd i ddweud wrthym am y Fabian Society?

Wnewch chi arwyddo'r llun yma ohonoch eich hun plis?

Ydych chi'n cytuno efo fi y dylid gwneud Mawrth 21 yn wyl genedlaethol - Dydd Gwyl Carwyn?

Os ydi darllenwyr Blogmenai yn gallu meddwl am gwestiynau addas eraill i Vaughan eu gofyn i Carwyn, mae croeso i chi eu gadael ar y dudalen sylwadau - 'dwi'n siwr y bydd Vaughan yn eu gwerthfawrogi.



17 comments:

Cigfran said...

Paham,ar ol i Llafur ennill mwafrif o seddau etholedig Cymru ar bob lefel,am bron i 90 mlynedd,ein bod,fel cenedl,yn dlotach,salach,a llai addysgedig na bron i unman arall yng gorllewin ewrop?

Cai Larsen said...

Na, na, na, na - wneith hynna ddim o'r tro o gwbwl.

Anonymous said...

Ga i plis eich galw chi yn 'eich mawrhydi?'

Anonymous said...

Sut y llwyddoch i gadw eich Cymraeg cystal a chwithau'n gweithio yn y senedd ?

Anonymous said...

A ydych am ddisgyblu Leighton Andrews am ei sylwadau Ffasgaidd, gwrth-Seisnig, ynysig am ein cyd-Brydeinwyr yn y mudiad Sosialaidd heddiw ?

Anonymous said...

Dim un dwli.......ond pam nag yw unryw un wedi gofyn cwestiwn cigfran o'r blaen?

Anonymous said...

Yr ateb i cwestwin Cigfran yw fod Cymru yn 'Milch Cow' i'r Blaid Lafur o ran seddi a grym, ac felly mae'n taluiddynti gadw hi'n wlad dlawd sy'n ddibynnol ar fudd-daliadau yn hytrach na economi breifat. Maent wedi dysgu gwers 1979, pan welodd Margaret Thatcher fod y dosbarth gweithiol sy'n ennill cyflog da gyda tueddiad i droi at geidwadaeth. Mae'n wir dweud fod y Blaid Lafur yn amddiffyn Cymru rhag cyfalafiaeth, ond mae'n wir i ddweud hefyd fod y Blaid Lafur ( a llawer i aelodau Plaid Cymru hefyd, o ran hynny) , yn ei atal hefyd.

Anonymous said...

Croeso syr. Ga i fynd a'ch ci chi am dro.

Anonymous said...

Brif Weinidog - beth na wnaiff eich plaid i aros mewn grym?

Anonymous said...

Good post. I learn something new and challenging on websites I stumbleupon every day.

It will always be useful to read content from other authors and use something from their
web sites.

Here is my homepage - just click the next web page

Anonymous said...

Really when someone doesn't know then its up to other visitors that they will assist, so here it takes place.

My web-site hardwood
My webpage: hardwood floors

Anonymous said...

It's going to be finish of mine day, however before finish I am reading this wonderful post to increase my know-how.
hardwood floor

Look at my web blog: hardwood flooring

Anonymous said...

Нola! I've been following your site for a long time now and finally got the bravery to go ahead and give you a shout out from Huffman Texas! Just wanted to say keep up the excellent work!

Also visit my web-site; www.sfgate.com

Anonymous said...

For most recent information you have to go to
see world wide web and on the web I found
this web page as a finest web page for most recent updates.


Also visit my site :: house keeping job

Anonymous said...

I take pleasure in, result in I discovered just what I used
to be having a look for. You've ended my four day lengthy hunt! God Bless you man. Have a great day. Bye

my weblog ... cleaning service phoenix

Anonymous said...

Thanks for sоmе other informative website.
Where else mаy I am gettіng thаt typе of informаtion
wrіtten іn ѕuсh a perfect mеanѕ?
I hаvе a ρrоject that I'm simply now working on, and I have been at the look out for such info.

my site - V2 Cigs reviews

Anonymous said...

I quite like reading through a post that will make men and women
think. Also, thanks for allowing for me to comment!



my web page quartararo.net