Friday, December 21, 2012

Y Bib ac Eos

Os oes yna unrhyw un yn amau mai isel iawn ydi'r Gymraeg yn rhestr blaenoriaethau'r Bib, dylai'r anghydfod rhyngddynt ag Eos ynglyn a thaliadau i gyfansoddwyr am chwarae caneuon Cymraeg ar Radio Cymru gael gwared o'r amheuaeth hwnnw unwaith ac am byth.

Yn ol  Golwg360, dydi'r Bib ddim yn fodlon symud yn uwch na'u cynnig o £1.50 y funud am chwarae recordiau Cymraeg.  Rwan, dydw i ddim yn gwybod am faint o amser bydd recordiau Cymraeg yn cael eu chwarae ar y sianel, ond beth am setlo ar 5 awr y diwrnod am ennyd?  Efallai bod y ffigwr yn uwch na hyn, dwi ddim yn gwybod.

A chymryd hynny byddai diwrnod o recordiau Cymraeg yn costio £450 i'r Gorfforaeth.  Y gost flynyddol fyddai £164,250.  Pwynt cychwyn Eos oedd £5 y funud.  Byddai hyn yn cyfieithu i £300 yr awr a £574,250 y flwyddyn.  Mae'n sicr bod Eos wedi symud i lawr bellach o'u pwynt cychwynol, a dydi hi ddim yn afresymol i ddamcaniaethu y gallai'r Bib gael setliad am tua £250,000 y flwyddyn.

Mae'r rhain yn edrych yn swmiau mawr i chi a fi, ond newid man ydyn nhw i'r Bib.  Mae'n codi £3,600m o'r drwydded a ddim yn bell o £800m o ffynonellau eraill.  Mae'r ffigyrau yma'n fawr iawn - yn rhy fawr i'w dirnad mewn gwirionedd.  Ffordd arall o edrych ar bethau fyddai cymharu efo taliad diswyddo diweddar cyn reolwr cyffredinol y Bib, George Entwhistle.  Cafodd George £450,000 o dal di swyddo ar ol 54 diwrnod o waith - gwaith caled iawn yn ddi amau.  Roedd £225,000 o'r swm yma yn arian nad oedd rhaid i fwrdd y Bib ei dalu i ateb gofynion y gontract,  ond mi aethant ati i roi'r macs i George beth bynnag - er mwyn gwneud iddo deimlo ychydig yn well mae'n debyg.  Swm tebyg iawn i'r hyn y byddai'n rhaid iddynt (yn ol pob tebyg) ei dalu am flwyddyn o gerddoriaeth Cymraeg.

Mae rhoi pres mawr i'w uchel swyddogion ar eu hymddeoliad yn nodweddiadol o'r Bib.  Cafodd Mark Byford £1m  y llynedd, ac mae £4m wedi ei dalu i'r un pwrpas ers 2010 - llawer ohono'n arian nad oedd yn rhaid ei dalu i anrhydeddu contractau.  Mae'n ymddangos bod uchel swyddogion y Bib yn hynod, hynod ofalus efo pres y talwr trwydded pan mae'n dod i brynu'r hawl i chwarae cerddoriaeth Cymraeg, ond yn hapus efo cyfundrefn sy'n hynod wastraffus o'r pres hwnnw pan mae'n dod i roi taliad ffarwel iddyn nhw eu hunain.

Gyda llaw - yr hogiau a'r genod yma fydd yn gyfrifol am S4C maes o law - ond tydi hynny'n newyddion da?

21 comments:

Unknown said...

Rwy'n aelod o dîm sy'n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel 'mod i'n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?

Cofion,
Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle

Cai Larsen said...

Mae'r cyfeiriad ar dudalen blaen y blog dwi'n meddwl.

Bilidowcar said...

Ydi Radio Cymry yn talu yr union faint am caneuon Saesneg?

Cai Larsen said...

Mae hefyd yn gwestiwn faint yn union mae Radio Wales yn ei dalu am stwff Saesneg?

Bilidowcar said...

O'r ddolen hon http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-20721531

HOW ARTISTS ARE PAID

PRS sets a rate per minute for every station.

Prior to 2007, Radio Cymru Welsh artists received £7.50 a minute. However this included an element that estimated how much the same song might be played in pubs and clubs, live gigs or even at an exercise class.

After 2007, that 'public use' payment was slashed for Welsh artists played on Radio Cymru.

Prior to 2007 a three-minute song on Radio Cymru would earn an artist about £23.50:

50p per minute airplay
After 'public use' estimate: £7.50 per minute

In 2012, the same song is worth £4.75 to the artist:

42p per minute airplay
After 'public use' estimate is added: £1.15 per minute

And the very same song on Radio Wales in 2012 would earn £147.40:

74p per minute airplay
£49 per minute 'public use' estimate

Anonymous said...

Oes rhywun wedi gwneud FoI i weld beth yw cyllideb Radio Wales o'i gymharu â Radio Cymru.

Am flynyddoedd bu'r mudiad iaith llesg wedi ei 'harwain' gan bobl fel Dafydd El a Rhodri Williams yn dweud fod pethe'n dda ar y Gymraeg. Dydy ni heb symud ymlaen ym maes darlledu radio ers 1976. Mewn gwirionedd, am y pris mae'n gymnryd i ariannu Radio Wales fi fasem ni wedi gallu cael 2 orsaf radio Gymraeg gan y BBC. Ac eto, doedd neb yn dadlau hyn. Roeddem ni gyd yn hapus a diolchgar am beth oedd ganddom.

Wel, edrychwch lle mae bod yn ddiolchgar wedi ein cael ni. Mae'n diwylliant pop ni yn werth llai na payout aelod o staff y BBC!

Mae staff BBC Cymru wedi bod yn llwfr, mae 'arweinwyr' y Gymraeg - Bwrdd yr Iaith, Plaid Cymru wedi bod yn llwfr. Nad oedd neb o fewn y cylch bychan hunanfodlon yna wedi gweld beth oedd y gwahaniaeth taliadau a gwneud achos dros ail orsaf radio Gymraeg?!

Mae'r BBC yn crap. Duw a wyr pam fod pawb mor blydi warchodol ohono. Mae wedi trin y Gymraeg â sarhad erioed. Ei unig achubiaeth yw fod weithiau criw o Gymry Cymraeg wedi ceisio eu gorau i'r Gymreigio.

Yn y bon, corff hyrwyddo Prydeindod, ac yng Nghymru, peidio tramgwyddo'r Blaid Lafur yw'r BBC.

Mae angen llai o barch ato.

Anonymous said...

Cytuno ar sylw uchod 100%

Anonymous said...

I ԁon't drop many remarks, but i did a few searching and wound up here "Y Bib ac Eos". And I do have a few questions for you if it's allright.
Could it be just me or does it look lіκе some of these remarκs look аs
if they are written by brain dеad visitοrs?

:-P Anԁ, if yοu аre ρoѕting on additional online sіtes,
I'd like to follow everything new you have to post. Would you make a list of all of your social sites like your twitter feed, Facebook page or linkedin profile?
my web page > http://rayzzz.com/AimeeClin

Anonymous said...

Do you mind if I quote a few of your articles as long as
I provide credit and sources back to your website?

My blog is in the exact same area of interest as
yours and my visitors would genuinely benefit from a lot
of the information you provide here. Please let me know if this okay with you.
Regards!
engineered hardwood floors

My web blog; hardwood floors installation

Anonymous said...

Post writing is also a excitement, if you be acquainted with after that you can write otherwise it
is complex to write.

My blog ... hardwood flooring

Anonymous said...

Hey there, I think your site might be having browser compatibility issues.
When I look at your website in Chrome, it looks fine but when opening in Internet Explorer, it has
some overlapping. I just wanted to give you a quick
heads up! Other then that, awesome blog!

Feel free to surf to my web site :: http://www.flooranddecoroutlets.com/hardwood-solid.html

Anonymous said...

Hey there, You've done an excellent job. I will definitely digg it and personally suggest to my friends. I am sure they'll
be benefited from this web site.

my web page: hardwood flooring

Anonymous said...

I was able to find good information from your articles.


My web page: hardwood floors

Anonymous said...

What a material of un-ambiguity and preserveness of precious know-how about unexpected emotions.


Here is my web-site ... hardwood flooring

Anonymous said...

I rarely drop responses, but I browsed a few of the
comments on "Y Bib ac Eos". I do have 2 questions for you if you don't mind. Could it be just me or does it look like a few of the remarks look like they are coming from brain dead people? :-P And, if you are posting at other social sites, I would like to keep up with you. Would you list of all of your social pages like your Facebook page, twitter feed, or linkedin profile?

Feel free to surf to my web page; hardwood flooring
my webpage - hardwood floors

Anonymous said...

Hi, its good paragraph about media print, we all understand media is a fantastic source of information.


my web blog - phoenix house cleaning

Anonymous said...

Hello there! This post could not be written any better!
Reading through this article reminds me of my previous roommate!

He continually kept talking about this. I will
send this information to him. Pretty sure he's going to have a great read. I appreciate you for sharing!

my blog post ... housekeeping agencies

Anonymous said...

Hurrah, that's what I was looking for, what a stuff! present here at this website, thanks admin of this website.

my blog post - job search housekeeping

Anonymous said...

I'm not sure exactly why but this weblog is loading very slow for me. Is anyone else having this issue or is it a issue on my end? I'll сhеcκ back later
оn аnԁ see if the problеm still exists.


Also νisit my ωеbsite - www.Sfgate.Com
My web site - V2 Cigs reviews

Anonymous said...

Thanks for some other informative web site. Where else
may I get that kind of information written in such a perfect method?
I've a undertaking that I am just now operating on, and I have been on the glance out for such info.

Feel free to visit my web-site; cleaning companies

Anonymous said...

It is truly a nice and helpful piece of info. I'm glad that you simply shared this helpful information with us. Please stay us up to date like this. Thanks for sharing.

Feel free to surf to my web site mormente.com