Sunday, December 09, 2012

Marwolaeth Jacintha Saldanha a rhagrith y cyfryngau Prydeinig

Mae'r sterics cyfryngol ynglyn a marwolaeth Jacintha Saldanha yn adrodd cyfrolau am werthoedd gwaelodol y cyfryngau Prydeinig.  Mae yna rhywbeth sy'n ymylu ar gonsensws mai bai'r ddau gyflwynydd radio Awstralaidd Michael Christian a Mel Grieg yn ffonio Ysbyty Edward 7fed i holi am iechyd Kate Middleton tra'n cymryd arnynt mai Elizabeth a Charles Windsor oedd marwolaeth  Mrs Saldanha.

Rwan, dydan ni ddim yn gwybod yn union beth oedd yn mynd trwy feddwl Jacintha Saldanha pan aeth ati i ladd ei hun - ond mae yna nifer o bethau yr ydym yn ei wybod.  Y pwysicaf ydi nad oedd gan y ddynas anffodus fynediad i Radio Aestero.  Serch hynny roedd ganddi ddigon o fynediad i'r BBC, Sky, y Daily Mail a'r holl gor hunangyfiawn o asiantaethau cyfryngol Prydeinig.  Os mai' ymdriniaeth cyfryngol oedd yn gyfrifol am ei gwneud mor anhapus nes iddi ladd ei hun, ymdriniaeth y cyfryngau Prydeinig oedd hwnnw, nid ymdriniaeth cyfryngau Awstralia.   

Mae'r ffordd mae'r cyfryngau Prydeinig yn ymdrin a'r teulu 'brenhinol' yn sylfaenol abnormal.  Caiff pob dim sy'n ymwneud a'r teulu yma ei or liwio, ei or ddweud, ei chwyddo, ei bwmpio i fyny y tu hwnt i pob rheswm.  Rhoddir arwyddocad anferth i faterion sydd mewn gwirionedd yn gwbl gyffredin a di ddim.  Y rheswm am hynny ydi bod y cyfryngau wedi gwneud cenhadaeth iddynt eu hunain i ddyrchafu a dwyfoli'r teulu Windsor.

Mater bach iawn mewn gwirionedd oedd camgymeriad Jacintha Saldanha - pasio galwad ffon yn ei blaen pan na ddylai fod wedi gwneud hynny.  Petai'r alwad honno yn holi am iechyd Jane Bloggs yn hytrach na Kate Middleton, go brin y byddai wedi colli cwsg tros y mater.  Ond yn anffodus i Jacintha Saldanha holi am Kate ac nid Jane oedd yr alwad, ac o ganlyniad aeth y cyfryngau ati i wneud yr hyn maent yn ei wneud gyda phob stori 'frenhinol'  - gor ddweud, gor liwio, chwyddo, a chael sterics.  O ganlyniad roeddynt yn creu'r canfyddiad bod mater cymharol fach yn un o dragwyddol bwys.  Gwaetha'r modd roedd un o'r bobl oedd yng nghanol y stori yn fregus, ac ymatebodd i'r pwysau o fod yng nghanol y sterics cyfryngol mewn  ffordd anragweladwy.  

Y cyfryngau Prydeinig oedd yn creu y pwysau a'r sterics - er bod y cyfryngau hynny yn anhebygol iawn o sylwi ar hynny a hwythau ynghanol rownd arall eto fyth o sterics brenhinol.

5 comments:

Anonymous said...

yn union.
gwych cai.
gwych.

Ioan said...

Blog y flwyddyn - diolch!

sion said...

Clywch clywch

Dafydd Roberts said...

Ond be' ddudodd ei chyflogwyr, tybed? Ella oedden nhw hefyd yn gor-ddweud, gorliwio, chwyddo, a chael sterics? Yr un beth ond yn fwy o bwysau uniongyrchol arni hi...

Cai Larsen said...

Adlewyrchu'r oslef ehangach sy'n cael ei llywio gan y cyfryngau mae'r ysbyty Dafydd.