Monday, December 10, 2012

Gair o rybudd ar drothwy'r cyfrifiad

Mi briodais i a Nacw ar ddiwrnod cyntaf 1982 yng Nghaerdydd.  Fisoedd cyn hynny roedd rhaid i ni gael cyfweliad gan ficer, sydd yn digwydd bod yn dad i rhywun a ddaeth yn wleidydd adnabyddus wedi hynny.  Ar y ffordd i mewn cawsom sgwrs a'i wraig, oedd yn siaradwraig Gymraeg o'r Gorllewin.  Roedd y cyfrifiad oedd i'w gynnal ychydig wythnosau wedi hynny ar ei meddwl.   Siarsiodd ni i wneud yn siwr ein bod yn cofio dweud ein bod yn siarad Cymraeg.  Aeth ymlaen i ddweud ei bod am honni bod ei gwr yn siarad Cymraeg.  Pan fynegais syndod ei fod yn gallu siarad yr iaith, dywedodd nad oedd yn siarad fawr ddim - ond ei bod yn bwysig bod y niferoedd cyn uched a phosibl yng Nghaerdydd er mwyn cryfhau'r ddadl i gael gwasanaethau Cymraeg yn y ddinas.

Ddegawd yn ddiweddarach roeddwn yn un o'r creaduriaid hynny sy'n mynd o dy i dy yn hel ffurflenni cyfrifiad.  Ceunant oedd fy llecyn bach i - ardal wledig ond Cymraeg iawn o ran iaith ar gyrion Caernarfon.  Mi es i un ty a mynd trwy ffurflen cwpl mewn oed efo nhw.  O gyrraedd y cwestiwn iaith, dywedais wrthynt eu bod wedi gwneud camgymeriad - roeddynt wedi nodi nad oeddynt yn siarad y Gymraeg - er bod y sgwrs rhyngom wedi bod yn un trwy gyfrwng y Gymraeg - pob gair.  Roeddynt yn benderfynol nad oeddynt yn siarad yr iaith - 'Dydan ni ddim yn siarad Cymraeg fatha chi'.  Ond roeddynt yn siarad Cymraeg yn union fel fi.  Dwi'n siwr nad oeddynt yn Gymry yn yr ystyr eu bod wedi eu geni a'u magu yma, ond roeddynt wedi byw yma am y rhan fwyaf o'u bywydau, ac roeddynt yn siarad Cymraeg cystal a neb arall.  Wrth ateb y cwestiwn roeddynt yn gwneud datganiad ynglyn a'u hunaniaeth genedlaethol yn hytrach na'u sgiliau ieithyddol.

A pwynt y blogiad yma?  Dydi ffigyrau cyfrifiad ddim am ddweud y stori i gyd - yng nghyd destun iaith o leiaf.  Mae rhai pobl yn meddwl am lawer mwy na iaith wrth ateb y cwestiwn iaith.  Ac wrth gwrs, 'does yna ddim cwestiwn ynglyn a pha mor aml y bydd pobl yn gwneud defnydd o'u hiaith.

4 comments:

Marshall said...

Dwi'n siwr nath Cefin Campbell profiad tebyg yn nycfryn Aman sawl blwyddyn yn ôl....

Emlyn Uwch Cych said...

Diolch am y rhybudd amserol. Nid y ffigwr "mawr" sydd yn fy mhoeni i, gymaint â'r ffigyrau am y nifer siaradwyr yn yr oedran allweddol 25-55. Dyma oedran y rhai sy'n debygol o fod yn rhieni, ac oedran mwyafrif helaeth o weithwyr ein gwlad. Os ydy ni am gael gwasanaethau yn Gymraeg, mae'n rhaid cael gweithwyr sy'n siarad yr iaith honno.

Gyda llaw, bydd y cachu go iawn yn dod eglur fis nesaf pan cyhoeddir yr ystadegau manylaf am ein cymunedau. Yna cawn weled beth yw nifer y cymunedau sy'n hitio'r 70% hud o siaradwyr Cymraeg, a hefyd nifer y cymunedau sy'n taro rhywbeth tebyg i 50% wedi eu geni tu fas i Gymru (hynny yw yn Ingerlund).

Anonymous said...

Dwi'n gweld fod Dafydd Elis Thomas wrthi'n bod yn prat arferol yn lladd ar garedigion yr iaith yn y Gorllewin adweud wrthom ni am gau ein cegau.

Wneith pobl Meirion Dwyfor gymwyns â a sicrhau nad yw'r pen bach ymhonus yma yn cael sefyll yn etholiad nesaf y Cynulliad.

Beth am ofyn i Adam Price sefyll yno?

Anonymous said...

Thanks a lot for sharing this with all of us you really recognise what
you're talking approximately! Bookmarked. Please additionally visit my web site =). We will have a hyperlink change arrangement between us
Also see my site :: diets that work fast for women