Sunday, March 18, 2012

Buddugoliaeth Leanne a rygbi

'Dwi'n gwybod bod y teitl yn un rhyfedd, ond mae'n fy nharo bod cysylltiad rhwng rygbi a buddigoliaeth Leanne.

Mae unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am batrwm aelodaeth y Blaid am ddeall na fyddai'n bosibl i Leanne fod wedi cael pleidlais mor fawr heb ennyn cryn gefnogaeth o'r Gogledd Orllewin. Y canfyddiad y byddai'r Gogledd Orllewin yn pleidleisio i'r ddau ymgeisydd arall oedd sail y gred weddol gyffredinol ymysg sylwebyddion proffesiynol y byddai'r canlyniad yn un agos.

Rwan mae yna hanes yn y Blaid o bleidleisio daearyddol (fel petai), ac mae yna hanes o arweinwyr o'r Gogledd Orllewin yn cael eu hethol. A dweud y gwir 'dwi'n eithaf siwr na fyddai rhywun fel Leanne wedi cael ei hethol chwarter canrif yn ol. Bryd hynny roedd y De bron a bod yn wlad arall i drigolion cymunedau oedd yn diffinio eu hunaniaeth cenedlaethol yn nhermau'r iaith a siaradant o ddiwrnod i ddiwrnod. Yr hyn sydd wedi newid ydi bod y De Ddwyrain a'r Gogledd Orllewin wedi dod yn llawer nes at ei gilydd yn ystod y degawdau diwethaf.

Ceir sawl rheswm am hyn, datganoli, patrymau mewnfudo o'r Gogledd i'r De Ddwyrain - mae gan llawer iawn ohonom gysylltiadau teuluol efo'r De Ddwyrain bellach, S4C, gwell trafnidiaeth, ac wrth gwrs chwaraeon.

Roeddwn i yn ddeunaw oed yn ymweld a Chaerdydd am y tro cyntaf, er fy mod wedi ymweld a Dulyn a Llundain cyn hynny. 'Dwi'n eithaf siwr bod hynny'n wir am y rhan fwyaf o ddigon o fy nghyfoedion. Tyfodd diddordeb mewn rygbi yn y Gogledd yn sgil twf cenedlaetholdeb. Roedd rygbi yn y saith degau a'r wyth degau yn llenwi bwlch i'r graddau nad oedd gennym llawer o sefydliadau cenedlaethol y gallwn ymfalchio ynddynt. Ac fel y tyfodd diddordeb mewn rygbi dechreuodd mwy a mwy o bobl deithio i Gaerdydd am y gemau cenedlaethol. A barnu oddi wrth canol Caerdydd ddoe, mae'n rhaid gen i bod miloedd lawer o bobl o'r Gogledd Orllewin wedi gwneud y daith hir i lawr yr A470 ddoe ac echdoe.

Ar un olwg mae Cymru'n wlad llai heddiw nag y bu erioed. Rydym i gyd yn nes at ein gilydd, a rydym yn fwy cyfarwydd a'n gilydd. Y cyd destun newydd hwn a'i gwnaeth yn bosibl i ddysgwraig o Dde Ddwyrain y wlad hel llawer o bleidleisiau ym mhegwn arall y wlad.

6 comments:

Un o Eryri said...

Cytuno'n llwyr a dy ddadansoddiad yma. Fel un oedd yn canfasio dros Dafydd, unwaith yn unig y clywais rhywun yn dweud rhywbeth negyddol am y ffaith bod Leanne yn dod o'r Cymoedd. Nid oedd y cwestiwn daearyddol yn dod i mewn i'r ddadl o gwbwl. Mae hyn felly yn dangos y pwysigrwydd o greu Undod yn ein gwlad trwy fuddsoddi mewn Chwaraeon. Syndod beth mae cenedlaetholdeb mewn Chwaraeon yn gallu ei wneud i'r achos Cenedlaethol.

Anonymous said...

Rwyt ti'n llygad dy le. Mae fy rhieni yn falch iawn o'u hunaniaeth Gymreig sydd wedi seilio ar gyfuniad o frogarwch (sef Y Rhondda/Morgannwg Ganol yn ein hachos ni), rygbi ac agwedd dosbarth gweithiol tuag at fywyd. Dydyn nhw ddim yn gallu siarad Cymraeg.

Ond mae pethau wedi newid tipyn. Pan oeddwn i'n blentyn, roeddwn yn aelod o'r Urdd ac felly treuliais amser yn aros yn Llangrannog a Glan Llyn, cefais fy addysgu gan athrawon o Langefni, Bala, Y Wyddgrug, Tregaron, Porth, Dolgellau, Risca, Crymych a Chastell Nedd. Roedd y teulu yn gwersylla yn Saundersfoot neu Aberaeron pob haf. Pan oeddwn yn arddegwr roeddwn i'n gwylio bandia yng Nghasnewydd. Ar hyn o bryd rwy'n astudio yn Abertawe. Felly hunaniaeth Gymreig sy'n dod yn naturiol.

Anonymous said...

"Mae hyn felly yn dangos y pwysigrwydd o greu Undod yn ein gwlad trwy fuddsoddi mewn Chwaraeon."

Yn union, efallai nid rygbi yw'r gêm fwyaf poblogaidd yng Nghymru ond yn sicr mae'n uno'r genedl yn yr un ffordd mae hoci ia yn uno pobl o Ganada.

Beth am fuddsoddi mewn chwaraeon cynhenid fel bando, cnapan ayyb ac yn gwneud nhw'n rhan bwysig o'r Eisteddfod?

Anonymous said...

Mae llwyddiant mewn chwaraeon yn sbardun ac yn creu ymlyniad. Mae llwyddiant yn creu hyder o'n gallu a lleihau yr ymdeimlad o ddibynniaeth wasaidd ar ein cymdogion

Peidied chwaith o ddiystyru pwysigrwydd o wella cysylltiadau De Gogledd mae fod adnabyddiaeth rhai Cymry o ddaearyddiaeth Sbaen yn parhau yn well na'i adnabyddiaeth o ddaearyddiaeth Cymru. Mae mwy o'r Gogledd Orllewin yn gyfarwydd a Chaerdydd ond prin fe dybiwn yw bobl o Gasnewydd neu Port Talobot fyddai yn gyfarwydd a'r Gogledd Orllewin

Un peth dwi yn ymfalchio ynddo yw ymdrechion IWJ fel gweinidog trafnidiaeth i wella yr
A470. Dylai hon fod yn flaenoriaeth uchel iawn i LW hefyd.

Anonymous said...

Cytuno.

I'r rhai sydd yn dweud nad yw genedltholdeb yn cael ei ysbrydoli gan chwaraeon... wel edrychwch tuag at yr Iwerddon ar GAA.

Anonymous said...

Paid a malu cachu neidi wir dduw. Dim ond chdi a dy ddefaid fysa'n coelio'r ffasiwn beth.