Mi fydd Blogmenai yn anghytuno yn fynych efo un o golofnwyr rheolaidd Golwg - Gwilym Owen. Dydi'r wythnos yma ddim yn eithriad wrth gwrs - ond crafu asgwrn efo colofnydd y byddaf yn cytuno a hi fel rheol y bydda i heddiw. Fy mhrif gwyn yn erbyn Gwilym fel rheol ydi'r ffaith ei fod yn seilio ei golofnau ar ei ragfarnau ei hun, ac yn trin y rhagfarnau hynny fel ffeithiau 'caled' yn hytrach na'r rwdlan anwybodus yr ydynt mewn gwirionedd. Mae gen i ofn bod Angharad yn seilio ei cholofn ar ragfarn yr wythnos yma.
Byrdwn y golofn ydi bod 'Cymru'n nofio mewn alcohol' a bod angen cymryd camau i achub y wlad rhag boddi yn y stwff - cuddio alcohol mewn arch farchnadoedd a gwahardd alcopops er enghraifft. Mae'n rhaid bod cof go lew gan Angharad i gofio'r rheiny. Rwan mae Angharad yn well colofnydd o lawer na Gwilym ac mae'n caniatau i ffeithiau, ystadegau ac ati grwydro i mewn i'w dadl - ond mae'n hynod ddethol ynglyn a'r ystadegau hynny.
Y gwir amdani ydi nad yw Cymru yn nofio mewn alcohol. Mae Angharad yn edliw diflaniad y mudiad dirwestol, ond mewn cyd destun hanesyddol rhyw eithriad hynod anarferol oedd y feddylfryd oedd ynghlwm a'r mudiad hwnnw. Mae'r cyffur wedi ei ddefnyddio gan y ddynoliaeth yng Nghymru am o leiaf bedair mil o flynyddoedd. Mae yna adegau pan rydym wedi yfed mwy nag y gwnawn heddiw, ac mae yna adegau pan rydym wedi yfed llai. Mae yna adegau pan mae pris alcohol wedi bod yn is (mewn termau real) nag yw heddiw, ac mae yna adegau pan mae wedi bod yn uwch. Mae yna adegau pan mae argaeledd y stwff wedi bod yn ehangach, ac mae yna gyfnodau pan mae wedi bod yn fwy cyfyng.
Yn wir petai Angharad wedi ei geni bedair neu bum can mlynedd yn ol mi fyddai'n yfed cwrw efo'i brecwast, gan mai dyna'r unig ffordd o yfed hylif yn ddiogel. O edrych ar batrymau yfed alcohol hanesyddol mae'n debyg i gyfraddau syrthio rhwng diwedd yr ail ganrif ar bymtheg a diwedd y bedwerydd ganrif ar bymtheg, cyn cynyddu yn sylweddol iawn hyd at 1880, syrthio tan tua 1960 a dechrau cynyddu drachefn a pharhau i wneud hynny tan 2002, ond syrthio pob blwyddyn ers hynny. Yn wir mae faint o alcohol a yfir gan ddynion ifanc wedi haneru yn y ddegawd rhwng 1999 a 2009. Doedd yna ddim un blwyddyn yn yr ugeinfed ganrif na'r unfed ganrif ar hugain lle cyrhaeddodd y lefelau yn agos at rhai 1900.
Mae ystadegau helaeth i'w cael ynglyn a'r defnydd o alcohol ym Mhrydain, ac er bod rhai penodol ar Gymru yn fwy prin, does yna ddim rheswm i feddwl bod y patrymau cyffredinol yng Nghymru yn gwahaniaethu'n sylweddol oddi wrth y rhai yn y DU yn ehangach - er bod rhai mathau o or yfed yn fwy amlwg yn Lloegr nag yng Nghymru. Gweler
yma am ymdriniaeth gryno.
Rwan ar gyfartaledd mae unigolion ym Mhrydain yn yfed 13.37 litr o alcohol pur yn flynyddol. Mae hyn yn weddol uchel o gymharu a gweddill y Byd, ond mae'n ganolig mewn cyd destun Ewropiaidd. Mae'r gyfradd yma ychydig yn is nag yw yn Ffrainc neu Iwerddon, ond mae ychydig yn uwch na'r Almaen. Mae'n arwyddocaol is nag yw yn y rhan fwyaf o wledydd Dwyrain Ewrop.
Mae Angharad yn tynnu sylw at yfed ymhlith yr ifanc, marwolaethau oherwydd yfed ac yfed a gyrru, ac mae'n awgrymu mai'r rheolau mwy rhyddfrydig diweddar ynglyn a gwerthu alcohol sy'n gyfrifol am hyn oll. Y gwir ydi bod llawer mwy o yfed alcohol ymhlith pobl hyn na phobl iau - 7% o ddynion rhwng 16 a 24 sy'n yfed pum diwrnod allan o saith a 2% o ferched. Y ffigyrau cyfatebol am bobl tros 65 ydi 27% a 14%. Serch hynny mae tua phum gwaith yn fwy cyffredin i bobl ifanc yfed 8 uned neu fwy mewn un diwrnod na rhai mewn oed. Mae pobl mewn oed yn yfed yn gyson ond yn gymhedrol tra bod rhai ifanc yn yfed yn llai aml o lawer ond yn drymach. Mae'r canrannau sy'n yfed yn drwm wedi cwympo yn sylweddol ers i reolau gwerthu alcohol gael eu gwneud yn fwy rhyddfrydig, gyda'r ffigyrau wedi syrthio o 39% yn 1998 ymysg dynion ifanc a 24% ymysg merched.
Mae pobl broffesiynol yn llawer mwy tebygol o ddefnyddio alcohol na phobl yn y grwpiau socio economaidd isel, Mae'r nifer o farwolaethau mewn damweiniau ffordd lle mae yfed alcohol yn ffactor wedi haneru ers 1997 , ac mae damweiniau ffordd yn gyffredinol sy'n ymwneud ag alcohol wedi syrthio'n sylweddol yn y cyfnod hwnnw hefyd. Serch hynny mae marwolaethau yn gyffredinol oherwydd afiechydon a achosir gan alcohol wedi cynyddu o 24% rhwng 2001 a 2010 - er bod cwymp diweddar wedi bod yn y ffigyrau hynny hefyd.
Rwan dydw i ddim yn anghytuno efo Angharad bod problemau ynghlwm ag alcohol, a dydw i ddim yn gwadu ein bod fel gwlad angen trafod y mater. Ond mae hefyd yn ffaith bod alcohol yn cael ei ddefnyddio yn eang iawn yng Nghymru, ac mae'r rhan fwyaf o ddigon o bobl sydd yn ei ddefnyddio yn gwneud hynny mewn modd cwbl gyfrifol. Mae dyn yn gobeithio y byddwn yn y dyfodol mewn sefyllfa i drafod materion fel hyn ar raddfa Cymru gyfan. Ond os ydym i gael trafodaeth felly mae'n bwysig ei fod ar sail rhesymegol a chytbwys. Dydi hynny ddim yn wir ar hyn o bryd - mae yna lawer gormod o hysteria ynghlwm a'r pwnc, ac yn anffodus mae peth o'r hysteria hwnnw yn gwneud ei ffordd i golofnau Angharad o bryd i'w gilydd.
Ar nodyn gwahanol ond cysylltiedig, mae yna rhywbeth rhyfedd iawn gweld tafarnau a chapeli Cymru yn cau mewn niferoedd mawr ar yr un pryd. Ers talwm roeddem yn tueddu i weld diwylliant y dafarn a diwylliant y capel fel dau ddiwylliant cwbl wahanol oedd mewn cystadleuaeth chwyrn efo'i gilydd. Mae'n debyg y dylem fod wedi sylweddoli hyd yn oed bryd hynny mai dwy agwedd ar yr un diwylliant oeddynt, a rhagweld hefyd y byddai'r grymoedd a fyddai'n lladd y naill hefyd yn lladd y llall.