Tuesday, November 15, 2011

Arwain trwy ddilyn

Mae Jonathan Edwards yn gwbl gywir i awgrymu mai arwain trwy ddilyn mae Carwyn Jones mewn perthynas a statws cyfansoddiadol Cymru.



Ond yr hyn sy'n fwy arwyddoaol efallai ydi mai cyfyng iawn ydi uchelgais Carwyn Jones tros Gymru hyd yn oed os ydi'r Alban yn ennill annibyniaeth - rhywbeth anelwig i'w wneud efo'r fframwaith cyfreithiol a rhywbeth arall anelwig i'w wneud efo ariannu teg.

Dim gair am bwerau trethiant a dim gair am ehangu amrediad cyfrifoldebau'r Cynulliad.

Ac mae hynny yn adrodd cyfrolau am Lafur Cymru.  Petai'r Alban yn gadael, byddai yna  lywodraeth Doriaidd led barhaol yn Llundain.  Ond er gwaethaf yr holl hysterics pan ddaw'n amser etholiad y bydd y Toriaid ofnadwy, ofnadwy yna am ddod i rym os na fydd pawb yn fotio iddyn nhw, mae'r Llafurwyr yn hollol hapus i agweddau arwyddocaol o'n bywyd cenedlaethol fod yn nwylo'r dywediedig Doriaid ar delerau lled barhaol.

Arwynebol iawn ydi casineb Llafur Cymru tuag at y Toriaid - erfyn etholiadol a fawr ddim arall.

2 comments:

Anonymous said...

Does gan Carwyn Jones na Llafur weledigaeth i Gymru.

Beth yw man terfyn cyfansoddiadol Cymru? Rwy'n cofio gofyn hyn i aelod amlwg o'r Blaid Lafur, a doedd ganddi ddim ateb. Roedd o blaid Cynulliad ond ddim syniad wedi hynny, heblaw nad oedd am annibyniaeth. Iawn, ond fel welwyd yn yr Alban, mae Llafur wedi newid eu barn ar y cyfansoddiad mewn cwta 6 mis.

Mae Carwyn Jones yn wirioneddol wan - er syndod i mi.

Doedd methu cefnogi rhywbeth fel .cymru (sydd fel peidio cefnogi Dydd Gwyl Dewi o ran ei Gymreictod hawdd a di-fygythiad) yn wirioneddol frawychus.

Anonymous said...

"I must follow them. I am their leader." Andrew Bonar Law.

Un arall wnaeth gawlach o ymreolaeth!!