Wednesday, August 17, 2011

Terfysgoedd Lloegr a rhagfarnau gwleidyddion

Un o nodweddion y terfysgoedd diweddar yn rhai o ddinasoedd Lloegr ydi'r effaith mae'r holl beth wedi ei gael ar wleidyddion - mae'r creaduriaid ar goll yn llwyr ac yn ceisio egluro'r holl beth yn nhermau eu rhagfarnau eu hunain.

Er enghraifft, yn ystod y diwrnod neu ddau wedi i'r terfysgoedd gychwyn roedd rhai o wleidyddion Llafur - Hattie Harman a Ken Livingstone er enghraifft yn ceisio egluro pethau yn nhermau toriadau mewn gwariant cyhoeddus.  'Rwan mae yna doriadau wedi digwydd wrth gwrs - ond un blwyddyn yn unig a welodd wariant cyhoeddus uwch nag un 2011 yn holl hanes y DU, sef 2010.  'Doedd yna ddim anhrefn ar strydoedd Llundain yn y flwyddyn 2000 - pan roedd gwariant cyhoeddus tua hanner yr hyn ydyw eleni.

Mae'r Dde hefyd wedi troi at eu rhagfarnau arferol - gofyn i foi o America beth i'w wneud am gangiau (er bod dinasoedd mawr America yn llawn dop o gangiau), gorfodi pawb ifanc i wneud gwasanaeth cenedlaethol (er bod tua 20,000 o gyn filwyr yn y system droseddol ar hyn o bryd ac 8,500 yn y carchar), taflu cymaint o bobl a phosibl i'r carchar (er bod 70% o garcharorion yn ol o dan glo o fewn 2 flynedd i gael eu rhyddhau). 


Mae'r rhesymau am yr hyn ddigwyddodd yn gynharach y mis hwn yn gymhleth ac yn amlochrog.  'Does yna ddim eglurhad syml pam bod nifer arwyddocaol o bobl ifanc o dan yr argraff nad oes fawr ddim o'i le mewn malu ffenestri siopau a helpu eu hunain i gynnwys y siopau hynny .  Mae'r ffaith bod cymaint o'n gwleidyddion yn troi at eu rhagdybiaethau a'u rhagfarnau eu hunain am ddatrysiad yn awgrymu nad ydynt am ddod o hyd i atebion call i broblem a allai'n hawdd ail godi mewn gwahanol ffurfiau tros y blynyddoedd nesaf. 

9 comments:

Anonymous said...

UN symptom mawr ydy dyma medi yr hadau 'gwrth-awdurdod' asgell chwith a heuwyd yn y 60au.

Un arwydd o'r diwylliant fod 'hawl' gan bawb. Diffyg Ysgol Sul, diffyg parch at unrhyw beth.

Wrth gwrs, mae' Chwith Deallusol wedi chwalu'r bont ar eu holau. Pregethu am fod yn 'wrth-awdurdodo' ond sicrhau fod eu plant yn mynd i ysgolion lle mae awdurdod, trefn a pharch. Pregethu nad yw safonnau iaith a gramadeg yn bwysig ond sicrhau fod eu plant hwythau yn siarad a sgwennu Saesneg cywir. Pregethu yn erbyn 'cristongaeth' a 'chrefydd' a gwneud hwyl am beth 'ysgol sul' boring anffasiynnol ond pasio i'w plant y gwerthoedd a magwyd da a magwyd hwy arnynt ond torri'r cysylltiad i eraill gael moesoldeb a threfniadaeth syniadol gref.

Hen bryd i'r Chwith Brydeinig - ac o fewn Plaid Cymru - ysgwyddo peth o'r bai cyn mynd i gega am Thatcher bla bla bla.

Ioan said...

Anon- nes di ddarllen y blog, neu o't ti jest isho rant? Pwynt y blog (os dwi di ddarllen o'n iawn), ydi bod na ddim ateb hawdd. Ti weld yn engraifft berffaith o rywun sy'n defnyddio'i ragfarn i ddod i gasgliad.

Cai Larsen said...

Ia Ioan, dyna union bwynt y blogiad - 'dydi neidio'n ol at ein rhagfarnau ddim yn debygol gynnig datrysiadau - ac mae rant anon yn esiampl perffaith o hynny.

Anonymous said...

Yn barchus, mae "Anonymous" yn gywir, yn fy marn i: y "Loony Left" a'r 60'au ydy'r hadau am y terfysgoedd yma. Mwy o hawliau i'r "wrong-doers" na'r pobl sydd yn cadw ar ochr iawn y gyfraith.

Ond ar y llaw arall, mae yna agweddau "way too much to the right" mewn pethau eraill, a dwi'n siarad o brofiad go sûr wrth ddweud hynnu.

Cai Larsen said...

Wel ia - dyna ydi dy farn di - ond os nad oes gen ti dystiolaeth i'w gefnogi yna rhagfarn sydd gen ti.

Y 60au oedd yn gyfrifol am derfysgoedd Notting hill ym 1958 neu'r Red Lion Square Disorders yn 1974, y Chapeltown Riots ym 1975 neu'r Old Market Riots yn 1932?

Bu tua 35 achos o derfysg sylweddol ar strydoedd Lloegr ers 1907 - ac roedd tua traean o'r rheini yn ymwneud a phobl a anwyd cyn 1960.

Roedd yna tua 10 achos o derfysg yn Oes Fictoria - gyda chryn dipyn o dywallt gwaed mewn nifer ohonynt. Y chwe degau oedd y bai an y rheiny?

manonel said...

Dydi gwleidyddion ddim isio cyfaddef fod unrhyw broblem yn gymhleth. Mae'n llawer haws dod i fyny efo datrysiad syml i broblem syml, tydi?

Mae yna elfennau ym mhob barn sydd werth eu trafod, wrth gwrs, ond mae dibynnu ar hen rhetoric gwrth-Doriaid neu gwrth-unrhyw blaid yn gywilyddus.

Fel mae’r blog hwn wedi son, sut mae beio’r 30 mlynedd diwethaf o lywodraeth yn esbonio beth ddigwyddodd yn Llundain, Manceinion a dinasoedd eraill yn ddiweddar?

O ran beth dwi wedi clywed gan bobl ifanc maent yn ysu i wneud eu gorau ond yn teimlo’n rhwystredig iawn ac yn gweld y ‘sustem’ (addysg, gwaith, budd-daliadau ayb) yn trio’i gorau glas i ddifrodi unrhyw gam maent yn cymryd. Mae miri heddiw efo canlyniadau lefel A yn dweud llawer - ers pryd mae’n ddiwedd y byd i fynd i brifysgol? Mae’n hen bryd i ni edrych yn fanwl ar negeseuon rydym i gyd yn rhoi i’n plant a phobl ifanc.

Anonymous said...

Anonymous 11:45 eto.

Nid rhag-farn ydy o! "Logical conclusion" ydy o. "Sounds like a duck, walks like a duck, swims like a duck, ergo it IS a duck"

Oedd, fe oedd yna terfysgoedd yn y 1700'au a'r 1800'au (ymhell cyn y 1960'au), ond sut daeth dros y terfysgoedd adegau yna? COSB LLYM i'r "perpetrators"!

Beth ydy cosb y rhai dyddiau yma? Mewn dau air Saesneg, "practically nothing"! Mae yna "do-gooder's" a "bleeding heart brigades" uchel mewn cymdeithas yn ceisio lleihau cosb nhw.

Mewn effaith ("In essence"), bydd "victim" yn cael cosb a'r "perp" yn cael "get away"!

Cai Larsen said...

Anon 11:27. Mae hyn yn gamargraff mae gen i ofn.

Yn y gorffennol gallai cosb am derfysg fod yn ddifrifol iawn, ond i'r rhan fwyaf o ddigon bobl nid oedd yna unrhyw gosb o gwbl - yn y dyddiau cyn CCTV 'doedd hi ddim yn hawdd gwybod pwy oedd yn cymryd rhan mewn terfysg a phwy 'doedd hi ddim yn bosibl dod o hyd i dystiolaeth yn y rhan fwyaf o achosion.

Cofier hefyd bod y system garchardai yr ydym ni yn ei hadnabod yn deillio o Oes Fictoria. Doedd hi ddim yn arferol cloi pobl i fyny fel cosb cyn hynny.

Mae'r un mor rhesymegol i rai gasylltu'r digwyddiadau efo toriadau mewn gwariant cyhoeddus ac ati ag ydi hi i chi eu cysylltu efo polisi dedfrydu nad ydych yn ei hoffi.

Bwlch said...

Ateb Anon ydi felly danfon pawb i Awstralia eto!!!!!!Adain dde mor gul ei meddylia mae'n anhygoel weithiau!!!!