Wednesday, August 03, 2011

Pwysigrwydd y 'Flotilla Effect' i wleidyddiaeth Cymru

Mae'n debyg na fydd neb sy'n darllen blogmenai yn rheolaidd yn synnu rhyw lawer fy mod yn tynnu sylw at bapur diweddar Adam Price a Ben Levinger.  Mae'r papur yn sefydlu perthynas rhwng perfformiad economaidd cadarnhaol a gwladwriaethau cymharol fach - mewn cyd destun Ewropiaidd o leiaf.  Hynny yw mae'r gwaith sy'n sail i'r papur yn canfod bod gwledydd llai yn fwy tueddol o lwyddo yn economaidd na rhai mawr - ac yn bwysicach yn cynnig eglurhad am hynny - bod gwledydd llai yn gorfod canlyn polisiau o fasnach agored, eu bod yn fewnol gydlynus, eu bod yn hyblyg a bod cyfansoddiad economaidd Ewrop yn fwy addas ar gyfer gwledydd llai nag ydyw ar gyfer rhai mawr.


Rwan mae yna ffynnon go ddofn o wybodaeth i dynnu arno yn y papur - a 'dwi'n siwr y byddwn yn ceisio gwneud hynny maes o law.  Cyn gwneud hynny fodd bynnag, hoffwn nodi pwysigrwydd y gwaith mewn cyd destun gwleidyddol cyfoes.  'Does yna neb (hyd y gwn i) wedi sefydlu'r berthynas rhwng maint gwladwriaethol a llwyddiant economaidd a gosod hynny yn ei dro yng nghyd destun gwleidyddiaeth gyfoes Gymreig o'r blaen.

Er bod y papur ei hun yn nodi nad mater economaidd yn unig ydi'r cwestiwn ynglyn a threfniant cyfansoddiadol Cymru, byddwn yn dadlau bod ennill y ddadl economaidd ar lefel ddeallusol yn symud yr unig wir dramgwydd i ennill y ddadl ehangach ynglyn ag annibyniaeth Cymru.  Os ydym yn derbyn bod Cymru'n wlad (ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn hynny bellach), ac os ydi'r ddadl y byddai'n llwyddo'n economaidd petai yn rheoli ei hun (fel y rhan fwyaf o wledydd eraill), hefyd yn cael ei hennill - yna mae'r dadleuon sy'n weddill tros gynnal yr undeb yn edrych yn hynod wachul yn fwyaf sydyn. 

1 comment:

Anonymous said...

Papur da iawn gan Adam, er ei fod mewn rhai agweddau yn unochrog. Wrth gwrs, does dim bai yn hyn o beth.

Er pwysigrwydd y papur ynddo ei hun ar materion a drafodir ynddo, teimlaf mai cais gan Adam ydyw i atgoffa ni gyd fod o dal yno.

Fy hun, fedrai ddim gweld pwy all fod yn well i gymeryd awennau y blaid. Mater o sut ddylai Adam fod yn arweinydd yn hytrach na os ydio yn fy marn i.

Arweinydd heb sedd? Sa hynnu yn well gen i nag unrhyw un arall sydd wedi dangos diddordeb. Heblaw am Dafydd Wigley, does neb arall or un safon ag Adam.