Byddwn wedi tybio ei bod yn weddol amlwg nad ydi cyhuddiadau arweinydd Cyngor Penfro, John Davies bod y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn 'targedu' cynghorau annibynnol yn gwneud llawer iawn o synnwyr. Mae'n wir bod cynghorau Mon a Phenfro o dan y morthwyl i wahanol raddau ar hyn o bryd, ond mae hefyd yn wir eu bod yn gyfrifol am eu problemau eu hunain. Mae Ynys Mon yn baragon gwyrdroedig o gam lywodraethu idiotaidd, tra bod Sir Benfro yn rhoi'r argraff nad ydynt yn rhoi digon o bwyslais ar ddiwigio problemau sefydliadol yn eu trefniadau amddiffyn plant. Dylai hyn fod yn brif flaenoriaeth i unrhyw gyngor.
Yn ychwanegol 'dydi'r naill gyngor na'r llall ddim hyd yn oed yn ymddangos ar radar etholiadol Llafur - bydd eu holl sylw nhw wedi ei droi at ail adeiladu eu ceiri lleol yn ninasoedd mawr Cymru a'r Cymoedd ym mis Mai.
Mi fyddwn, fodd bynnag yn dweud un peth - ac yn dweud hynny yn garedig fel rhywun sydd a mwy o lawer amser i Leighton Andrews na sydd ganddo i weddill gweinidigion y llywodraeth yng Nghaerdydd. Mae Leighton yn greadur gwleidyddol iawn. 'Dwi'n gwybod bod hynny'n rhywbeth rhyfedd i'w ddweud am wleidydd, ond mae'n hoffi cael y maen i'r wal yng nganol goleuadau'r cyfryngau. Mae'n hoffi mynegi ei bersona gwleidyddol ynghanol y goleuni hwnnw - persona arw (yn ystyr abrasive y gair hwnnw), penderfynol sy'n gwybod yr hyn mae ei eisiau a sydd am fynnu cael yn union hynny
'Does gen i ddim oll yn erbyn hynny - byddai Cymru'n well lle o lawer petai mwy o'i gwleidyddion yn ymdebygu i'r hyn mae Leighton yn ymgyraedd ato. Ond mae'n wrth gynhyrchiol i fynnu actio'r rol yma'n gyhoeddus. Petai'r dyn yn dweud ei ddweud ac yn gwneud ei wneud y tu hwnt i sylw'r cyfryngau, byddai'n fwy tebyg o gael ei ffordd. A bydd hanes yn ei feirniadu yn ol yr hyn mae wedi ei lwyddo i'w wneud, ac nid ar pa mor dda mae wedi cynnal act gyhoeddus.
Os ydyw am wneud gwahaniaeth go iawn - a 'dwi'n siwr mai dyna mae am ei wneud - dylai roi'r gorau i'r actio a'r ystumio cyhoeddus a rhoi blaen ei droed yn ddirgel ond yn galed a phoenus yn lleoedd hynny sy'n cyfri - y lleoedd diog, hunan fodlon, hunan gyfiawn hynny ym mywyd cyhoeddus Cymru sydd o fewn cyrraedd ei gyfrifoldeb gweinidogol. Mae yna ddigon ohonyn nhw - wir Dduw!

1 comment:
Mae John Davies, tybiaf, wedi rhoi ei hyn fel tipyn o arwr i arweinyddion cynghorau eraill. Arweinyddion Gwynedd er enghraifft yn ei addoli am roi 'trefn' ar ysgolion ei sir.
Mi oedd ei frawddeg, wedi cyhoeddiad adoddiad Estyn, bod hyn yn wers i "bob cyngor" yn rhoi'r teimlad ei fod o yn oruwch beirniadaeth.
Panic colli wyneb wedi sylwi nad oedd Sir Benfro, na'i arweiniad o, ddim mor berffaith a hynny ydi'r ymatebion rwy'n amau.
Post a Comment