Tuesday, August 30, 2011

Ymateb y wasg Gymreig i stori'r Independent on Sunday

'Dwi'n gwybod fy mod yn mentro diflasu pawb, ond mwy am yr ymateb i sylwadau gwrth Gymreig Roger Lewis sydd ar yr arlwy heddiw mae gen i ofn.

Ymateb diweddaraf y wasg (honedig) Gymreig sydd o dan sylw heddiw, sef y ddau gampwaith newyddiadurol o stabl Trinity Mirror, y Daily Post a'r Western Mail.  Mae ymateb y papurau yn dinoethi rhai o'u gwendidau nhw eu hunain yn benodol a gwendidau'r cyfryngau Cymreig yn gyffredinol.  Mi wnawn ni ddechrau efo'r Post - 'does gen i ddim linc i'r stori mae gen i ofn.


Adrodd ar stori'r  Independent on Sunday mae'r papur mewn gwirionedd. 'Does gan y Post ddim diddordeb o gwbl yn Ne Cymru wrth gwrs, a 'dydyn nhw ddim yn gwybod llawer am y lle chwaith.  Felly mae'n ddigon naturiol nad ydynt yn dweud gair yn eu hymdriniaeth  am sylwadau Lembit Opik, Chris Bryant na Peter Black.

Y peth mawr - y peth mawr, mawr, mawr - i'r Post ydi sylwadau Denbigh born Carol Vorderman.  Maent hefyd yn ailadrodd rhai o sylwadau Roger Lewis ac yn cyfeirio'n frysiog at Jonathan Edwards.  'Dydyn nhw ddim yn trafferthu egluro pam bod barn seren deledu sy'n hanner Cymraes, hanner Iseldirwraig sydd wedi ei geni yn Lloegr, nad yw'n siarad Cymraeg a sydd wedi byw y tu allan i'r wlad am fwy na deg mlynedd ar hugain yn fwy arwyddocaol na barn unrhyw un arall. Ond hi, a hi'n unig sy'n cael mynegi barn ar y mater gan North Wales' Best Read Paper. 

Mae ymateb y Western Mail yn waeth o lawer.  O leiaf mae'r Daily Post yn dangos rhyw  arwydd o fod efo agenda a meddylfryd annibynnol eu hunain - maent yn cicio cymaint o Hwntws a phosibl allan o'r stori.  Y cwbl mae'r Mail druan yn lwyddo i'w wneud ydi ail bobi stori'r  Independent on Sunday ac ychwanegu ambell i bwynt bychan na ymddangosodd yn y papur Seisnig.

'Rwan, dwi'n gwybod bod y Western Mail yn sobor o ddi hyder, 'dwi'n gwybod bod y papur yn dreuenus o anabl i yrru ei agenda ei hun, 'dwi'n gwybod ei fod yn gadael i'r wasg Lundeinig arwain y ffordd ar bron i bob mater.  Ond byddai dyn yn meddwl y gallai hyd yn oed y cadach gwlyb o bapur hwn (sydd yn disgrifio ei hun fel papur cenedlaethol Cymru) fentro mymryn a chicio yn erbyn y tresi wrth ddelio a stori sy'n ymwneud yn benodol a Chymru, ac ymddwyn fel petai yn gwybod mymryd mwy na'r Indie ynglyn a'r  mater.  Ond na - maen nhw'n dilyn lein y papur Seisnig i'r llythyren.

Yn y cyfamser aeth llwyth o amaturiaid ar y blogosffer (Syniadau, Valleys Mam, HRF, Blog Banw ayb) ati i edrych ar y mater o ongl Gymreig, a rhoi gwedd Gymreig iddi - a thrwy hynny ymdrin a'r mewn modd miniocach o lawer o safbwynt newyddiadurol.


Er enghraifft, mae cyfeiriadau wedi eu gwneud ar y blogosffer at ddiffyg Cymreigrwydd rhai o'r cymeriadau a ddyfynwyd gan y Sunday Independent fel  ymateb Cymreig, cafwyd gwybodaeth am hanes Chris Bryant o ymateb yn hysteraidd yn y gorffennol i ymysodiadau ar grwpiau eraill (peldroedwyr Eidalaidd a phobl hoyw),  Cafwyd awgrymiadau bod y cyfryw wleidydd yn arddel safonau dwbl, neu ei fod yn ymateb i ddigwyddiadau mewn modd oportiwnistaidd ac anghyfrifol er mwyn dangos ei hun ac ennill mantais wleidyddol byr dymor (wel - rwan rydych yn cael yr olaf o'r uchod a dweud y gwir). 


Ond nid dyna a geir gan y wasg 'Gymreig' - fersiwn y Sunday Independent wedi ei ail bobi sydd gan y Western Mail i'w gynnig i ni, a fersiwn y Sunday Independent wedi ei garthu o gyfeiriadau at bobl o'r De sydd gan y Daily Post.

Tybed os oes yna unrhyw wlad fodern arall efo gwasg genedlaethol mor dreuenus o daeog, di hyder a di glem?

No comments: