Thursday, August 11, 2011

Bendithion y Gemau Olympaidd - rhan 1.

Mae'n fy mhoeni bod rhai o ddarllenwyr blogmenai o dan yr argraff bod yr awdur yn dioddef o rawnwin surion yn sgil y ffaith i Gymru gael y fraint o gyfrannu £400,000,000+ tuag at Gemau Olympaidd Llundain a chael didli sgwot yn ol ar ffurf contractau.

Er mwyn rhoi'r cyhuddiad hwnnw o'r neilltu unwaith ac am byth 'dwi am gynhyrchu blogiadau achlysurol fydd yn dangos y defnydd clodwiw sy'n cael ei wneud o'r £400m.

Cyflwynaf i'ch sylw Pel Law  neu Handball.


'Does yna neb bron yn y DU erioed wedi chwarae'r gem, er bod tim dynion Prydeinig wedi bodoli ers 1969.  Mae'r cyfryw dim wedi llwyddo i guro Oman, Ynysoedd y Ffaro  (collwyd y saith gem arall yn erbyn yr Ynysoedd),  Jordan, Iwerddon, Bwlgaria a Gwlad Belg a sicrhau gem gyfartal gyda Lwcsembwrg. Gemau cyfeillgar oedd y cwbl ag eithrio'r un yn erbyn Bwlgaria.  Mae'r tim merched yn waeth o lawer.  Ond mae'r ddau dim yn cael cystadlu oherwydd bod y Gemau yn y DU - oni bai am hynny ni fyddai ganddyn nhw obaith mul o fynd ar gyfyl y jambori elitaidd. 

Beth bynnag, mae'n ymddangos ei bod yn hynod bwysig bod y DU yn gallu cystadlu efo.gwledydd sydd wedi bod yn chwarae'r gem yn gyson ac yn llwyddiannus ers dechrau'r ganrif ddiwethaf - felly dyna fynd ati i wario £3m er mwyn adeiladu sgwadiau, ynghyd a £44m ar stadiwm 7,000 sedd er mwyn i bobl gael gwylio'r gamp - y rhan fwyaf o ddigon ohonynt am y tro cyntaf a'r tro olaf. 

5 comments:

Anonymous said...

Cyd-ddigwyddiad dy fod yn dewis dechrau gyda 'Handball'. A welaist ti raglen Hidden Historys (ail ddarllediad) yn ddiweddar?
http://www.bbc.co.uk/blogs/waleshistory/2011/01/hidden_histories_27_january.html
Ynddo roedd yn son am hen wal dafarn lawr yn Nelson, de Cymru, sydd yn rhan o gwrt gem boblogaidd o'r ardal - yr unig gwrt o'i bath yn y DG - sydd wedi cael ei warchod oherwydd dyna lle mae pobl yr ardal yn chwarae 'handball' arni ers canrif a hanner. Mae traddodiad balch o handball yng nghymoedd de Cymru:
http://www.casgliadywerincymru.co.uk/item/9874-nelson-handball-court-1965
http://heritageofwalesnews.blogspot.com/2011/01/uks-only-purpose-built-handball-court.html

Ond ag eithrio hynny, rwy'n cytuno'n llwyr a thi...ond bod hyn yn gyd-ddigwyddiad rhyfedd!

Cai Larsen said...

Na welais i ddim o'r rhaglen - ond mae handball wedi esblygu o nifer o hen gemau.

Hyd y gwn i does yna ddim cysylltiad o gwbl rhwng y fersiwn fodern a chymru.

Anonymous said...

The only hurdle to accessing this is of course
human limitations and the fact that the brain does not function
solely as a learning tool for the human being. *Rounds table format.
28.

Look into my website; great pub quiz names

Anonymous said...

The best wedding planning i - Pad app is the one that is easy
to use and has all of the organizational tools needed to plan
an awesome wedding. (Here's the key difference. If necessary, place a polite reminder on your sign-in page that this is not an informal website, and that distasteful comments will be removed.

Visit my homepage; wedding website advertising

Anonymous said...

Fun and nutritious Paleo Toddler Dessert Recipe.
Let me tell you a quick story about the beauty of filling up on a paleo diet
breakfast. Nuts(non processed) - Nuts are cholesterol free and eating one ounce per
day reduces the risk of heart disease and type 2 diabetes.



my page; the paleo diet and weight loss