Saturday, August 21, 2010

Yr hyn sy'n gyffredin rhwng S4C a hanner peint o John Smiths

Chwi gofiwch 'dwi'n siwr bod rhai o ymgeiswyr, (a bellach Aelodau Seneddol) y Toriaid wedi bod yn mynd o gwmpas y gorsafoedd radio cyn yr etholiad cyffredinol yn ein sicrhau na fyddai cyllideb S4C yn cael ei thorri. Mi fyddwch hefyd yn cofio i'r llywodraeth 'berswadio' S4C i gymryd toriad o £2,000,000 yn wirfoddol yn fuan iawn wedi i George Osborne gael ei ben ol ar leder moethus 11 Downing Street, ac i doriad llai gwirfoddol hyd yn oed o £25m dros 4 blynedd gael ei ddatgan yn fuan wedyn. 'Dydi Jeremy Hunt, y gweinidog treftadaeth yn Llundain ddim yn ol pob golwg yn rhy awyddus i drafod y mater efo'r gweinidog cyfatebol yng Nghymru.


Yn ol Golwg mae Arwel Ellis Owen yn bwriadu cynnal ymgyrch i ennill cefnogaeth i'r sianel. 'Does yna ddim manylu ar natur yr ymgyrch, na'r gefnogaeth sydd ei hangen. I mi mae natur y gefnogaeth sydd ei hangen yn eithaf syml - dylid dwyn cymaint o bwysau gwleidyddol a phosibl i leihau, neu ddileu'r toriadau. Calon yr ymgyrch honno ddylai fod y cysyniad bod S4C yn achos arbennig - yn achos sydd y tu hwnt i'r storm gyllidol bresenol. Mae S4C wedi bod yn achos arbennig ers y diwrnod y penderfynwyd ei sefydlu - cyfiawnhad gwleidyddol a ieithyddol oedd yna tros ei sefydlu - dim arall. Mae'r sianel yn rhan pwysig o'r rhwydwaith o strwythurau sy'n cefnogi'r iaith - mae ei gwanhau yn debygol o wanhau'r holl strwythur. Y cwestiwn a ddylai fod yn greiddiol i ymgyrch Arwel ydi hwn - ydi'r iaith werth £25m i'r glymblaid Doriaidd / Lib Dem?

A faint ydi £25m i'r llywodraeth? Wel o'r £661,000,000,000 a werir yn flynyddol gan y wladwriaeth mae'n dod i lai na 0.004%. Neu i roi pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol - dychmygwch bod teulu sydd ag incwm o £30,000 y flwyddyn yn gorfod gwneud toriadau oherwydd eu bod yn gwario gormod, a'u bod yn crafu yma ac acw am ffyrdd i arbed arian. Mi fyddai'r £25m yn cyfateb i £1.20 - hanner peint y flwyddyn o John Smiths yn Wetherspoons.

A oes angen dweud mwy am agwedd y glymblaid at y Gymraeg?

12 comments:

Anonymous said...

gymaint a hynna am beint o John Smiths yn y Spoons! Prisiau wedi codi mae'n amlwg.

Anonymous said...

mae'n siwr mai chdi sy'n iawn. ond y drwg ydi bod 'ein' sianel wedi ymddwyn mewn modd mor gythreulig o drahaus ers cyhyd - a rhoi trwyn yn rhych yn Blaid Lafur gyda'r fath arddeliad - fel nad oes yna unrhyw gysylltiad emosiynol ar ol rhyngom ni y gwylwyr a hi. ar ben hynny, yn hytrach na gorwedd ar eu boliau gerbron y genedl ymddiheuro ac ymbil am faddeuant, be mae'r diawled twp yn ei wneud yn apwyntio Arwel Ellis Owen i redeg y sioe: gwr nad yw'n gwybod ystyr y gair gwyleidd-dra heb son am ei arfer...

y gwir amdani yw hyn, oni bai bod John Walter ac Arwel 'Panorama' yn mynd, fydd na fawr neb yn codi bys i achub 'ein' sianel. achos hefo nhw wrth y llyw, chdyig iawn ohonom sy'n teimlo ei bod yn perthyn i ni...

Cai Larsen said...

gymaint a hynna am beint o John Smiths yn y Spoons! Prisiau wedi codi mae'n amlwg.

Neu nad ydw i erioed wedi prynu peint o John Smiths wrth gwrs.

Cai Larsen said...

Anon 7:11

'Dwi'n cytuno nad ydi'r sianel wedi gwneud fawr ddim i helpu ei hun yn ddiweddar, ac nad ydi'r sawl sydd wedi bod yn ei rhedeg gyda'r mwyaf atyniadol - ond mae'r sianel yn bwysicach na'r unigolion sy'n rhedeg y sioe ar adeg arbennig.

Anonymous said...

Y broblem yw y byddai penaethiaid y sianel yn cymryd cefnogaeth i'r egwyddor fel cefnogaeth i'w hymddygiad gwaradwyddus.

Teg yw rhoi ystyriaeth i ddadl Alun Davies y dylai aelodau awdurdod S4C a gwehilion ei chamreolwyr trachwantus sefyll i'r neilltu.

Cai Larsen said...

Wel - fel y dywedais - mae'r sianel yn bwysicach na'r sawl sy'n ei rhedeg.

Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Anonymous said...

ydi mae'r sefydliad yn bwysicach na'r unigolion. fel y dywedais, mae'n siwr mai chdi sy'n iawn - yn ddamcaniawthol, beth bynnag. serch hynny, y realiti ydi fod yr ymdeimlad o berthyn (neu beidio) yn allweddol os am greu ymgyrch ystyrlon. a'r gwir amdani ydi nad ydi'r gynulleidfa graidd yn teimlo mai'n sianel 'ni' ydi hi bellach. a tra bod John Walter yn parhau yn ei swydd fel na bydd hi. a felly John Walter yn goroesi = dim ymgyrch ystyrlon. sori. ond fel na mai...

Cai Larsen said...

Mi fyddwn yn dychwelyd at y mater maes o law.

Anonymous said...

edrych ymlaen at glywed dy argraffiadau pellach ond, yn y cyfamser, gan y gallwn fod yn gwbl sicr bod na rhywun yn Parc Ty Glas yn darllen hwn ac yn danfon memos hwnt ac yma ynglyn a'i gynnwys ga'i plis ychwanegu'r canlynol:

John Walter, gwna'r peth anrhydeddus. Ymddiswydda.

Anonymous said...

Beth mae John Walter Jones wedi gwneud?

Dwi ddim yn gwylio lawer o deledu o gwbwl, on s4c byddaf yn gwylio'r amseroedd prin hynny. A ellith anhysbys esbonio mwy i rywun fel finne? Diolch.

Anonymous said...

Diolch am esbonio.