Saturday, July 25, 2009

Helynt y trenau trydanol


O diar - ffrae arall - ynglyn a'r cynlluniau i drydaneiddio'r hen Great Western yr holl ffordd i Abertawe y tro hwn. Alwyn a Llais Gwynedd (yn gwisgo eu mwgwd cenedlaetholgar am y tro) sydd ar un ochr yn dadlau yn erbyn y cynllun trydaneiddio a Rhydian a gwahanol Bleidwyr sydd ar y llall yn dadlau o'i blaid.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi fy mod yn credu y dylai'r holl system rheilffyrdd yng Nghymru ac ym Mhrydain gael ei thrydaneiddio cyn gynted a bod hynny'n fforddiadwy. Ar hyn o bryd tua 40% o'r system sydd wedi ei thrydaneiddio. Mae hyn yn isel iawn wrth safonau Ewropiaidd. Y brif ddadl tros wneud hyn ydi bod system sydd wedi ei thrydaneiddio yn llawer glanach o safbwynt amgylcheddol - yn enwedig os ydi'r trydaneiddio yn digwydd mewn cyd destun lle mae yna symudiad i ffwrdd oddi wrth bwerdai sy'n defnyddio tanwydd ffosil - rhywbeth sy'n digwydd ar hyn o bryd. Dadl arall ond eilradd o blaid y cynllun ydi ei fod yn debygol o greu cryn dipyn o swyddi yn y De mewn amser anodd - mae'n fuddsoddiad sylweddol - mae'n costio tua £600,000 i drydaneiddio 1km o drac.



'Dwi'n gallu deall pam bod Alwyn, y Tad Deiniol ac ati'n flin - ond 'dwi'n meddwl eu bod yn camgymryd ac yn drysu dau fater gwahanol yma. Gwneir cryn dipyn gan Alwyn o sylwadau gan golofnydd y Guardian, George Manibot. Mae sylwadau George yn ddiddorol, a byddaf yn dychwelyd atynt maes o law - ond (a heb fod mor ddi gywilydd a siarad ar ran George) mi fyddai'n syndod i mi os nad yw yntau o blaid trydaneiddio'r system yn ei chyfanrwydd - wedi'r cwbl iddo fo newid hinsawdd ydi mater pwysicaf yr Oes yma o ddigon.

Beth bynnag - dyma'r sylwadau mae Alwyn yn eu dyfynu:

The railway map of Wales is a classic indicator of an extractive economy. The lines extend either towards London or towards the ports. As Eduardo Galeano established in The Open Veins of Latin America, the infrastructure of a country is a guide to the purpose of its development. If the main roads and railways form a network, linking the regions and the settlements within the regions, they are likely to have been developed to enhance internal commerce and mobility. If they resemble a series of drainage basins, flowing towards the ports and borders, they are likely to have been built to empty the nation of its wealth for the benefit of another. Like Latin America, Wales is poor because it was so rich. Its abundant natural resources gave rise to an extractive system, designed to leave as little wealth behind as possible.

'Rwan 'dwi'n digwydd cytuno efo'r sylwadau, ond 'dwi'n meddwl fy mod yn eu dehongli yn wahanol i Alwyn a'r Tad Deiniol (os 'dwi'n anghywir yma, 'dwi'n ymddiheuro).

Cyn mynd ymlaen, fe gawn ni gip bach sydyn ar hanes datblygu'r rheilffyrdd ym Mhrydain. 'Roedd y ffordd y datblygodd y system ym Mhrydain yn wahanol iawn i'r hyn a ddigwyddodd yn Ffrainc, neu Wlad Belg er enghraifft. Yng Ngwlad Belg y llywodraeth oedd yn gyfangwbl gyfrifol am adeiladu'r rheilffyrdd. Yn Ffrainc roedd gan gyfalaf preifat ran yn y broses, ond y llywodraeth oedd yn gwneud y penderfyniadau mawr. Roedd pethau'n gwahanol ym Mhrydain - cyfalaf preifat oedd yn gyfrifol am ddatblygu'r system hyd i'r job lot gael ei wladoli gan Attlee.

Mae'r rhesymau am y gwahaniaeth yma yn gymhleth ac yn aml ochrog - ond roedd dau ffactor yn bwysicach na'r lleill - yn gyntaf, argaeledd cyfalaf preifat ym Mhrydain Oes Fictoria, ac yn ail roedd rhaid i wledydd ar dir mawr Ewrop gymryd materion strategol i ystyriaeth wrth adeiladu rheilffyrdd - mae defnydd milwrol i drenau, ac roedd Ewrop Oes Fictoria yn lle peryglus iawn o safbwynt milwrol. Roedd Prydain yn ynys oedd wedi ei hamddifyn gan lynges anferthol.



A'r gair pwysig yma ydi strategol - mae system rheilffyrdd Ffrainc wedi ei hadeiladu mewn ffordd strategol - 'does ond angen edrych ar y ffordd mae'r system yno wedi ei ganoli ar Paris ac yn ymestyn i pob cornel o'r wlad - fel pelydrau o haul. 'Doedd yna ddim ystyriaethau strategol wrth adeiladu'r rheilffyrdd ym Mhrydain Oes Fictoria - ystyriaethau masnachol oedd yn gyrru'r broses. Y drefn arferol oedd bod consortiwm o ddynion busnes yn gofyn i San Steffan am ganiatad i adeiladu rheilffordd - ac roeddynt yn gwneud hynny am resymau masnachol, ac am resymau masnachol yn unig.

Er enghraifft adeiladwyd y Great Western (cyn ein bod yn trafod honno) hyd at Fryste yng nghanol y ganrif cyn yr un ddiwethaf gan gyfalafwyr o Fryste oedd eisiau amddiffyn statws y ddinas honno (a'u helw eu hunain) fel ail borthladd yr Ymerodraeth. Roedd Lerpwl yn tyfu'n gyflym ac yn bygwth cymryd ei lle. Gwnaed cais i'r Senedd yn 1833 i gael adeiladu rheilffordd, caniatawyd y cais hwnnw yn 1835 - ond cyfalaf preifat a adeiladodd y lein.

'Rwan mae hyn yn arwain at wahaniaeth sylfaenol rhwng system Ffrainc ac un Prydain - mae'r system Ffrangeg wedi ei hadeiladu gyda gweledigaeth strategol y tu ol iddi, dydi un Prydain ddim - mae hi'n fwy mympwyol o lawer. 'Dydi'r system heb ei chreu efo'r bwriad o ddarnio Cymru, na'i goresgyn - cafodd ei hadeiladu i wneud pres i nifer fach o bobl.

Mi ddywedais yn gynharach nad oeddwn yn anhytuno efo George - a 'dydw i ddim - ond y pwynt 'dwi'n meddwl oedd yn ei wneud oedd mai adlewyrchiad o natur economi Cymru yn Oes Fictoria oedd y system rheilffyrdd - nid achos y drefn honno (ond 'dwi'n derbyn bod achos ac effaith yn toddi i mewn i'w gilydd mewn sefyllfaoedd cymhleth fel hyn weithiau).

Hynny yw, ar aml i wedd roedd Cymru yn cael ei thrin fel trefedigaeth - fel India neu Rhodesia dyweder. 'Doedd hi ddim yn cael ei hystyried yn wlad, felly doedd y llywodraeth ddim yn trafferthu rhoi strwythurau a sefydliadau cenedlaethol mewn lle, a 'doedd yna ddim ymdrech i gynnal economi cytbwys. Unig flaenoriaeth y llywodraeth oedd caniatau i fuddiannau cyfalafol wneud cymaint o arian a phosibl - a gwneid hyn trwy ganiatau iddynt ddatblygu is strwythur addas i symud y glo, haearn, llechi, cynyrch amaethyddol ac ati i'r porthladdoedd i'w allforio a'i werthu, neu ei symud i ganofanau poblog Lloegr i'r un pwrpas.

Asset stripping
ydi'r term Saesneg. Yr unig gysur o hyn oll ydi i'r feddylfryd yma arwain at golli miliynau o fywydau mewn gwledydd fel India (a'r Iwerddon o ran hynny). Bu hanes yn ffeindiach efo ni nag oedd efo nhw.

Y rheswm 'dwi wedi mynd trwy'r holl gymhlethdod yma (gobeithio nad wyf wedi colli fy holl ddarllenwyr) ydi er mwyn awgrymu nad oes rhaid i ni edrych ar ddatblygu system drafnidiaeth sy'n mynd i'r Dwyrain fel un enghraifft arall o ymgais gan y Saeson i rannu Cymru - adlewyrchiad o'r economi oedd yn bodoli oedd y datblygiadau blaenorol - a dyma ydi hwn hefyd. Ac yn ychwanegol 'dydi'r datblygiad yma ynddo'i hun ddim yn gwella'r ddarpariaeth deithio llawer - mae'r amserau teithio yn ddigon tebyg - gwella effaith amgylcheddol trenau fydd y prif wahniaeth. Byddai'n rhaid ail osod y cledrau oll i greu darpariaeth cyflymder uchel.

Wedi dweud hyn oll, 'dwi'n cytuno efo'r awgrym sydd ymhlyg yn sylwadau Alwyn (a Deiniol a George) - sef ei bod yn bwysig datblygu cysylltiadau rhwng y De a'r Gogledd - 'dwi'n derbyn ei bod yn hanfodol i ddatblygiad Cymru fel gwlad bod gwelediaeth strategol yn bodoli- a gweledigaeth sy'n ceisio datblygu'r system drafnidiaeth fydd yn intergreiddio'r wlad mewn ffordd na ddigwyddodd erioed o'r blaen yn ein hanes. Mae yna beth gwaith wedi digwydd yn hyn o beth ers i Gymru'n Un ddod i fodolaeth, ac mae hyn wedi achosi peth gwrthdaro rhwng Llafurwyr megis Huw Lewis a'r Pleidwyr. Serch hynny fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef mai camau cyntaf ar daith hir iawn ydi'r rhain.

'Dwi'n cytuno 100% efo sylw George yn ei erthygl y dylai'r Cynulliad ar y lleiaf un edrych ar gynllun penigamp Y Tad Deiniol i wneud defnydd o'r safleoedd hen reilffyrdd sydd eisoes yn bodoli gyda'r bwriad o ddatblygu rheilffordd sy'n mynd o'r De i'r Gogledd. Ond mae hynny'n rhywbeth sydd rhaid i ni ei wneud ein hunain -'dydi San Steffan byth am fabwysiadu strategaeth Cymru gyfan - ein busnes ni ydi hynny. 'Dydi'r cynllun trydaneiddio ddim yma nag acw o ran datblygu gweledigaeth strategol ar gyfer creu system trafnidiaeth Cymru gyfan.

9 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dyfunu a chefnogi safbwynt Tad Deiniol, Alwyn a George Monibot oeddwn i...be ddiawl ti'n son am "mwgwd cenedlaetholgar"?
Twt, Twt Cai mae'n iawn i ni gytuno ar rhai pethau sti?

Alwyn ap Huw said...

Cenedlaetholwr ydwyf Cai, nid ydwyf yn gwisgo mwgwd. Mae fy ngwyneb yn hyll o agored i bawb syllu arno gan guddio dim!

Pan fo Plaid Cymru yn gywir mae'r Blaid yn cael fy nghefnogaeth 110%, pan fo'r Blaid yn anghywir mae'n cael blas fy nhafod.

Tydi a Rhydian sydd yn gwisgo'r mygydau.

Mygydau sydd yn rhwystro eich golwg a'ch gallu i dderbyn bod ambell i sylw gan y Blaid yn rong, yn hollol rong weithiau - megis sylwadau sy'n cefnogi cofeb biliwn punt George Thomas y Tranc lawr yn y sowth!

Cai Larsen said...

Ahem - sori, efallai nad oeddwn yn gwneud fy hun yn gwbl glir Alwyn - does neb yn amau dy fod ti yn gyson dy genedlaetholdeb - at eraill oedd y sylw am fygydau wedi ei gyfeirio.

Wedi dweud hynny 'dwi'n nodi nad wyt yn ymateb i bwynt creiddiol y blogiad - nad oes cysylltiad gwirioneddol rhwng y cynllun trydaneiddio a chynlluniau i wella trafnidiaeth oddi mewn i Gymru.

rhydian fôn said...

Dwi'n credu bod blog Cai wedi esbonio yn well naccc y wnes i pam yr oedd sustem drafnidiaeth Cymru yn rhedeg yn y cyfeiriad mae hi. Mae awydd Alwyn i greu plot ddieflig gan y Sais i wahnhau Cymru yn beryglus - gan ein achosi i anwybyddu'r gwirionedd. Gellir cryfhau linciau mewnol yng Nghymru, ond wrth wneud mae rhaid i ni gynllunio gyda'n economi a daearyddiaeth mewn meddwl, ac nid ei dyheadau am y dyfodol.

Mae linc Abertawe-Llundain, gyda chwarter y lein yng Nghymru, yn fuddsoddiad sylweddol yn y De. Mae'r lein yn bodoli yn barod, felly ni welaf anfanteision mawr - ond ei fod yn haws i nwyddau o Dde Cymru cyrraedd eu marchnad. Arian San Steffan ydi o hefyd. Felly nid oes ganddo ddim byd i'w wneud a rheilffyrdd Cymru.

Alwyn ap Huw said...

Y rheswm pam na ymatebais i sylwedd dy gyfraniad yw oherwydd fy mod i’n cytuno ar ran fwyaf o’r hyn yr wyt yn ddweud.

Yr hyn sydd yn codi’r dal y mae Gwilym a finnau wedi ei gyflwyno parthed rheilffyrdd mewnol yw’r brolio mae Plaid Cymru a lobio Ieuan Wyn fel gweinidog trafnidiaeth sydd yn gyfrifol am y penderfyniad i drydaneiddio rhan o reilffordd y de. Os ydy’r honiad yma’n gywir yna mae’n deg ofyn, os yw Ieu yn lobïwr mor benigamp paham nad aeth o ar ôl fuddsoddiad a oedd yn agosach at ddyheadau Plaid Cymru. Pethau megis trydaneiddio y llinell yr holl ffordd i Gaerfyrddin neu ymofyn am fuddsoddiad i wireddu cynlluniau’r Tad Deiniol?

Rhydian, nid plot dieflig na chodi bwganod cenedlaetholdeb eithafol yw dweud bod Cymru yn rhanedig. Maen ffaith, yn ffaith ddiymwad ac mae’n ffaith oherwydd natur hanesyddol perthynas Cymru a Lloegr. Rwy’n methu gweld sut bod mynegi'r fath ffaith yn beryglus.

Peth trist ar y naw yw clywed gŵr ifanc yn dweud na ddylid cynllunio gyda dyheadau am y dyfodol mewn golwg, yn dristach o lawer pan fo'r gŵr yna yn honni ei fod yn genedlaetholwr ac yn sosialydd. Byddwn yn disgwyl bod dyheu am fyd sydd yn well a chynllunio tuag at y fath nod yn greiddiol i’r ddau gredo.

Cai Larsen said...

Diolch Alwyn.

Mae yna ddeunydd blogiad sylweddol yn y drafodaeth yma.

Mae'n brysur arnaf am ychydig ddyddiau - ond mi geisiaf roi rhywbeth at ei gilydd.

rhydian fôn said...

Alwyn: Ti yn gywir. Dyliwn fod wedi dweud na allwn gynllunio am y dyfodol ar sail ein dyheadau yn unig. Mae gwybod sut y hoffem i'r dyfodol edych - Cymru annibynol, unedig, gyda chyswllt da rhwng y De a'r Gogledd - yn bwysig wrth gwrs. Ond ni allem anwybyddu ffeithiau a gogwyddon ychwaith.

Medraf gytuno a ti 100% pan yr wyt yn dweud bod Cymru yn rhanedig "oherwydd natur hanesyddol perthynas Cymru a Lloegr". Ond mae hynny yn gysylltiedig i'r berthynas economaidd, cymdeithasol a daearyddol hefyd - mae dweud ei fod yn deillio o agweddau gwleidyddol, tra'n rhannol wir, yn gor-symleiddio pan yn anwybyddu ffactorau eraill.

Dwi yn dweud fod hyn yn beryglus gan fod yna berygl i ni goelio hyn - a chredu mae annibyniaeth i Gymru yw'r ateb i bopeth. Fel dwi yn dweud, mae nifer o ffactorau eraill yn clymu Cymru i Loegr - yn bennaf, y strwythur economaidd dwyrain-gorllewin. Fyddai datgan annibyniaeth ac adeiladu cyswllt de-gogledd ddim yn ddigonol i ddiweddu'r patrwm.

Dyma pam rwyf yn ffafrio delio gyda'r mater yn bwyllog. Y cam gyntaf ydi gwella linciau lleol - ffordd osgoi Bontnewydd a Porthmadog, ac ym Meirionnydd, gwella'r A470, uwchraddio lein Dyffryn Conwy, cysyllt rheilffyrdd Blaenau, Porthmadog a Bangor... ayyb. Dydi galw economaidd ddim yn cael ei droi ymlaen gyda swits, felly rhaid gwella linciau lleol a'i gwneud yn raddol haws i fynd o'r gogledd i'r de. Wedyn, erbyn i ni orffen y cymal olaf, bydd y galw economaidd am y linc yno yn barod, fel na fydd y gost o greu cyswllt yn fwrn ar y Gymru annibynol newydd.

Yn olaf, mae'n debyg dy fod yn gywir nad 30 mlynedd o lobio IWJ oedd y tu ol i'r datganiad. Ond rhan o lwyddiant gwleidyddol yw rheolaeth newyddion. A yw'n well fod y Blaid yn dwyn y sylw na Gordon Brown? Yn fy marn i, ydi.

Huw said...

Gwirion yw cymharu Ffrainc gan fod hi'n wlad un dinas. Nid ydyw'n gallu cymharu â'r DU neu'r Almaen sydd a dinasion mawrion fel Manceinion, Glasgow, Birmingham, Leeds a Lerpwl a Hamburg, Frankfurt, Munich a Stuttgart . Tydi Ffrainc rywsut ddim yr un gath, gyda phopeth wedi ei ganolbwyntio ym Mharis.

Strategol yw datblygiad y rheilffyrdd yn y DU. Nid yw dynion busnes wedi bod mor gul a chanolbwyntio popeth ar un dinas. Gall Gogledd Lloegr er enghraifft lwyddo heb y gweddill yn ddiwydiannol ac economaidd gyda llefydd fel Newcastle, Manceinion, Lerpwl, Leeds a'r ehangiadau trefol sydd rhyngddynt. Strategol hefyd yw penderfyniad David Davies i roi rheilffordd lawr i'r Barri i fynd o amgylch Bute i allforio glo. Does dim byd ar hap yma, ond bwriad clir o adeiladu rheilffordd i gyflawni bwriad.

Dylai Plaid Cymru roi taw ar geisio derbyn trydaneiddio fel un o'u hennillion. Bydd neb yng Nghymru fach efo gyda digon o clout i fynnu am biliynau ar gyfer prosiectau tanadeiledd drud.

Ydi mae'n syniad da trydaneiddio'r llinell, ond mi gymerith hi tua 40 mlynedd cyn mae'n talu amdan ei hun.

Byse fo ddim yn syniad gwell canolbwyntio 40 mlynedd ar geisio gael ryw fath o ffordd gwell rhwng y de a'r gogledd? Blaenoriaeth i Gymru'n gyntaf yn lle derbyn rhywbeth ble mae trydaneiddio'r llinell rhwng Abertawe a Chaerdydd yn beth munud olaf.

rhydian fôn said...

Huw: Dwi'n meddwl dy fod wedi llwyddo cryfhau dadl blogmenai yma. Hynny yw, mae strategaeth datblygiad rheilffyrdd yn y DU wedi tueddu bod yn fasnachol. Yn Ffrainc, roedd wedi ei gynllunio yn strategol o'r cannol - gyda'r canlyniad fod popeth wedi ei ganoli o gwmpas Paris. Gan fod datblygiad rheilffyrdd yn y DU wedi bod yn fasnachol, ar y cyfan, mae popeth wedi dilyn llwybr yr arian - lle mae'r elw mwyaf ar gael.

Mae'r Almaen yn beth gwahanol eto, gan ei fod yn gasgliad o beth oedd yn genhedloedd reit fach tan nes Bismarck.

O ran trydaneiddio'r lein, does ddim dadl ei fod yn gostus ac ni wnaiff dalu am ei hun am amser hir iawn. Er hynny, mae'n bwysig iawn i gymryd y camau yna o ran cynhesu byd-eang. Mae ceisio achub y byd yn sicr yn talu am ei hun!

Ydi, mae rhwydwaith reilffordd o fewn y wlad yn bwysig i Gymru. Byddai'n amhosib cael arian San Steffan am lein yng Nghymru. Ond ni welaf y rheswm i'r Blaid beidio a hawlio'r clod am drydaneiddio'r lein o Abertawe i Lundain.