Tuesday, July 21, 2009

Diolch i Blaid Geidwadol Cymru

Diolch i'r Blaid Geidwadol am dynnu ein sylw at y ffaith bod Cyngor Bro Morgannwg ymysg y cynghorau mwyaf gwastraffus Cymru - i'r graddu y gellir barnu hynny ar sail faint a delir i uchel swyddogion o leiaf.

Trwy gyd ddigwyddiad anffodus braidd, y Toriaid sydd yn rheoli Bro Morgannwg.

Diolch bois.

3 comments:

Guto Bebb said...

Methu darllen Cai?

Ail i Gonwy ydi'r Fro - ac mae Conwy dan arweinyddiaeth dy annwyl Blaid. Yn wahanol i ti dwi'n fodlon datgan fod angen ffrwyno cyflogau uwch swyddogion y sector gyhoeddus yn mohob rhan o Gymru - ond amddiffyn dy blaid ydi dy unig agenda di

Cai Larsen said...

Bore da Guto - 'dwi'n hoffi'r blog (go iawn felly). 'Dwi'n rhyw gofio argymell i ti gadw un ers tro byd.

Beth bynnag am hynny, o ddarllen ofalus iawn fe gei i mi nodi bod Bro Morgannwg ymysg y cynghorau mwyaf gwastraffus yng Nghymru.

Mi dybiwn bod ail safle yn wir yn gosod Bro Morgannwg ymysg y cynghorau mwyaf gwastraffus i'r graddau bod hynny'n fesuradwy gan faint cyflogau uchel swyddogion.

rhydian fôn said...

Guto: Dwi ddim yn meddwl fod menaiblog yn dadlau fod cyflogau uwch swyddogion yn berffaith gywir. Dwi'n cyd-fynd a dy farn fod angen ffrwyno ar y cyflogau hynny,

Ond credaf mae pwynt menaiblog yw fod Bro Morgannwg ymysg y cynghorau mwyaf costus - ail yn digwydd bod. Mae hynny yn golygu nad oes gan y Toriaid fawr o le i frolio am eu gallu i dorri costau tra'n cadw gwasanaethau o safon.

Rhaid dweud fy mod yn poeni am y 'ffrwyno'. Ni fedraf anghytuno bo rhai prif weithredwyr ac ati yn cael eu gor-dalu, Ond faint mor bell mae'r Toriaid yn bwriadu mynd? A fydd yna bobl eisiau mynd i wasanaethu'r cyhoedd os yw eu cyflogau a pensiynau yn cael eu torri?